top of page

Y Troi Allan

Wrth ddarllen eto lyfr Nansi Martin ar Gwilym Marles a’r ‘troi allan’ o gapel Llwynrhydowen yn 1877, daw pob math o deimladau i feddwl rhywun ar draws ei gilydd.

 

Yn y lle cyntaf, ni allwn lai nag edmygu safiad dewr y gynulleidfa a’i gweinidog yn wyneb difrawder creulon y sgweier a’i asiant. Y fath deyrngarwch i adeilad! Y fath barch tuag at gapel a’i fynwent! Ond dyma ni, lai na chanrif a hanner yn ddiweddarach, yn gweld capeli yn cau un ar ôl y llall ym mhob cwr o Gymru. A does fawr neb yn cyffroi dim.

 

Mae’r newid rhyfeddol hwn a ddigwyddodd i’n diwylliant a’n ffordd o grefydda yn anodd iawn i’w ddeall a’i esbonio. Ond rhaid, ysywaeth, ei dderbyn ac o’i dderbyn gofyn pa ddewis sydd yna i Gristnogion Cymru wrth wynebu’r dyfodol.

 

Mae Cristnogaeth 21 wedi datgan eisoes ein bod yn gefnogol i edrych o ddifri ar beth ellir ei wneud gyda’n capeli a’n heglwysi. Rydym eisoes wedi clywed gan y Comisiynwyr Elusen nad yw’n wir fod rhaid i’r adeiladau hyn gael eu gwerthu am y pris uchaf, os gellir dod o hyd i brynwyr sydd am wneud defnydd ‘cyffelyb’ o’r adeiladau. Un her sydd o’n blaenau yw dangos bod y ‘defnydd cyffelyb’ hwnnw yn medru cynnwys unrhyw ddefnydd a fydd o fudd i’r gymuned, boed fel cartref i’r digartref neu fel canolfan gymunedol. Ac er mwyn gwireddu hynny, rhaid cael gafael ar gyrff cymunedol addas i brynu’r capeli a’u haddasu i’w pwrpas newydd.

 

A dyna ble mae’r broblem. Mae gennym gyrff sy’n darparu tai fforddiadwy a thai ar rhent yn ein cymunedau, ond does ganddyn nhw, fel rheol, ddim cyllid ar gyfer gwaith ‘ychwanegol’ fel hyn.  Yn wir, cafwyd adroddiad yn ystod yr wythnosau diwethaf bod cynlluniau Llywodraeth Llundain i ddarparu tai fforddiadwy yn Lloegr yn methu am nad oedd gan y Cymdeithasau Tai arian i brynu’r tai a godwyd i’r pwrpas hwnnw. O ganlyniad mae miloedd lawer ohonyn nhw yn sefyll yn wag!

 

Felly'r unig enghreifftiau sydd gennym yng Nghymru o gapeli yn cael eu haddasu ar gyfer y gymuned leol yw cynlluniau fel y rhai hynny a arweiniwyd gan bobl ymroddedig fel Cris Tomos yn Sir Benfro ac ambell un arall. Neu fel sydd wedi digwydd yma yng Nghaeathro, lle mae’r capel wedi ei droi’n ganolfan gymunedol amlbwrpas, yn cynnwys lle o addoliad. Roeddem ni’n ffodus gan nad oedd yna ganolfan arall yn y gymuned, na chapel nac eglwys arall i gystadlu am yr arian - a’r arian hwnnw yn dod gan y Presbyteriaid ar gyfer y capel, a chan y Cyngor Sir ar gyfer yr elfen gymunedol.

 

Yn y cyfamser, gwelwn arian sylweddol yn cael ei godi gan sawl cymuned i brynu’r dafarn leol, ac o drefnu pethau’n iawn, fe welwn y Lotri neu’r Llywodraeth yn ariannu’r cynlluniau hyn ymhellach. Felly, onid oes yna ateb amlwg sy’n cynnig ei hun fan hyn? Os ydym yn wir am weld yr eglwys Gristnogol unwaith eto wrth galon y gymuned, onid trwy neilltuo stafell yn y tafarndai cymunedol  ar gyfer lle o addoliad y mae gwneud hyn?

 

Yma yng Nghaeathro, pan fydd y groes ar y wal, mae’r stafell yn gapel; fel arall, mae’n stafell ar gyfer pob math o weithgareddau cymunedol eraill. Byddai’r un peth yn bosib mewn stafell yn y tafarndai cymunedol newydd, a hynny’n tynnu’r eglwys i galon y gymuned. Byddai hefyd, gyda gobaith, yn tynnu aelodau newydd i gylch gweithgaredd y capel.

 

Onide, does fawr ddim o’n blaenau ond gweld rhagor o gapeli’n cau dan bwysau cynnal adeiladau anaddas sydd wedi hen ddarfod eu defnyddioldeb.

 

Dafydd Iwan

20 Hydref 2024

 

Comments


bottom of page