top of page

Y plentyn yn tyfu


 Erbyn hyn bydd llawer ohonom wedi anghofio’r Nadolig. Ond rwy’n gobeithio i ni oll mewn rhyw ffordd neu’i gilydd gael bendith. Felly y digwyddodd hi i’r bugeiliaid mae’n siwr. Cawsant brofiadau mwya’u bywyd y noson honno. Ond ni allent aros yn y beudy: roedd yn rhaid iddynt fynd yn ôl at eu gwaith gyda’r praidd.


Rhaid fod taith y doethion wedi bod yn bennod ryfeddol yn hanes eu bywyd hwythau. Nid bob nos na phob blwyddyn y bydd sêr ddewiniaid yn darganfod seren newydd. Ac yn sicr nid seren yn symud fel y gwnâi hon. Maent yn haeddu canmoliaeth am ganlyn arweiniad y seren ar daith mor bell. Buasem oll yn barod i faddau iddynt am feddwl, wrth gyrraedd Jwdea, y gallent ddibynnu am unwaith ar eu rhesymeg meidrol eu hunain a gwyro’u llwybr i gyfeiriad plas Herod. Ond uchafbwynt eu taith oedd dod o hyd i’r beudy a’r baban yn y preseb. Eto, thalai hi ddim i’r sêr ddewiniaid ychwaith aros yno. Roedd yn rhaid iddynt hwythau hefyd ddychwelyd adre.


Os newidiwyd bywydau’r bugeiliaid a’r sêr ddewiniaid, meddyliwch am y ffordd y newidiwyd bywyd Mair a Joseff. Profiad rhyfeddaf bywyd y ddau oedd y geni ym Methlehem. Ond bu’n rhaid iddynt hwy godi’r baban o’r preseb ar frys a symud ymlaen a ffoi i’r Aifft. Ar frys mawr, yn union fel rhieni Gaza wedi rhybuddion yr Herod modern, Netanyahw. 


Beth oedd ar ôl ym Methlehem wedyn? Beth sydd ar ôl wedi unrhyw Nadolig? Dros dro y bu’r gwleddoedd ar ein byrddau ni. Maent wedi diflannu. Dros dro y bu’r addurniadau ar ein muriau ni. A beth oedd ar ôl yn y beudy ym Methlehem ond preseb gwag. Ac felly y dylai hi fod.


Mae yna ryw hen ysfa ynom ni i gadw Iesu yn faban yn y preseb o hyd. Gwrthrych hardd a thyner a phur ein haddoliad ni. Tra bydd yn y preseb ni fydd yn boen i’n cydwybod ni. Ni fydd yn ein herio ni nac yn dweud pethau anghyfforddus am ein bywydau ni. Y peth olaf mae unrhyw Herod yn ei ddymuno yw fod y baban yn cael dod allan o’r preseb, y baban yn cael tyfu (Luc 2.40).

 

Pan adawn ni i’r plentyn dyfu fe fydd yn cerdded i bob rhan o’n bywyd ni. Bydd yn dod i ganol ein defodau crefyddol ac yn ein beirniadu. Bydd yn sôn am offeiriad / gweiniodog / archesgob yn gweld y drwg ond yn mynd o’r tu arall heibio. Bydd yn ein gweld yn y goeden fel Sacheus, yn ein galw i lawr ac yn newid ein bywyd.

 

John Gwilym Jones


Kommentarer


bottom of page