top of page
Search

Ysbaddu diwylliant

  • May 3
  • 2 min read

Un o’r Cristnogion a gafodd y dylanwad mwyaf arna i oedd y diweddar Dr Dewi Arwel Hughes. Buom yn cydweithio yn elusen Gristnogol Tearfund pan olynais ef yn y gwaith yng Nghymru ac yntau wedi ei benodi’n Ymgynghorydd Diwinyddol Tearfund.

Mae yna lawer sydd â phrofiad o fyw oddi mewn i ddiwylliant sydd o dan fygythiad. Mae yna nifer dda o ddiwinyddion, ac mae cryn dipyn o bobl sydd wedi ymwneud â gwaith datblygu rhyngwladol. Prin yw’r rhai sydd â phrofiad o’r rhain i gyd, yn y byd gorllewinol o leiaf, ond roedd Dewi’n un ohonyn nhw, fel Cymro, Cristion a diwinydd a chanddo brofiad o ymwneud â brwydo yn erbyn tlodi yng ngwledydd tlotaf y byd.

Er nad oedd llawer fel Dewi yn y byd gorllewinol (yn wir, roedd Dewi’n gymeriad cwbl unigryw!) fe ganfu nifer o ddiwinyddion yn y gwledydd tlotaf a ddeallai’n iawn beth oedd gormes ymerodrol a diwylliannol, pobl a oedd yn deall i’r dim beth oedd brwydro dros hunaniaeth, gyda’r ddealltwriaeth bod gwarchod diwylliant a hunaniaeth y lleiafrifoedd yn elfen cwbl allweddol o godi pobl a chymunedau allan o dlodi.

Un o’r mudiadau y bu Dewi’n ymwneud â nhw oedd sefydliad AIAKSEL, sef cymdeithas efengylaidd y Quechua ym Mheriw. Mi fuon nhw’n annog datblygiad litwrgi frodorol a helpu’r cymunedau i ail-ddarganfod eu diwylliant brodorol, a ddioddefodd dan ormes ymerodrol, drwy gynnal cystadlaethau ysgrifennu, adrodd a chanu. Ie, eisteddfod! Meddai eu cyfarwyddwr, Artidoro Tuanama: ‘Rydym yn syml iawn eisiau cymryd ein lle fel pobl Quechua brodorol, gan geisio deall a byw’r efengyl. Dathlwn ein hunaniaeth heb unrhyw warth, na dial na dicter yn erbyn y rhai sydd wedi achosi niwed i ni yn y gorffennol ac sydd wedi ysbaddu ein diwylliant.’

Daw’r dyfyniad o gyfrol gan Dewi sy’n dwyn y teitl, Castrating Culture, A Christian Perspective on Ethinic Identity from the Margins (Paternoster Press, 2001). Thesis Dewi yw bod hunaniaeth ethnig yn werthfawr ynddi ei hunan, gan mai rhodd gan Dduw ydy hi. Gan mai Duw a roddodd ein hunaniaeth ethnig i ni, mae cyfrifoldeb arnom i’w gwarchod, ac ni chredwn bod ein hunaniaeth ni’n rhagori ar eraill.

Mae hyn yn amlwg mor berthnasol i ni heddiw pan fo ‘cenedlaetholdeb Gristnogol’ ar dwf, hynny yw y math o genedlaetholdeb ymerodrol sy’n cau eraill allan ac yn amharchu hunaniaeth pobl sy’n wahanol iddyn nhw.


Yn y byd-olwg hwn, mae lleiafrifoedd sy’n mynnu gwarchod eu diwylliant yn creu rhaniadau, ac mae rhai Cristnogion wedi ceisio defnyddio Galatiaid 3:28 i gyfiawnhau eu safbwynt: ‘Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid .... oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.’

Ys dywed Dewi, ‘Nid dileu gwahaniaethau yw byrdwn Galatiaid 3:28, yn hytrach meithrin parch gan bob un at ei gilydd’, gan fod gennym ni i gyd yr un mynediad at Dduw drwy Grist. Rydym yn un yng Nghrist, tra ar yr un pryd yn cadw’r hunaniaeth ethnig a roddodd Duw i ni.

Mewn oes pan fo’r ‘arall’ yn cael ei ddirmygu, a chynlluniau fel Cenedl Noddfa’n gocyn hitio yn y ‘rhyfel diwylliannol’, ein tasg ni fel Cristnogion yw gwneud popeth yn ein gallu i ddyrchafu pob grŵp ethnig a gweld eu potensial tragwyddol.


Siôn Meredith 3 Mai 2026

 
 
 

Comments


bottom of page