top of page

Ymatal

Gawsoch chi lond plât o bancos ar Ddydd Mawrth Ynyd, sgwn i? Siwgr? Mêl? Menyn? Lemwn? Ffein, siŵr o fod.

 

Ond tybed a oedd Dydd Mercher Lludw wedyn yn ddechrau ar gyfnod o newid arferion i chi? Fyddwch chi’n ymwrthod â rhyw foeth neu’i gilydd am y chwe wythnos nesa’ ‘ma? Fyddwch chi’n ymatal rhag rhyw bleser diniwed neu’i gilydd? Alcohol? Siocledi? Cacennau? Crisps? Wedi’r cyfan dyna ddiben y Grawys, onid e?

 

Ond, chwarae teg, efallai eich bod chi wedi bod wrthi’n barod yn ymatal rhag bwyta ac yfed pethau nad sy’n gwbl iach i chi. Efallai iddi fod yn ‘Ionawr Sych’ yn eich tŷ chi, neu i chi roi cynnig ar Veganuary neu un o’r diets bondigrybwyll yna sy’n cael eu hwrjo arnom ni o dro i dro? Dyma’r ymprydio modern, onid e?

 

Mewn erthygl ym mhapur newydd y Guardian dro’n ôl roedd yr offeiriad a’r colofnydd Giles Fraser yn pryderu bod yr arferion cyfoes yma o ymatal rhag moethau amrywiol mewn perygl o hyrwyddo myfïaeth. Tueddiadau ydyn nhw, meddai fe, sy’n rhoi’r sylw ar yr hunan, sy’n ymylu ar fod yn llwyfannau ar gyfer brolio cyhoeddus ac sy’n fodd (yn eironig) i amlygu gwerthoedd prynwriaethol yr oes.

 

Mae diben y Grawys yn go wahanol, meddai. Diben ymatal rhag moethau amrywiol dros gyfnod y Grawys, neu ddisgyblu’r hunan mewn pa bynnag fodd am y deugain diwrnod, yw er mwyn ein harwain i ystyried anghenion pobl eraill a throi ein sylw at ein perthynas bersonol â Duw.

 

Fel y gwyddom, y straeon a gawn yn yr Efengylau am Iesu’n ymgilio i’r anialwch i baratoi’n feddyliol ac yn ysbrydol ar gyfer ei weinidogaeth yw ysbrydoliaeth symbolaidd y Grawys. Mae fersiynau ‘cartŵn’ Mathew a Luc yn ddigon hysbys i selogion C21 mae’n siŵr. Bwriad yr awduron hynny yw gosod prologau i’w Hefengylau sy’n tanlinellu rhai nodweddion craidd o weinidogaeth Iesu – na fyddai’n cael ei demtio i geisio moethau materol na grym gwleidyddol, ond y byddai’n driw i’r bwriad dwyfol drwy’r cyfan.

 

Serch cyfoeth symbolaidd y ddwy fersiwn gyfarwydd yna, gwell gen i realaeth byr a bachog Marc: “Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i’r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a’r angylion oedd yn gweini arno”, (Marc 1:12-13). Mae yna ryw ymdeimlad o fenter a risg, o ymroddiad a phenderfyniad, yn y ddwy frawddeg fer yna, ynghyd ag ymdeimlad o gefnogaeth gymunedol gynnes yr ‘angylion’.

 

Tu allan i’r traddodiadau mynachaidd prin yw’r sylw a roddir i ymprydio ac ymatal a disgyblaeth o fewn ein crefydda ni fel Cristnogion yn yr oes sydd ohoni – yng Nghymru, o leiaf. Mae’r arfer yn fwy amlwg yng nghyswllt y crefyddau Abrahamaidd eraill, efallai: Ramadan y Mwslemiaid, sy’n neilltuo amserau ar gyfer gweddi a haelioni elusennol; a Yom Kippur yr Iddewon, pan ceir cyfle i amlygu edifeirwch, nodi galar neu ddatgan diolchgarwch.

 

Fodd bynnag, waeth beth yw’n bwriadau o ran bwyta neu yfed neu ddisgyblu’n hunain mewn ffyrdd eraill, mae’r Grawys yn cynnig cyfle pellach i ni fyfyrio a gweddïo er mwyn ystyried ein perthynas ag eraill ac adeiladu ein perthynas gyda Duw wrth baratoi at ddathlu’r Pasg.

 

Yn ystod cyfnod y Grawys eleni trueni na fyddai’r gwladwriaethau gorllewinol sy’n honni eu bod yn gweithredu ar sail gwerthoedd Cristnogol yn cymryd y cyfle i wneud ychydig o ymatal hefyd. Beth am iddynt ymatal rhag rhoi sêl bendith tawedog i weithredoedd erchyll Llywodraeth Israel yn Gasa? Beth am iddyn nhw ymatal rhag trin ffoaduriaid gwleidyddol ac economaidd fel troseddwyr diedifar? Beth am iddyn nhw ymatal rhag cefnogi diwydiannau sy’n llygru a pheryglu’r blaned? Ydyn nhw ar ochr yr ‘angylion’ neu’r ‘anifeiliaid gwylltion’, dwedwch?

 

Gareth Ioan

Commentaires


bottom of page