Datganiadau
Rhywioldeb: Tachwedd 2020
Mae Cristnogaeth 21 yn fudiad sy’n dathlu amrywiaeth y ddynoliaeth ac sy’n hyrwyddo ymagwedd gynhwysol at faterion sy’n ymwneud â ffydd. Nid yw Cristnogaeth 21 yn cymeradwyo unrhyw ymgais i wahaniaethu yn erbyn pobl ar sail nodweddion sy’n rhan o’u hunaniaeth. Yng nghyswllt ein rhywioldeb amrywiol anogwn ymagwedd oddefgar; ac rydym yn croesawu unrhyw ymgais i wella dealltwriaeth unigolion a grwpiau o amrywiaeth y ddynoliaeth. At hynny, gresynwn at unrhyw ymgais i ddefnyddio’r Ysgrythurau i gondemnio ac allgau unigolion ar sail eu rhywioldeb neu unrhyw nodwedd arall o‘u hunaniaeth gynhenid. Daliwn fod gweinidogaeth Iesu yn gyson gynhwysol a bod pawb ohonom yn un yng Nghrist.​
​
Y Sefyllfa yn Gasa: 18 Hydref 2023
Erbyn hyn mae nifer fawr o eglwysi’r byd, gan cynnwys Cyngor Eglwysi’r Byd, yn galw am ddiwedd i’r lladd a’r dinistr yn y Dwyrain Canol. Mae arweinwyr eglwysi o bob traddodiad yn Jerwsalem wedi anfon neges i’r awdurdodau Israelaidd ac arweinwyr Hamas yn galw am atal y rhyfela. Mae’r enwadau a nifer fawr o eglwysi Cymru wedi gwneud yr un apêl, megis Sasiwn y Gogledd o Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddoe. Ddoe hefyd gwelwyd gwallgofrwydd y rhyfela hwn pan fomiwyd Ysbyty Ahli yn Gasa a lladd o leiaf 500 o gleifion, plant, meddygon a nyrsys wrth ei gwaith. Os nad yw hyn yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth (heb sôn am dorri ‘rheolau rhyfel’) mae’n anodd gwybod beth yw trosedd o’r fath.
​
Safwn dros heddwch ac undeb a gweddïwn dros y rhai sydd wedi dioddef yn sgil yr ymosodiadau yn Israel a Phalesteina – dioddefwyr wedi eu dal ynghanol cylch treisgar o ddialedd. Ategwn eiriau ein cyd-Gristnogion yn Jerwsalem a thrwy’r byd, “fel gwarchodwyr y ffydd Gristnogol a’n gwreiddiau’n ddwfn yn y Tir Sanctaidd, safwn ochr yn ochr â phobl yr ardal hon sy’n dioddef canlyniadau dinistriol gwrthdaro parhaus. Mae ein ffydd, a sefydlwyd ar ddysgeidiaeth Iesu Grist, yn ein cymell i eiriol am ddiwedd i bob gweithred dreisgar a milwrol sy’n gwneud drwg i ddinasyddion Israelaidd a Phalestinaidd ...”
Ein gobaith a’n gweddi daer yw y bydd pob ochr yn cymryd sylw o’r alwad hon am roi diwedd i’r trais ar unwaith. Plediwn ar arweinwyr gwleidyddol ac awdurdodau i ddod at ei gilydd mewn trafodaethau cywir i geisio datrysiad tymor hir fydd yn hybu cyfiawnder, heddwch a chymod i bobl y wlad hon sydd wedi ysgwyddo baich gwrthdaro am lawer rhy hir.
Casineb Hiliol: 30 Medi 2025
Daliwn fod pob person yn gydradd ac yn gyfwerth yng ngolwg Duw ac nad oes unrhyw gyfiawnhad i wahaniaethu rhwng pobl ar sail eu hil, eu tras ethnig, lliw eu croen, eu hiaith na’u diwylliant, eu crefydd na’u cred.
Rydym yn datgan bod yr Ysgrythurau Iddewig a Christnogol, ynghyd â gwerthoedd Efengyl Iesu, yn ei gwneud hi’n gwbl glir mai ein dyletswydd fel Cristnogion yw dangos croeso, lletygarwch a charedigrwydd i ddieithriaid. At hynny, mae dilyn Iesu yn golygu bod disgwyl inni estyn cydymdeimlad, tosturi, trugaredd a chariad at bobl sydd mewn trybini ac sy’n ffoi o sefyllfaoedd enbyd o ryfel, newyn a gormes gwleidyddol.
Mae llawer o’r casineb hiliol a fynegwyd yn ddiweddar wedi ei seilio ar wrthwynebiad i geiswyr lloches yn croesi ffiniau gwladwriaethau drwy ddulliau anarferol. Er hynny, mae agweddau sarhaus a threisgar hefyd yn cael eu mynegi at geiswyr lloches a mewnfudwyr sydd eisoes wedi cyrraedd ein gwledydd, ynghyd â lleiafrifoedd ethnig sy’n sefydlog o fewn ein cymunedau. Mae Cristnogaeth 21 yn ymwrthod yn llwyr â’r agweddau negyddol yma ac yn dal bod agweddau o‘r fath yn groes i ddysgeidiaeth Iesu o Nasareth. O’r herwydd, rydym hefyd yn gwrthwynebu’r camddefnydd o symbolau Cristnogol a baneri cenedlaethol i hyrwyddo agendâu hiliol sy’n ymrannu pobl yn erbyn ei gilydd.
Mewn byd sy’n gynyddol fudol, credwn y dylai pawb, pwy bynnag y bont, gael eu trin â chwrteisi, parch ac urddas. Dylai statws mudwyr gael ei benderfynu gan gyfraith gwlad a chyfraith ryngwladol a hynny o fewn fframwaith o hawliau dynol, megis yr hyn a weinyddir dan Ddeddf Hawliau Dynol y DG (1998), y Llys Ewropeaidd ynghylch Iawnderau Dynol a Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol. Dyletswydd Cristnogion yw ceisio sicrhau bod mudwyr, pwy bynnag y bont, yn cael eu trin yn deg a chyfiawn, gan sicrhau bod modd iddynt gynnal eu hunan-barch fel aelodau cydradd o’r ddynoliaeth. Yn y goleuni hynny cefnogwn bob ymgais i gefnogi mudwyr yn eu hawydd i ddod yn aelodau integredig a defnyddiol o’n cymunedau, megis cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru.
Cydnabyddwn bod heriau economaidd a newid cymdeithasol yn peri rhwystredigaeth i lawer. Fodd bynnag, fel erioed, gwrthwynebwn unrhyw lais, safbwynt neu ideoleg sy’n corddi ymraniadau, yn hyrwyddo casineb, yn creu bychod dihangol neu sy’n tanseilio dynoliaeth unigolion a grwpiau ar sail hil, tras ethnig neu statws mudol. Ymrwymwn i weithio mewn partneriaeth ag unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i wrthsefyll casineb hiliol ac ymgyrchu dros gymod, goddefgarwch a chyfiawnder.