top of page

Yn eisiau: diwinyddion da


Diddorol oedd darllen ar wefan y BBC yn ddiweddar am ranbarth yn nhalaith Utah, America a benderfynodd wahardd copïau o’r Beibl yn yr ysgolion cynradd a chanol a hynny am yr ystyrid rhannau ohono yn ‘ddi-chwaeth’ a ‘threisgar’. Gwnaed y penderfyniad gan yr awdurdodau yn dilyn cwyn gan un o rieni plant Davis School District North. Bu llawer o wahardd llyfrau’n ddiweddar yn yr Unol Daleithiau. Mae adlais o’r brwydrau sy’n digwydd yn ein cymdeithas ni heddiw rhwng credoau ac ideolegau gwahanol, ynghyd â’r ‘diwylliant dileu’ (cancel culture).


Ond wrth gydnabod bod cyd-destun gwleidyddol a chrefyddol talaith Utah yn wahanol iawn i un gwledydd Prydain, tybed sut fyddai Cristnogion Cymru yn ymateb pe bai un o’n hawdurdodau addysg ni yn gwahardd y Beibl yn ein hysgolion? Testun diolch yw bod nifer helaeth o’n hysgolion yng Nghymru yn barod iawn i groesawu gweinidogion yr efengyl a thimoedd ‘Agor y Llyfr’ i gyflwyno hanesion y Beibl a chyflwyno copïau o Feiblau i’w disgyblion, ond gwyddom nad yw hyn yn wir am bob ysgol ac mae’r cyfan yn dibynnu ar fympwy y pennaeth.


Tra’n sgwrsio gyda ffrind yn ddiweddar daethom i’r casgliad mai un o’r pethau sydd eu hangen arnom heddiw yn fwy na dim yw diwinyddion da. Mewn cyfnod pan na wyddom beth fydd dyfodol Cristnogaeth yng Nghymru mae angen diwinyddion effro, craff a galluog a fydd nid yn unig yn ein trwytho yn sylfeini’r ffydd a hanes yr eglwys ond a all hefyd ddehongli sefyllfa gyfredol yr eglwys mewn cyfnod o argyfwng.

Gyda llawer llai o brifysgolion yn cynnig diwinyddiaeth fel pwnc erbyn hyn a chyda nifer y gweinidogion yn prinhau a’r eglwysi ar eu gliniau, teg yw gofyn a ydym bellach yn medru dal ein tir yn ddiwinyddol ac a allem godi llais a chyflwyno dadleuon cyhyrog a chredadwy pe digwyddai Llywodraeth Cymru benderfynu gwahardd y Beibl o silffoedd llyfrgelloedd ein hysgolion.


Mae’r diffyg ymwybyddiaeth o elfennau sylfaenol y ffydd Gristnogol yn sicr i’w gweld ar lawr gwlad. Profiad trist oedd gwasanaethu mewn oedfaon ar y Sulgwyn yn ddiweddar a sylweddoli nad oedd emynau addas wedi’u dewis ar gyfer y Pentecost. Mae’r Sulgwyn yn un o’r gwyliau allweddol yng nghalendr yr Eglwys a bu’n achlysur pwysig yn ein hanes fel Cristnogion pan welid pobl yn gorymdeithio o bentref i bentref a Chymanfa Ganu yn cael ei chynnal yn ein capeli. Ond erbyn hyn prin yw arwyddocad yr ŵyl hon ac mewn rhai eglwysi aeth un o gonglfeini’r ffydd yn angof. Bellach mae’n dymor y Drindod. Ond sawl un ohonom fedr rhoi eglurhad boddhaol o ystyr y Drindod? A fyddem yn hyderus i egluro’r Drindod i berson nad oedd erioed wedi mynychu gwasanaeth mewn eglwys, neu i Fwslim neu Sikh? Pa mor hyddysg a hyderus ydym yn sylfeini’r ffydd?


Mewn cyfnod o drai onid diwinyddion da sydd eu hangen arnom, rhywrai a all ein cynorthwyo i ddal gafael ar hanfodion y ffydd Gristnogol heb ein bod yn cael ein caethiwo gan safbwyntiau ceidwadol nac ychwaith ein gadael yn gwbl rydd i ddilyn ein mympwyon ein hunain?


bottom of page