top of page
Search

Ymgeleddu - trais yn y cartref

  • cristnogaeth21
  • 3 hours ago
  • 2 min read

 

Mae newidiadau mewn hawliau menywod a chyfreithiau ysgariad yn yr 20fed canrif wedi arbed nifer fyddai wedi  marw oherwydd trais domestig ac i eraill fod wedi medru dianc o sefyllfaoedd hunllefus.

 

Trafodir y rhesymau diwinyddol dros ganiatáu ysgariad mewn priodas dreisgar, mewn cylchoedd bychain yn unig. Nid ydynt yn codi mewn pregeth, cylch trafod neu seiat.mewn eglwys.

Mewn cymdogaeth yn gyffredinol a hyd yn oed eglwysi ystyrir mai dim ond oherwydd godinebu neu ymadael y dylid caniatáu ysgariad. Clywir gan fenywod sydd wedi dioddef camdriniaeth ystrydebau am “faddeuant” neu beidio “cadw cyfrif o gam” neu “oni wahaner mewn angau” gan eu cyd-Cristnogion.

 

Ond nid yw’r mwyafrif yn dweud dim. Profiad cyffredinol i goroes-wragedd( ? -  wragedd sydd wedi dioddef ) yw gweld cyd-aelodau a “cyfeillion” yn pellhau heb ddweud ddim. Mae’r diarddeliad o weithgareddau cymdeithasol yn digwydd yn dawel, heb esboniad ac heb unrhyw gyfle i esbonio amgylchiadau’r ysgariad.

 

Edrychwch o gwmpas eich eglwys neu gapel. Faint o wragedd â ysgarwyd sydd yno? (Ni feirniadir dynion gyda’r un safonau.) Faint sydd wedi gadael yn dawel? Beth mae eich teulu Cristnogol yn ei wneud i gynorthwyo menywod sydd wedi dianc o gamdriniaeth? Dywedir gan rai mai cyfrifoldeb y gweinidog yw hyn ac er bod hyn yn wir mewn achosion pan mae priodas yn dirywio, mae’r  tawelwch llethol  - a’r dybiaeth nad yw hyn yn digwydd yn ‘ein heglwys ni’ -yn gwaethygu profiad sydd eisoes yn ddychrynllyd.  Beirniedir teuluoedd un rhiant (mamau fel arfer) heb unrhyw gyfeiriad at y rhiant sydd wedi gadael neu wedi gorfodi ei gymar i ddianc.

 

Yn gymharol ddiweddar mae cam-drin ôl ysgariad wedi amlygu ei hun. Defnyddir system y llysoedd â’r hawl i riant weld eu plant fel cyfleoedd i greu trafferth, i fwgwth , i stelcian, i ymosod, a hyd yn oed  i ladd.  Ond y weithred fwyaf cyffredin yw lledu straeon maleisus. Cyhuddir y wraig o wneud cyhuddiadau ffug am gam-driniaeth (er bod angen tystiolaeth amdano yn y llys) neu o fod yn “wallgof.” (Mae’n debygol iawn y byddai  menywod yn dioddef o iselder ar ôl y fath brofiad, ond os yw’r  llys wedi gadael eu plant yn eu gofal, nid ydynt yn ymddangos  yn poeni am yr iechyd meddwl.) Mae’r straeon hyn yn lledaeu mewn cymdeithas yn gyffredinol, gan gynnwys cymdeithas eglwysig  lle mae beirniadaeth o ysgariad eisoes. Ni ddywedir dim wrth y wraig eu hun ac felly nid yw’n cael cyfle i wadu’r  cyhuddiadau neu i rannu ei phrofiad. Ond yn hwyr neu’n hwyrach clywir hwy gan ei phlant.

 

Mae angen pregethau a thrafodaeth llawer mwy agored mewn eglwysi, nid yn unig am y cyfiawnhad ysgrythurol ar gyfer ysgariad ar ôl trais a cham-driniaeth ,

 ond hefyd sut y gall eglwysi gynorthwyo y  rhai sydd wedi gorfod ysgaru yn enwedig ple mae plant . Rhaid estyn cyfeillgarwch a chymwynasgarwch Cristnogol, a phan mae’n briodol, darparu clust i wrando  ar rai mewn sefyllfa sydd, yn ei hanfod, yn eithriadol o unig. Rhaid cofio hefyd na fyddai mam sy’n gyfrifol am ei phlant byth yn gadael priodas ddelfrydol na hyd yn oed priodas weddol ddiogel a digonol.

 

Rwth Tomos.

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page