top of page

Ydym ni ar ben ein hunain

( ar drothwy'r Pentecost ) ?


Y capel Cymraeg olaf yn y dref yw’r un ble rwy’n addoli. Criw bychan ydym heb weinidog na diaconiaid/blaenoriaid. Dim ond pwyllgor. Mae’n mynd yn anoddach llenwi Suliau - dim ond hanner Suliau 2023 hyd yma – ond rydym yn ceisio gynnal oedfa bob Sul. Ar ôl penderfynu beidio dilyn oedfaon cyfan ar “Zoom,” gan eu bod yn rhy debyg i wylio teledu, rydym yn ceisio addasu ac amrywio oedfaon. Weithiau mae yna “pregeth sgrin” wedi recordio yn cael ei dangos gyda’r aelodau yn cymeryd y rhannau arweiniol. Weithiau mae’r aelodau (prin yw’r rhai efo addysg coleg a does neb wedi astudio diwinyddiaeth !) yn cynnal oedfa y maent wedi ei pharatoi o darlleniadau, gweddïau a myfyrdodau. Mae digon a wasanethau felly i’w cael erbyn hyn. Go brin y byddai y safon ‘ddiwinyddol’ yn bodloni rhai – nid ydym yn ‘efengylaidd na ‘rhyddrydol’ - ond mae cyd-addoli, cyd-weddïo, atgoffa ein gilydd am ein cred Gristnogol a chymdeithasu yn bwysig i ni. Un fendith sydd gennym yw organydd, oherwydd fe fyddai’n ddiflas iawn darllen emynau. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau eraill: cael system sain newydd; newid amser oedfa i’w gwneud yn fwy cyfleus; symud hanner y cadeiriau er mwyn cael lle paned pob Sul i wneud cymdeithasu yn haws ac weithiau cynnal pwyllgor i bawb o’r aelodau.

Mae’n hawdd iawn teimlo ein bod ni ar ein pen ein hunain (ond Duw gyd ni, wrth gwrs). Ymddangosir fod gweinidogion cyflogedig i gyd wedi diflannu i’r trefi mawr gydag ysgolion uwchradd Cymraeg. Mae’r gweinidog agosaf atom yn byw dros 35 milltir i ffwrdd ac yn cynnal nifer o eglwysi. Nid wyf yn cofio’r tro diwethaf y daeth gweinidog cyflogedig atom a phrin yw’r sôn am eglwysi gwan fel ni yn y wasg grefyddol. Adroddir am ddigwyddiadau pwysig (pell) ac argyfyngau tramor a’r lluniau â ddaw o’r eglwysi lleol i’r wasg naill yn luniau o blant o neu o bwysigion yn y sedd fawr. Daw gair gan ‘ yr enwad’ pan fydd rhyw apêl arbennig ac er bod Cytun lleol “dwyieithog,” does dim ymdeimlad o’n hargyfwng. A oes cynlluniau cyd-enwadol bellach ?

Gwn fod rhai capeli sydd yn ceisio cadw’r drws ar agor yn unig (am lai a llai o Suliau) a bod rhai sy’n gwrthod uno, hyd yn oed efo capel sy’n agosach na’r siop agosaf.

Tybed a’i capeli â ddylid cau yw capeli felly ? A yw’r enwadau yn gwybod ble mae’r capeli bychain sy’n ceisio symud ymlaen yn gadarnhaol, faint ohonynt sydd, neu ble mae’r ardaloedd heb gapel Cymraeg o gwbl?


Ple mae cynlluniau cyd-enwadol i hybu uno capeli bychain a chynorthwyo’r capel(i) olaf mewn ardal eang ? Mae anghenion capeli bychain yn amrywio. Mae rhai angen cymorth gyda’r dechnoleg newydd ar gyfer oedfaon a chyfathrebu a’r gymuned. Mae eraill angen dulliau adfer moliant mewn oedfa di-organydd ac eraill angen darganfod deunydd addoliad sydd yn addas i eglwysi fel ein heglwys fregus ni. Ydyn ni ar ein pen ein hunain ar drothwy’r Pentecost ?





bottom of page