top of page
Search

Y Weddi AI

  • garethioan1
  • Jul 13
  • 3 min read

Fyddai fy nhad bob amser yn gweddïo o’r frest. Nid yn unig hynny, ond fe fyddai’n mynd ar ei liniau yng nghornel y Sêt Fawr i gyfarch ei Greawdwr. Capel bychan oedd Bethania a’r seti pellaf yn ddigon agos i lais fy nhad gyrraedd atynt, er ei fod ar ei liniau a’i ben yn ei ddwylo. Roedd y gynulleidfa fel ei Dduw yn agos.


Deugain mlynedd yn ddiweddarach dyma fi yn gweithio ar gylchlythyr yn amlinellu trafodaethau’r enwad a thrafodaethau swyddogion yr eglwys ynglŷn â’r weledigaeth bosibl ar gyfer y dyfodol.


Roedd gen i dudalen wag. Fyddai gweddi yn gweddu i’r dim. Ond roedd amser yn brin. Felly dyma holi fy ffrind diweddaraf, AI, i gyfansoddi un i mi. Ac fe wnaeth, yn ddigon taclus.


Mae yna lawer o drafod am AI, am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae o wedi bod yn chwyldro go iawn i’r diwydiannau creadigol – i gyfansoddwyr, darlunwyr ac awduron – i weld technoleg yn creu rhywbeth o ddim sydd bron cystal â’r gwreiddiol.


Yn ddiweddar mae’n debyg bod Steven Bartlett (Dragon’s Den) wedi rhoi ei enw i bodlediad lle mae o wedi holi i DdA ddatblygu syniad, sgriptio a darllen rhaglenni yn defnyddio ei lais o. Mae’n debyg bod y darllediad yn llwyddiant a hyd at 60% o’r gynulleidfa yn dychwelyd.


Felly beth amdanom ni? A fydd yna (a oes yna bobl eisoes) yn holi AI i greu pregeth iddyn nhw? Llunio patrwm gwasanaeth? Mae un, o leiaf, wedi creu gweddi. Beth yw goblygiadau hyn?


Mae’r ddelwedd o ‘nhad yn gweddïo’n gyhoeddus yn un gref. Yn safon aur, efallai. Ond roedd o’n eithriad yn y 1980au. Wn i ddim pa mor eithriadol oedd o yn y 1960au neu’r 1940au. I mi, a’r aelodau eraill, mewn eglwys fechan oedd yn amlach na pheidio heb weinidog, codi gweddi neu fyfyrdod o un o’r myrdd o ‘lyfrau gwasanaeth’ oedd ar gael fyddwn i. Ac mae hynny’n dal yn wir.


Pa faint o gamau sydd yna rhwng gweddïo o’r frest, darllen gweddi gan Elfed ap Nefydd Roberts a holi DA i greu un? Os yw’r geiriau yn cyfleu’r neges angenrheidiol, a oes gwahaniaeth? Sawl cam sydd yna rhwng gwrando ar bregeth fyw, gwrando ar bregeth wedi ei dangos ar sgrin a holi AI i sgwennu a’i thraddodi hi yn llais R. Tudur Jones?


Mae rhywbeth yn cael ei golli. Rhywbeth am y profiad. Enaid, ysbryd, naws. Ond, mewn cyd-destun arall, ai dyna’r gwahaniaeth rhwng cyngerdd byw a recordiad. A ‘dan ni’n byw gyda'r ddeuoliaeth honno ers amser maith. Efallai mai un gwahaniaeth i’w ystyried ydy tryloywder – ydyn ni’n dweud, yn cyfaddef, ein bod ni wedi ei ddefnyddio fo? Ydyn ni’n dweud ein bod ni wedi defnyddio Google i wneud gwaith ymchwil, Google Translate i gyfieithu rhywbeth, gwiriwr sillafu? Petawn i heb ddweud mai DA greoedd y weddi, a fyddai gwahaniaeth?


Efallai, wrth weddïo am arweiniad wrth newid ein hamgylchedd corfforol, y dylen ni fod yn meddwl sut y bydd hi’n ymgorffori’r cyfryngau fydd ar gael ar ein cyfer ni i addoli ynddi.


Dyma’r weddi, sydd, efallai, yr un mor addas wrth wynebu newidiadau technolegol!

 

Dad Nefol, 

Yn y tymor hwn o drawsnewid, gosodwn ein heglwys ger dy fron. Wrth i waliau symud a strwythurau esblygu, gad i'n sylfaen aros yn gadarn yn dy gariad diddiwedd. 

Dyro ddoethineb i'r rhai sy'n arwain, eglurder i'r rhai sy'n cynllunio, ac undod ymhlith pawb sy'n gwasanaethu. Boed i bob penderfyniad adlewyrchu dy ewyllys ac i bob ymdrech gael ei harwain gan dy law. 

Cysura'r rhai sy'n teimlo'n ansicr, tawela'r rhai sy'n ofni beth sydd i ddod, ac ysbrydola ni i gyd â gweledigaeth newydd ar gyfer dy bwrpas o fewn y muriau hyn. 

Gad i'r newid hwn beidio â gwanhau ein ffydd, ond dyfnhau ein hymddiried ynot ti. Boed i ni gofleidio'r eiliad hon fel cyfle i dyfu, i gryfhau ein cymuned, ac i ogoneddu dy enw. 

Trwy bob her, boed i ni gofio mai nid yr adeilad ond y bobl yw dy eglwys di – wedi'u galw, eu caru, a'u hanfon gennyt ti. 

Yn enw Iesu,   

Amen. 



Rocet Arwel Jones

13 Gorffennaf 2025

 
 
 

Comments


bottom of page