top of page

Yma o hyd, o hyd....?



“Ry’n dal i fod yma, dal i fod yma...” Dyna gri atseiniol y ‘rap’ a gyflwynodd disgyblion Ysgol Bro Myrddin yn ystod y perfformiadau amrywiol a fu’n agoriad gwych i Eisteddfod yr Urdd Sul diwethaf. Yn debyg i lef anthemig Dafydd Iwan sydd wedi dod yn gydymaith i bêl-droedwyr Cymru a’u dilynwyr, roedd y bobl ifanc yn datgan eu boddhad wrth weld ein hiaith a’n diwylliant yn dal i sefyll yn gadarn er gwaethaf pob rhwystr. Da yw clywed y fath hyder ymhlith ieuenctid Caerfyrddin wrth i fröydd y sir brofi dirywiad arswydus yn nifer y siaradwyr yn ôl cyfrifiad 2021.

Mae gan gapel ym mhentref Cynghordy, nid nepell o Lanymddyfri, arwydd mawr uwchben y drws yn datgan ‘Yma o Hyd’; ond os bydd y dirywiad ymhlith addolwyr ledled Cymru yn parhau gallem ofyn ‘am ba hyd?’ Rhaid cyfaddef bod y sefyllfa’n dorcalonnus mewn nifer o fannau a’r tristwch yn dwysáu wrth sylweddoli bod rhai aelodau’n peidio ymuno mewn addoliad cyhoeddus mewn unrhyw fan wedi i’w heglwys nhw gau. Ai dim ond yn y lle penodol hwn mae modd diolch a moli a thyfu fel disgyblion Crist?

Cyflwynwyd y ‘rap’ ar faes yr Eisteddfod ar Sul y Pentecost. Ychydig oriau’n gynt roeddwn i wedi gwrando, yn ystod y Cymun, fel Cristnogion ledled y byd, ar hanes dramatig dyfodiad yr Ysbryd Glân yn ôl Actau 2. Gall fod yn anodd uniaethu â’r profiad ysgytwol hwnnw o’r arllwysiad dwyfol hwn ac felly hefyd y newyddion syfrdanol am dröedigaeth tair mil o bobl (Actau 2:41). Efallai ein bod ni, Gristnogion llugoer Cymru, yn ymdebygu mwy i’r olygfa a bennwyd fel Efengyl y Sulgwyn, sef Ioan 20:19-23. Yno clywn am ddisgyblion egwan Iesu wedi eu parlysu gan ofn ac yn cuddio dan glo. Ai darlun yw hwn o’n cyflwr truenus fel disgyblion heddiw?

Daw’r newid wrth i’r Crist atgyfodedig dorri drwodd gan herio pob rhwystr, nid yn unig muriau’r ystafell gaeedig ond hefyd calonnau caeedig y dilynwyr. Dim ond drwy glywed ‘Tangnefedd!’ gan Iesu (ddwywaith), gweld ei gorff clwyfedig a derbyn anadl yr Ysbryd y daw llawenydd i’r disgyblion a’r gallu i gyhoeddi maddeuant yn ei enw.

Serch hynny, mae perygl ein bod ni’n ystyried ein heglwysi simsan fel sefydliadau dynol – a dim mwy – yn hytrach nag offeryn y Crist buddugoliaethus a thrigfan Ysbryd bywyd anorchfygol. Os parhawn felly yn sicr bydd difaterwch, dirywiad a digalondid yn trechu. Nid argyfwng o ran arian ac adeiladau yw ein her pennaf ond argyfwng o ran dyfnder ein hymlyniad i Grist. Mae angen cyffro afreolus Ysbryd y Pentecost arnom, gan gydnabod llawnder gras adfywiol Duw yn gweddnewid breuder ein hymdrechion.

‘Cofiwch Dryweryn’ meddai graffiti eiconig yr A487, ger Llanrhystud. Ar faes yr Eisteddfod gwelais i arwydd yn ein hatgoffa nad oedd tynged dinistriol pentref Cwm Celyn yn anochel, gyda'r bregus yn ildio i orthrwm y grymus. Gwnaethpwyd hyn drwy gyfeirio at lwyddiant un pentref yng Nghwm Gwendraeth i wrthsefyll. “Cofiwch: arbedwyd Llangyndeyrn” A hwn yn galondid i’r eglwysi sy’n gofidio y daw dyfroedd seciwlariaeth ac esgeulustra i’w boddi?


bottom of page