top of page

Amdanom Ni

Nod

Nod C21 yw cynnig llwyfan i ddehongliadau radical, rhyddfrydig a blaengar o’r ffydd Gristnogol a thrwy hynny hwyluso trafodaeth gyhoeddus a myfyrdod personol ar faterion ffydd, gan wneud hynny yn bennaf yn y Gymraeg.

Amcanion

Mae C21 yn hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus a myfyrdod personol ar faterion ffydd drwy’r cyfryngau canlynol:

 

Cyhoeddi testunau ac adnoddau:

  • cyhoeddi e-fwletin wythnosol,

  • cynnal tudalen Facebook,

  • cyhoeddi erthyglau, trafodion ac adnoddau ar y We ac mewn print.

 

Cynnal digwyddiadau:

  • cynadleddau, seminarau a darlithoedd ar faterion o ddiddordeb,

  • cynnal cyfleoedd i Gristnogion encilio a myfyrio ar eu ffydd.

 

Hyrwyddo safbwyntiau blaengar ynghylch materion y dydd:

  • cyhoeddi datganiadau a phapurau safbwynt achlysurol,

  • hwyluso trafodaeth gyhoeddus rhwng sefydliadau allweddol,

  • cydweithio â phartneriaid i hyrwyddo amcanion cyffredin, a

datblygu prosiectau sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.

Themâu gweithredol

Y themâu gweithredol sy’n llywio gwaith C21 yn gyfredol (2022) yw:

  • materion cymdeithasol

  • diwinyddiaeth ac adnoddau

  • undod eglwysig

Gwerthoedd

Mae gweithgareddau a pherthnasau C21 yn cael eu llywio gan y gwerthoedd canlynol:

 

  • Mae C21 yn croesawu i’w gymdeithas unigolion o bob enwad Cristnogol yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn aelodau eglwysig.

 

  • Credwn fod lle i drafod y ffydd Gristnogol heb ddisgwyl unffurfiaeth, gan gydnabod bod yna ystod eang o safbwyntiau diwinyddol o fewn y gymdeithas Gristnogol Gymraeg.

 

  • Mae C21 yn sefyll yn y traddodiad Cristnogol Cymreig ond rydym yn croesawu deialog gydag eraill o bob ffydd a phobl heb ffydd.

 

  • Anogwn bawb i ymuno â’n trafodaethau yn onest, yn agored ac yn gwrtais, gan barchu safbwyntiau a barn ein gilydd.

 

  • Mae C21 yn fudiad sy’n dathlu amrywiaeth y ddynoliaeth ac sy’n hyrwyddo ymagwedd gynhwysol at faterion sy’n ymwneud â ffydd, gan hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd cyfartal i bawb yn ddiwahân.

 

  • Mae C21 yn cydnabod cyfrifoldeb y ddynoliaeth i barchu a gwarchod y greadigaeth ac yn cefnogi ymdrechion i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a lleihau effaith gweithgareddau dynol ar hinsawdd y blaned.

 

Mae C21 yn cydnabod bod gan Gristnogion gyfrifoldebau dyngarol tuag at ein cyd-ddyn a chefnogwn ymdrechion i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, gan geisio adlewyrchu y cariad, cyfiawnder a thangnefedd a adnabyddwn yng Nghrist o fewn y gymdeithas.

Pwyllgor C21

Hwylusir C21 gan Llusern – Cristnogaeth 21 Cymru, sy’n elusen gofrestredig (rhif 1011618). Gweinyddir Llusern gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr ar sail ei gyfansoddiad elusennol.

 

Cadeirydd: Anna Vivian Jones 

Is-gadeirydd: Siân Meinir

Ysgrifennydd: Gareth Ioan

Trysorydd: Gareth Ffowc Roberts

 

Ymddiriedolwyr eraill: Anna Jane Evans, Marian Beech Hughes, Dafydd Iwan, John Gwilym Jones, Pryderi Llwyd Jones, Enid Morgan, Robin Wyn Samuel.

bottom of page