top of page

Yann a’r Golomen

Un o ffrindiau fy mab yw Yann. Mae o'n ddeg oed ac fe ddaeth o acw neithiwr i dreulio'r penwythnos gyda fy mab.

 

Er mawr syndod, daeth Yann gyda mwy na bag dillad. Daeth Yann â cholomen. Nid tedi colomen smalio-bach oedd hon ond colomen go iawn. Roedd y golomen wedi ei hanafu ac roedd Yann wedi mynnu bod ei fam wedi stopio'r car i geisio achub y golomen glwyfus.

 

Treuliodd y bechgyn ddiwedd y prynhawn yn paratoi hafan fach i'r golomen mewn hen focs sgidiau a'i lenwi â mwsogl a glaswellt o'r ardd. Fy merch gafodd y gwaith o wneud darluniau bach manga i'w gludo ar y bocs. Cyffro mawr wedyn ar ôl imi ganiatáu (yn annoeth) i'r plant ddod â'r golomen yn y bocs i lofft fy mab am y nos. 

 

Y llyfr sydd gen i wrth fy ngwely ar hyn o bryd yw The Holy Spirit, gan Sinclair B. Ferguson. Dim ond rhyw bori trwy'r llyfr ydw i'n llwyddo i'w wneud – rhyw dudalen bob nawr ac yn y man er ei fod yn hynod ddiddorol. Mae'n arolygu dysgeidiaeth yr Hen Destament am yr Ysbryd Glân. Trwy roi sylw ar fanylion gweithredol, mae Ferguson yn nodi bod yr Ysbryd eisoes ar waith “i drefnu a chwblhau'r hyn sydd wedi'i gynllunio ym meddwl Duw.” Anodd oedd ceisio deall a dadansoddi'r pethau hyn gyda'r plant yn y llofft drws nesaf yn chwerthin a sgwrsio, yn dal i fyrlymu am y golomen.

 

"Mae dad yn dweud bod colomennod fel pla yn Breizh a bod pw-pw colomen ddim yn dda i'r llysiau yn yr ardd." Chwerthin mawr wedyn. Druan o'r golomen! Doedd dim heddwch i'w gael yn ei chartref dros dro!  

 

Mae'n ddigon gwir fod llawer iawn o golomennod  yma, a'r ffermwyr yn cwyno'n amdanynt yn gyson. Dw i'n gweld a chlywed colomennod yn feunyddiol a dydw i ddim yn talu llawer o sylw a dweud y gwir.  Mae eu sŵn ‘cw-cw-cw-cwww’ yn drac sain gefndirol, arferol yn y pentref hwn.

 

Cyn imi fynd i'r llofft i ddweud y drefn mi dawelodd y tŷ ac roedd y plant yn cysgu, gan fy ngadael mewn tawelwch yn ystyried y golomen a'i chysylltiad â'r Ysbryd Glân, ymhlith pethau eraill. 

 

Colomen yw colomen yn Gymraeg. Yn Saesneg, buaswn yn dadlau bod gwahaniaeth mawr rhwng pigeon a dove. Onid ydi dove yn cael ei ystyried yn fwy gosgeiddig a hardd na’r pigeon cyffredin sydd yn dipyn o niwsans? Mewn gwirionedd, does ‘na ddim gwahaniaeth gwyddonol rhwng pigeon a dove. Yr unig wahaniaeth rhwng white dove a pigeon yw lliw ei phlu. 

 

Y colomennod craig a geir ym Mhalestina yw hynafiaid gwyllt ein colomennod cyffredin. Daw colomennod mewn lliwiau amrywiol, o wyn i frown golau ac i frown mwy tywyll. Mae gan hyd yn oed y golomen lwyd orchudd arian a disgleirdeb yn ei phlu. 

 

Beth os ydy'r Ysbryd Glân yn agosach atom? Beth os ydi hi'r un mor agos â'r colomennod cyffredin sy'n cyd-fyw yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd? Tybed ydym ni’n ystyried bod y golomen oedd fel yr Ysbryd Glân yn wahanol, yn well ac yn bell oddi wrthym ni? Ydi hi'n agosach mewn gwirionedd? Fel y colomennod sydd o'n cwmpas a ninnau'n rhy brysur i sylwi arnynt.

 

Bore ma, mi gafodd colomen y bocs esgidiau ei gollwng yn rhydd yn yr ardd ac fe hedfanodd ar ei thaith ddirgel. Cefais gip go iawn arni yn y bocs cyn iddi fynd, ac ystyried geiriau'r efengyl Luc am fedydd Crist.

 

"...a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: 'Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu’.” (Luc 3:22).

 

Mae grasusau yn dod o'r llefydd annisgwyl a'r penwythnos hwn daeth Yann bach deg oed i’n tŷ ni i’m dysgu i edrych ar golomen.

 

 

Lleuwen Steffan

 

Comments


bottom of page