Os yw coeden yn syrthio yn y goedwig a neb yno i’w chlywed hi, ydy hi’n gwneud sŵn wrth daro’r llawr? Dyna un o’r cwestiynau y mae athronwyr wedi ymgiprys gydag ef ers cantoedd. Wel nawr, mae gen i gwestiwn i ni fel Cymry (athronyddol) ...
Os ydyn ni fel cenedl leiafrifol, sy’n siarad iaith leiafrifol, yn peidio â chlywed ein llais ni ein hunain, a ydyn ni’n bodoli o gwbl? Mae’n ben-set. Fe glywsom ni’n ddiweddar fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng, efallai ein bod ni’n ceisio osgoi’r gwir am hyn. Mae’n llais ni’n bygwth mynd yn ddistawach, un sibrydiad ar y tro, nes ... nes ... bydd dim ar ôl.
Wrth gwrs, i ni sy’n siarad Cymraeg, dydy ein profiad ni ddim yn un lleiafrifol. Hynny yw, pan ry’n ni’n siarad Cymraeg, ry’n ei siarad hi 100% ac felly mae ein profiad ni’n un hollol gyflawn, yn fwyafrifol – ar lefel bersonol, unigol. Ond dydy pethau lleiafrifol ddim yn gwneud elw yn y byd ‘global’ a ‘mega’ hwn. Dydy pethau lleiafrifol ddim yn gwneud synnwyr mewn oes gyfalafol, fasnachol, sdim digon ohonon ni, ac felly ddylsen ni ddim bodoli, am nad ydyn ni’n gwneud digon o ‘elw’.
Ar un lefel felly, mae’n syndod ein bod ni cystal, yn wlad fechan ar gyrion cyrion Ewrop, ac yn iaith leiafrifol o fewn i’r wlad fechan honno, mae’n rhyfeddod ein bod ni yma o gwbl. Achos yma yr ydyn ni. O hyd.
Erbyn heddiw, mae’r weithred o siarad Cymraeg yn fwy llwythog gydag ystyr nag erioed o’r blaen. Nid dim ond iaith rydyn ni’n digwydd ei siarad am i ni gael ein geni iddi yw hi, ond mae ei siarad hi’n rhywbeth yr ydym ni’n dewis ei wneud, bob dydd. Yn y siop. Ar y stryd. Yn y gwaith. Gyda’n teulu. Os ydyn ni’n siarad Cymraeg, rydyn ni’n neud rhywbeth sy’n ots i weddill y byd ac mae hynny’n weithred fechan o wrthryfel yn erbyn y peiriant cyfalafol byd eang.
Eleni bu’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhont-y-pridd, ac fe wyddom i’r Gymraeg ddiflannu i bob pwrpas yng nghymoedd diwydiannol y de am i bobl wneud penderfyniad i beidio â siarad Cymraeg. Rwy’n gwybod fod hyn yn wir am i fy nheulu i yn y Rhondda, teuluoedd fy mam a fy nhad, ddewis dal ati i’w siarad hi ar adeg pan oedd pawb o’u cwmpas naill ai wedi neu wrthi’n rhoi’r gorau i wneud hynny. Cawsant eu hystyried yn bobl hen ffasiwn, yn rhyfedd, yn lletchwith a stwbwrn. Yn ffyliaid. Ac mae’n wir i ddweud bod twf ysgolion Cymraeg yn y cymoedd yn dyst i’r ffaith fod cymdeithas yno wedi gweld mai camgymeriad oedd gollwng gafael ar yr iaith wedi’r cwbl.
Erbyn hyn, efallai fod yr iaith wedi cyrraedd yr ystafelloedd dosbarth, ond dydy’r Gymraeg ddim wedi gwreiddio’n gyflawn ’nôl yn naturiol yn y cymunedau, ar y stryd, yn y siop nac yn y gwaith. Y mae’r ymdrech i gaffael y Gymraeg yn llwyr eto’n cymryd ddwywaith, deirgwaith yr ymdrech.
Felly, ni bobl sy’n siarad y Gymraeg o’r crud, ni bobl sydd wedi dysgu’r Gymraeg ein hunain, ydyn ni am ddiflannu? Ydyn ni am dorri’r arfer a jyst mynd gyda’r prif-lif uniaith am ei fod yn haws na mynd yn erbyn y llif hwnnw? Ac os ydyn ni’n siarad yr iaith ar lafar, beth am ei harfer hi mewn print? Ble welwn ni’r Gymraeg wedi’i hargraffu? Os na welwn ni’r iaith wedi’i hysgrifennu lawr, ydy hi’n bodoli?
Mae gennym ni lawer i gnoi cil drosto fel Cymry Cymraeg, ond i ni beidio â chloffi wrth feddwl gormod, na chael ein trymlwytho. Ac er gwaetha’r hyn wy’n ei holi, nid baich yw iaith, cyfrwng mynegiant ydyw, a dylem geisio ei gwisgo’n ysgafn a jyst ei defnyddio hi o ddydd i ddydd, bob dydd, bob cyfle gawn ni, yn ein bywydau arferol, ar achlysuron arbennig, wrth i ni fynd o gwmpas yn byw. Achos, wy’n gweud wrthoch chi nawr, os aiff y Gymraeg yn ddiflanedig, yna bydd hi’n ddeng gwaith anoddach i’w chael hi ’nôl. Meddyliwch am hyn, sneb byth yn gweld dodo’r abythdi’r lle y dyddie ’ma, o’s e ...?
Elinor Wyn Reynolds
10 Tachwedd 2024
Comments