Datganiad Preifatrwydd
GDPR. Mae Cristnogaeth 21 yn parchu preifatrwydd unigolion. Nid yw’r wefan hon yn casglu nac yn dosbarthu manylion y rhai sy’n ymweld â hi. Defnyddir pecyn ystadegol Google Analytics i gasglu data di-enw am nifer yr ymweliadau â’r wefan, a nifer o fanylion technegol, ond nid yw’r data wedi’i gyplysu â gwybodaeth am unigolion.
Yn yr un modd, y mae nifer helaeth o ddolenni ar y wefan hon sy’n arwain y defnyddiwr at systemau eraill allanol, ac mae’n bosib bod rhai o’r rheini yn casglu data am y rhai sy’n eu defnyddio.
Mae modd tanysgrifio i ‘e-fwletin C21’ i’w dderbyn trwy ebost. Defnyddir system MailChimp, sy’n cydymffurio yn llwyr â gofynion GDPR i’w ddosbarthu.
Mae Cristnogaeth 21 yn elusen gofrestredig (Rhif 1011618) sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel 'Llusern'.