top of page

Yr Esgob a’r Actor 

O ble ddaw ein doethineb?


Yn yr oes ry’n ni’n byw ynddi fe ddaw lleisiau o bob cyfeiriad i’n cynghori a’n cyfeirio. Un o beryglon mawr yr oes yw ein bod ni, trwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn ymuno gyda grwpiau sydd yn ategu’r hyn ry’n ni’n ei gredu nes ein bod ni’n credu ein bod ni i gyd o blaid yr un pethau.


Yn gynharach yr wythnos hon roedd rhywun yn dweud wrtha i ei fod yn rhyfeddol sut y mae mwyafrif helaeth pobl Cymru wedi troi i fod o blaid annibyniaeth. Pan holais i am sail ei osodiad, fe ddywedodd fod bron pawb o’i ffrindiau yntau ar Facebook erbyn hyn o blaid annibyniaeth i Gymru. Yr un fath, roedd un arall yn dweud wrtha i fod bron pawb roedd e’n ei adnabod yn cefnogi Sunak a’i driniaeth sinicaidd o geiswyr lloches a’u bod yn gefnogol i wrthwynebwyr project ceiswyr lloches Gwesty Parc y Strade.


Er i’r byd ehangu ei bosibiliadau gwybyddol di-ri trwy’r we fyd eang, mae’n ymddangos i’n cylch ffrindiau fynd yn gynyddol yn adlewyrchiad ohonom ni’n hunain.


Yn y cyd-destun hwn, roedd hi’n syndod i mi wrando ar gyfweliad diweddar rhwng Archesgob Caergaint a’r dyn comedi John Cleese. Er i mi fwynhau Monty Python a Fawlty Towers, doedd gen i fawr o barch at John Cleese o achos ei farn ar faterion y dydd. Yn benodol roedd ei arddeliad o blaid Brexit yn adlewyrchu rhai sylwadau a wnaed ganddo dros y blynyddoedd oedd yn awgrymu ei fod yn xenophobe a oedd yn adlewyrchu yn rhy aml barn asgell dde oedrannus. A dyna fi wedi cwympo i mewn i ragfarn pellach fy hunan.


Fodd bynnag, mae ei gyfweliad hanner awr gyda’r Archesgob yn un dynol iawn, ac mae’n rhannu nifer o ddoethinebau. Yn y cyfweliad mae’n ategu ei agwedd sgeptigol am Dduw a’i fodolaeth (“I’m completely unconvinced, but very deeply interested”) ond yn mynegi edmygedd mawr at Iesu Grist a’i ddysgeidiaeth. Mae’n sôn am ddysgeidiaeth Iesu fel un brydferth ac yn ei chloriannu gyda’r geiriau, “ceisiwch drin pobl eraill fel bodau dynol”, sy’n ongl ddiddorol ar yr holl ddysgeidiaeth. Fe wêl mai hanfod dysgeidiaeth Iesu yw’r angen i ni leihau ein ego, fel ein bod yn stopio esgus ein bod yn bwysicach ac yn fwy grymus na phobl eraill.


Efallai mai’r peth pwysicaf a ddywedir yn ei gyfweliad yw ei ddoethinebu am faddeuant. Mae e’n awgrymu bod ein cymdeithas fodern wedi cyrraedd pwynt lle mae pob peth yn dueddol o fod yn ddu neu’n wyn, da neu ddrwg. Fe ddywed ein bod yn “gweld pobl fel pe bai nhw’n gwbl dda neu ddrwg, ac os gwnânt un camgymeriad ry’n ni’n penderfynu na fuont erioed yn dda.”


Yr wythnos hon, yng nghanol yr holl feirniadaeth bersonol sydd ar led trwy’n cyfryngau, da o beth yw cofio hyn. A da o beth yw cofio athrawiaeth y maddau saith deg gwaith saith. Yng nghanol y fath ffordd o fyw mae gobaith i ni gyd.


Dyma’r ddolen i’r cyfweliad os hoffech wrando.


Commentaires


bottom of page