top of page

Datganiad ar Undod Eglwysig

Yn y grŵp ‘Undod Eglwysig’ yng nghynhadledd C21 ar 19 Tachwedd 2022 cyflwynwyd ‘Datganiad ac Apêl’ i’r enwadau Anghydffurfiol. Mae croeso i chi ymateb a chyfrannu i’r drafodaeth drwy’r cyfryngau arferol.


Cyflwyniad


Mae nifer o bethau cadarnhaol i’w hadrodd: y cydweithio hir rhwng yr enwadau a’r awydd cyson i ‘wneud mwy gyda’n gilydd’; y gweithgarwch mawr sy’n digwydd ym mhob enwad, gan ganolbwyntio yn arbennig ar yr Annibynwyr, y Bedyddwyr a’r Presbyteriaid y buom yn craffu ar eu Cynadleddau Blynyddol; y sgyrsiau adeiladol a gynhaliwyd rhyngom â phobl ifanc a chyda rhai o swyddogion yr enwadau.


Yr ydym yn gwerthfawrogi cyfraniad mawr Anghydffurfiaeth Gymraeg i’n bywyd fel cenedl yn y gorffennol a chredwn fod gan yr enwadau, er yn llai o ran aelodaeth heddiw, adnoddau cyfoethog sy’n cael eu hadlewyrchu yn y gwaith a’r gobaith sy’n tarddu o’r Efengyl.


Ond heddiw o wybod rhagolygon yr ystadegau, nid oes yr un enwad na’r un Gynhadledd Flynyddol, wrth edrych ymlaen at yr 10-50 mlynedd nesaf, yn ystyried y bydd yn rhaid i’r enwadau edrych ar eu cenhadaeth yng Nghymru, gyda’i gilydd. Nid oes cynllunio, nid oes strategaeth. Ac os oes strategaeth, fesul enwad y mae wedi ei lunio.


Yr Apêl


Yn yr apêl hon yr ydym yn cynnig sefydlu Comisiwn Brys i edrych ac ystyried sut y gellid ymateb i’n hargyfwng. Awgrymwn ffordd wahanol i’r ffordd enwadol.

Y Comisiwn


1. Cynigwn fod y tri enwad i ddewis 4 unigolyn rhwng, yn fras, 18-70 oed i ffurfio Comisiwn ar y cyd. Ni fydd diaconiaid/blaenoriaid i’w dewis gan fod ganddynt fwy na digon i’w wneud yn eu heglwysi. Ni ddylid cynnwys gweinidogion chwaith. Fe ddaw cyfle i’r arweinwyr presennol gyfrannu i’r drafodaeth ar Adroddiad y Comisiwn. Credwn fod nifer o fewn yr enwadau fyddai’n abl iawn i weithredu ar Gomisiwn o’r fath.


Fe fydd pob enwad hefyd i ddewis un arall tu allan i’w henwad a fyddai gyda doniau a chyfraniad arbennig i’w roi. Swyddogion yr enwadau fydd yn dewis Cadeirydd y Comisiwn.


2. Fe fydd cais i’r enwadau i ariannu costau gweinyddol y Comisiwn a bydd cydnabyddiaeth deilwng i Ysgrifennydd rhan amser y Comisiwn.


3. Nod y comisiwn fydd cael darlun o bresenoldeb ac adnoddau'r capeli Cymraeg yn ein cymunedau ynghyd â gwybodaeth am swyddi ac adnoddau gweinyddol yr enwadau. Fe fyddai'r enwadau yn cytuno i gyflwyno i’r Comisiwn yr holl wybodaeth sydd ganddynt fel tri enwad.


4. Wrth edrych ar bresenoldeb yr eglwysi yn lleol, fe ddylid nodi, wrth gwrs, bresenoldeb cynulleidfaoedd Cymraeg/dwyieithog ymhlith yr Eglwys Fethodistaidd, Cymdeithas y Cyfeillion, yr Eglwys Undodaidd a’r Eglwys Anglicanaidd. Ond Comisiwn penodol yw hwn i’r tri enwad a nodir. Dyma fydd gwaith mwyaf manwl y Comisiwn a bydd rhaid ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o drafod y wybodaeth a’r ystadegau a dderbynnir.


5. Y drafodaeth hon fydd yn edrych ar ardaloedd a rhanbarthau ac awgrymir na ddylid defnyddio iaith enwadol. ‘Eglwysi’, ’cynulleidfaoedd’, ‘Cristnogion’ a ‘chymdeithas’ fydd iaith y comisiwn. Ni fydd y Comisiwn yn nodi enwad yn ei Adroddiad chwaith. Fe ddaw’r gair hwnnw yn amlwg yn y drafodaeth ddiweddarach.


6. Wedi deall y sefyllfa a’r amgylchiadau yna fe fydd y Comisiwn yn edrych ar anghenion eglwysi ac anghenion y gymuned honno er mwyn medru manylu ar ei chenhadaeth a’i galwad i wasanaethu. Yn y drafodaeth hon fe fyddai gan y Comisiwn yr hawl i gyfethol (am gyfnod penodol ) dau arall, gyda gwybodaeth eang o genhadaeth yr eglwys yn gyffredinol heddiw.


7. Ar ddiwedd gwaith y Comisiwn (dim mwy na 4 blynedd) fe fydd yr Adroddiad yn cael ei gyflwyno i swyddogion yr enwadau yn gyntaf ac yna i’r holl eglwysi .


8. Yna fe fydd yr Adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r enwadau gyda’i gilydd


Fe fydd cefnogaeth yr enwadau a’r eglwysi a gwaith y Comisiwn yn cael ei gyflwyno, ei gynnal, a’i gynnwys trwy gyfnod addolgar a gweddigar o flaen Duw wedi sylfaenu ar alwad yr eglwys yn y Testament Newydd.


bottom of page