top of page

O'r gynhadledd

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’n cynhadledd flynyddol, 'Gorwelion Newydd’, ar 19 Tachwedd eleni. Mae adroddiad o'r gynhadledd bellach wedi’i gyhoeddi ar dudalen 3 o rifyn diwedd Tachwedd o Cenn@d. Mae’r testun isod neu gallwch gyrchu’r ddolen:



Diolch i Marian Beech Hughes am grynhoi mor grefftus.



Gorwelion Newydd i Gristnogaeth21


‘Gorwelion Newydd’ oedd thema cynhadledd flynyddol Cristnogaeth21, a gynhaliwyd yn rhithiol eleni fore Sadwrn, 19 Tachwedd. Braf oedd gweld llond sgrin o wynebau – rhai cyfarwydd a rhai’n ymuno am y tro cyntaf.


Yn dilyn gair o groeso gan Anna Jane Evans, Cadeirydd C21, cafwyd cyfle yn ystod y defosiwn i wrando ar neges heriol Mia Mottley, Prif Weinidog Barbados, i gynrychiolwyr cynhadledd COP27 yn yr Aifft, gan wneud inni sylweddoli ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb ohonom i weithredu ar frys i geisio achub y blaned fregus hon.


Y siaradwr gwadd oedd John Roberts (BBC), ac yn ei sgwrs gychwynnol ar y testun ‘Heriau’r Dydd’, amlinellodd nifer o’r heriau sy’n wynebu pobl o ffydd y dyddiau hyn, gan gofio am weddi Crist mai’r nod yw bod yn un eglwys. Cyfeiriodd at yr her o geisio darganfod yr hyn sy’n gyffredin rhyngom a’r bobl rydyn ni’n anghytuno â nhw, o sicrhau cydbwysedd iachus rhwng ein hargyhoeddiadau a chwestiynu iachus, ac osgoi’r perygl o fynd i rigol ddiwinyddol saff.


Awgrymodd fod sefydliadau eglwysig, yn wyneb y dirywiad presennol, yn tueddu i ganolbwyntio ar ddefnyddio’u hadnoddau i geisio dal eu gafael yn dynn ar yr hyn sy’n weddill o draddodiadau’r gorffennol yn hytrach na chael eu trawsnewid ar gyfer y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at yr her o ddatblygu arweinyddiaeth addas ac addoliad sy’n cyfathrebu neges Efengyl Crist gan ddefnyddio syniadau a geirfa sy’n berthnasol i ni heddiw.


Rhannwyd yn grwpiau i drafod amrywiol heriau neges John, a gafodd ei disgrifio gan un o’r mynychwyr fel ‘cawod oer – poenus, ond bendithiol’.


Yn y sesiwn nesaf, cafwyd amlinelliad o weithgarwch diweddar Cristnogaeth21, yn cynnwys y wefan ar ei newydd wedd (https://www.cristnogaeth21.cymru/) a’r tri grŵp gweithredol a sefydlwyd yn ddiweddar. Yna, rhannwyd yn grwpiau trafod yn ôl diddordeb y mynychwyr.


Mae’r grŵp Materion Cymdeithasol, dan arweiniad Dafydd Iwan a Gareth Ioan, wedi bod yn edrych ar y sefyllfa pan fydd adeiladau eglwysig yn dod ar y farchnad, rhywbeth sy’n digwydd yn bur aml y dyddiau hyn, wrth gwrs. Yn hytrach na gwerthu adeilad am y pris masnachol uchaf, trafodwyd yr angen i geisio’u defnyddio er budd y gymuned leol, lle mae’n bosib. Gall hyn olygu ffurfio partneriaethau â sefydliadau addas i ddarparu canolfan gymunedol neu dai i’w gosod ar rent i denantiaid.


Dewisodd y grŵp Undod Eglwysig, dan arweiniad Pryderi Llwyd Jones, graffu ar gyfarfodydd blynyddol yr enwadau anghydffurfiol Cymraeg eleni, yn ogystal â chynnal trafodaethau gyda’r Ysgrifenyddion Cyffredinol a hefyd â nifer o ieuenctid sydd â diddordeb yn y gwaith. Gwelwyd cymaint oedd yn gyffredin o fewn y cyfarfodydd hyn, ac y gallai fod yn sail i gydweithio pellach. Yn dilyn hyn, mae’r grŵp wedi cyhoeddi apêl a datganiad yn gwahodd yr enwadau i fynd ati yn ddiymdroi i sefydlu comisiwn i ystyried undod eglwysig. I ddarllen y datganiad yn llawn, ewch i: https://www.cristnogaeth21.cymru/post/datganiad-ar-undod-eglwysig, a chroesewir ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol arferol.


Yn y grŵp Diwinyddiaeth ac Adnoddau, dan arweiniad Anna Jane Evans ac Anna Vivian Jones, ystyriwyd sut i gyfathrebu neges greiddiol y Beibl mewn iaith sy’n ddealladwy ac yn berthnasol i’n dyddiau ni. Teimlid bod angen cael cyfleoedd i drafod a chyfnewid syniadau mewn ffordd agored a deunydd addoli sy’n addas i’n sefyllfa gyfoes.


Yn ei sylwadau clo, cyfeiriodd John at yr angen i ymateb ar frys i’r argyfwng cyfundrefnol sy’n ein llethu. Ychwanegodd fod angen i’r ymateb hwnnw fod yn un creadigol, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’n hadnoddau a chan gadw mewn cof mai ein perthynas â Duw yw’r peth hanfodol. Yr her fwyaf mewn gwirionedd yw sut rydyn ni’n dangos cariad, yn ‘rhoi cwtsh’ i unigolion, i’r gymdeithas o’n hamgylch, ac yn wir i’r byd.



bottom of page