top of page

Yr hawl i farw


 

Testun sy’n peri gofid i lawer o bobl yw’r broses o farw ac un o gwestiynau mawr ein hoes yw’r mater o gyfreithloni cymorth i wneud hynny.   

 

Erbyn hyn, mae sawl gwlad ar draws y byd wedi cyflwyno deddfwriaeth bwrpasol, sef gwlad Belg, Awstralia, Canada, Sbaen, Colombia a’r Swistir. Yn ddiweddar cyhoeddoedd yr Alban fesur seneddol, Assisted Dying for Terminally Ill Adults (Scotland) Bill a ddrafftiwyd gan Liam McArthur, Aelod Senedd yr Alban dros Ynys Erch. Mae’n bosib y caiff y mesur ei drafod yn ddiweddarach eleni gyda phleidlais yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf. 

 

Un o’r dadleuon cryfaf o blaid mesur o’r fath yw tystiolaeth dorcalonnus y teuluoedd hynny a welodd anwyliaid yn dioddef yn enbyd heb eu bod wedi derbyn unrhyw fath o ryddhad na chysur gan ofal lliniarol ar ddiwedd eu hoes. Anodd iawn yw dadlau yn erbyn tystiolaeth bersonol o’r fath.  

 

Er hynny, erys nifer o ddadleuon yn erbyn cyfreithloni cymorth i farw ac yn eu plith y mae’r canlynol: 

  • mae bywyd yn sanctaidd a Duw yn unig sydd â’r hawl i roi terfyn ar fywyd; 

  • dyma fyddai’r cam cyntaf ar y llwybr llithrig i ddiystyru gwerth bywyd; 

  • byddai llai o fuddsoddiad ariannol mewn gofal lliniarol pe rhoddid dewis i dderbyn cymorth i farw;  

  • mae’n bosib y byddai’r sawl sy’n dioddef o afiechydon angheuol neu anableddau yn teimlo o dan bwysau i dderbyn cymorth i farw am nad ydynt am fod yn faich ar deulu neu ar y  wladwriaeth;

  • pe rhoddid diagnosis neu brognosis anghywir gan arbenigwyr meddygol, yna fe fyddai gan y claf obaith o wella wedi’r cyfan;  

  • fe allai perthnasau diegwyddor geisio defnyddio deddfwriaeth o’r fath i ddwyn pwysau ar gleifion i ddewis cymorth i farw er mwyn cael budd ariannol. 

 

Yn ddiweddar, mynegodd nifer o bersonoliaethau amlwg yn ein cymdeithas eu cefnogaeth frwd i’r hawl i farw fel y cyflwynydd teledu Esther Rantzen, sy’n derbyn triniaeth am gancr, ac fe ddatganodd ei dymuniad i fynd i glinig Dignitas yn y Swistir pe na bai modd trin yr afiechyd. Yn ogystal, darlledwyd rhaglen ddogfen ddadleuol yn 2011 am yr awdur toreithiog, y diweddar Terry Pratchett, a oedd yn dioddef o’r clefyd  Alzheimer, sef ‘Terry Pratchett: Choosing to Die’. Fel rhan o’r cynhyrchiad gwelwyd dyn o Loegr a oedd yn dioddef o’r clefyd motor neuron yn gwneud diwedd arno’i hun drwy yfed hylif marwol yn uned Dignitas; bu farw o fewn munudau yng nghwmni ei deulu. 

 

Mae rhai yn honni bod y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu cymorth i farw yn diogelu pobl fregus ond dywed eraill y bu cynnydd sylweddol yn y niferoedd a dderbyniodd gymorth fel hyn yng ngwledydd Belg a Chanada lle mae’r meini prawf wedi cael eu llacio dros gyfnod o amser.  

 

Pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid cyfreithloni cymorth i farw byddai hynnny yn ddi-os yn grymuso’r lleisiau sy’n dymuno cyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru a Lloegr. 

 

Tybed a yw’r Eglwys yn lleisio’i barn yn ddigonol ar y mater hwn?   

 

Lydia

 


 

bottom of page