Da oedd clywed Mark Drakeford, yn ei ddatganiad Calan olaf fel Prif Weinidog, yn rhoi lle blaenllaw i’r alwad am heddwch. Mae’n siŵr bod rhai yn gofyn, ‘Beth yw’r pwynt?’, gan nad oes gan Brif Weinidog Cymru unrhyw lais na phleidlais yn yr hyn sy’n digwydd yn Wcrain na Gaza, nac unrhyw wlad arall lle mae pobol a phlant yn marw oherwydd rhyfela. Ond onid yw’n bwysig i arweinwyr gwleidyddol, beth bynnag eu statws, i ddatgan o blaid heddwch?
I ni, Gristnogion, ni ddylem fod dan unrhyw amheuaeth, gan mai ar ochr heddwch y syrthiai coelbren Iesu bob amser. A’r ffaith amdani yw, ymhob rhyfel, mae yna ddewis arall, sef cael y ddwy ochr at ei gilydd, dan arweiniad y Cenhedloedd Unedig neu gyflafareddydd arall, i drafod yn gall a gwaraidd.
Wrth gwrs, os oes rhyfelgwn unllygeidiog fel Putin, Netanyahu neu Hamas yn y pair, mae unrhyw gyflafareddu yn anodd, a dweud y lleiaf. Ond onid y cwestiwn sylfaenol yw pa mor barod ydyn ni fel gwledydd a phobol (neu, yn wir, fel Cristnogion) i weithio dros heddwch?
Onid ein cyflwr arferol (a dderbyniwn bron yn ddi-gwestiwn) yw bod rhaid inni ganiatáu i’n harian fel trethdalwyr gael ei wario’n ddyddiol ar arfau rhyfel – miliynau o bunnau bob dydd ar sicrhau ein bod yn ‘barod i ryfel’? Ac yn ein holl drafodaethau ar brinder arian a thlodi cynyddol ac argyfwng costau byw fyddwn ni byth yn ystyried torri’n ôl ar gostau enbyd prosiect ‘Trident’, er enghraifft. Prosiect yw hwnnw nad sy’n cyfrannu dim mewn gwirionedd at ein ‘diogelwch’ fel pobol, ac sy’n debygol o gael ei gladdu’n ddistaw rhyw ddydd, a hynny wedi gwario’r triliynau, am nad yw bellach yn weithredol addas.
Er nad oes fawr sôn amdani, y mae Academi Heddwch Cymru bellach wedi ei sefydlu. Bwriad hon yw cryfhau ein trefn o baratoi ar gyfer heddwch, cynghori Llywodraeth Cymru wrth gynllunio deddfwriaeth, hyrwyddo ymchwil, a meithrin datblygiadau cynaliadwy ymhob maes. Gwneir hyn mewn cyswllt gyda phob un o brifysgolion Cymru a’r Ganolfan Ryngwladol yn Nheml Heddwch Caerdydd.
Mae hyn eisoes yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop, gyda’r bwriad o symud y pwyslais oddi wrth baratoi at ryfel tuag at baratoi at heddwch. Mae cynllunio cynaliadwyedd yn ganolog i hyn, gan mai rhyfel yw’r gwrthbwynt eithaf a’r bygythiad eithaf i ddyfodol ein gwareiddiad. Ac, yn wir, i ddyfodol ein planed.
Dylai hyn oll fod yn flaenllaw yn ein meddyliau fel Cristnogion ar ddechrau blwyddyn fel hyn. A daeth y cyfan yn fyw iawn imi dros y Nadolig wrth ddarllen eto rai o gerddi’r canwr a'r ymgyrchydd o Chile, Victor Jara, y bu cofio am ei farw hanner can mlynedd yn ôl i’r flwyddyn ddiwethaf. Yr oedd ef, fel y bardd Waldo Williams yng Nghymru, yn credu yn y gadwyn a glymai bobloedd y byd at ei gilydd dros heddwch. Roedd y ddau fardd hefyd yn hoff o gyfeirio at golomen heddwch. Gwrandewch ar gerdd Victor Jara:
“Colomen yw fy mhennill
Sy’n chwilio am le i nythu,
Yn ffrwydro, yn ymestyn ei hadenydd, i hedfan a hedfan...
Cadwyn yw fy nghân, heb ddechrau na diwedd,
Ac ymhob dolen cewch ganfod cân yr holl bobloedd.
Canwn allan gyda’n gilydd, i bawb ar y ddaear,
Canwn y gân sy’n golomen yn hedfan, yn estyn allan,
Yn ffrwydro, yn ymestyn ei hadenydd i hedfan yn rhydd.
Cân rhyddid yw fy nghân.”
Ac fel y dywed yn ei gerdd ‘El derecho de vivir ên paz’ (Yr Hawl i Fyw mewn Hedd):
“Hon yw cân y byd yn grwn – y gadwyn sy’n ennill y dydd,
A’r hawl i’n pobol fyw mewn hedd.”
Yn eu cerddi, mae’r comiwnydd Victor Jara a’r Cristion Waldo Williams yn agos iawn at ei gilydd. Fel y dywed Waldo yn ei gerdd bwerus ‘Brawdoliaeth’:
“Myfi, Tydi, ynghyd / er holl raniadau’r byd – Efe’n cyfannu’i fyd.”
Dafydd Iwan
Comments