Bore 'ma, wrth droi’r tapiau yn y gegin ymlaen i olchi'r llestri brecwast, dwi'n gwlychu fy hun: dyna beth mae canser y chwarren brostad yn gallu ei wneud. Rwy'n melltithio – ac yna'n rhoi diolch fy mod i'n dal i allu pasio dŵr. Dyw’r chwydd yn y chwarren, oherwydd y canser, ddim wedi rhwystro'r gwaith plymio yn llwyr!
Doedd y diagnosis, ychydig wythnosau'n ôl, ddim yn syndod er ei fod yn frawychus. Roedd gan fy nhad, welwch chi, ganser ymosodol y brostad – ac mae'r duedd deuluol o dad i fab bellach yn cael ei gydnabod . Roedd Dad wedi anwybyddu'r arwyddion – roedd o'n ddyn o genhedlaeth, addysg a chymdeithas benodol ac felly ‘roedd yr holl symptomau yna'n rhy chwithig i siarad amdanynt. Am dair blynedd, ar droad yr unfed ganrif ar hugain, fe'i gwyliais yn marw mewn diflastod.
Dechreuodd fy 'symptomau chwithig' chwech neu saith mlynedd yn ôl ac rydw i wedi cael archwiliad blynyddol gyda fy wrolegydd ers hynny. Nac ydy – dyw’r ‘prawf bys’ (lle nad yw'r haul yn tywynnu) ddim heb embaras, ond fel un o greadigaethau gwerthfawr Duw, credaf fod fy nghorff – hyd yn oed fy rectwm – yn 'deml yr Ysbryd Glân sydd ynof fi' (1 Corinthiaid 6:19). Roedd personoliaeth hawdd fy wrolegydd yn gwneud byd o wahaniaeth i sut roeddwn yn teimlo! Dwi wedi bod yn cael profion gwaed yn rheolaidd hefyd, i fonitro marciwr gwaed sy'n dangos problemau o fewn y chwarren – a dyma'r prawf gwaed diweddaraf yn canu cloch. Cefais fy ail-alw i’r clinig am biopsi.
Oherwydd hanes fy nhad does gen i ddim yr opsiwn i 'wylio ac aros' ac rwyf wedi cael fy annog i beidio â chael radiotherapi - a allai fod yn effeithiol yn yr achos hwn - ond ni fyddai yn fy amddiffyn rhag unrhyw diwmorau yn y dyfodol .Rydym felly wedi dewis llawdriniaeth i dynnu'r chwarren. Cwrddais â'r llawfeddyg y dydd o'r blaen. Iraci siriol ydyw gyda bron i bymtheg mlynedd o brofiad o ddefnyddio robot i gynorthwyo techneg llawfeddygaeth ‘twll clo’. Wrth fyfyrio ar ei dreftadaeth Fwslimaidd dewisais weld wyneb Crist yn ei wyneb (gan obeithio nad yw hynny yn amharchus) ac ymddiried y bydd dwylo Duw ar y ddaear yn gweithio drwy ei ddwylo ef. Rwyf hyd yn oed wedi argyhoeddi fy hun y gall dwylo Duw weithredu drwy robot â phum braich hefyd!
Ychydig wythnosau yn unig sydd rhaid aros am lawdriniaeth. Ni allwn wybod pa mor ymosodol fydd fy nghanser yn datblygu - er y bydd yr histoleg ar ôl llawdriniaeth yn dod i rai casgliadau - felly er nad yw'n driniaeth-ar-frys mae'n hanfodol yn y tymor byr, os ydw i am obaith gwellhad. Mae'r aros yn anodd.
Y rhan fwyaf o'r amser mae gen i dasgau fy mywyd bob dydd - dwi’n darllen, ysgrifennu, myfyrio/gweddïo, cerdded ci ein cymydog, mynd i'r archfarchnad. Rwy’n fodlon i rwtîn fy nghario . Ond , ar adegau, mae delweddau o flynyddoedd olaf fy nhad yn hunllef i mi - yr olwg wag llawn anobaith yn ei lygaid… yr ystum ar ei wyneb oherwydd y boen yn ei esgyrn… y crafu croen diddiwedd wedi i’r canser ymledu i’w iau. Ydw i'n edrych mewn drych?
Yn y munudau hunllefus hynny bydd llifddorau yn agor ac adnodd ysbrydol yr holl adnodau hynny a ddysgais ar gyfer yr Ysgol Sul dros drigain mlynedd yn ôl yn cynnig cysur, a sicrwydd ac yn ail-gadarnhau ffydd.
コメント