Y Pasg
- cristnogaeth21
- Apr 20
- 3 min read
Updated: Apr 29
Gwirionedd am Dduw yn ei Drindod yw’r Atgyfodiad, nid gwirionedd am bobl. 'Agwedd’ - i’w roi o fel ’na - o’i Ras ydyw. Di-amod a di-haeddiant o’n hochor ni. Rhodd ac nid hawl. Dirgelwch llwyr, yn yr ystyr Feiblaidd ‘nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi.’
Beth bynnag yw ‘ffurf’ neu ‘siâp’ Yr Atgyfodiad yn y diwedd - a gallwn ddychmygu faint fyd fynnom, ond yn ofer - ‘Digon i ti yw fy ngras i, canys fy nerth i a berffeithia mewn gwendid’ yw’r unig ‘sylwedd’ y medrwn ddynesu ato.
A’r gwendid yw’r peth. ‘Yr oedd yr athronydd Nietzsche yn llygaid ei le pan haerodd - yn ddirmygus, wawdlyd, wrth gwrs, yn ei achos ef - mai crefydd ar gyfer caethweision oedd Cristionogaeth. Ni eill Cistnogaeth fod yn rhan o unrhyw ‘great’ megis Make America Great Again. (Barnu pob diwylliant yw tasg Cristnogaeth).
Yr eironi fawr yw bod Cristionogaeth yn yr union le iawn y dyddiau hyn oherwydd ei bod mor wan. Ac mai ffurf ar geisio’r ‘great’ yw yr holl sôn am ‘dyfu’. A yw hynny wedi meiddio croesi ein meddyliau erioed? A sawl agwedd ar y ‘tyfu’ yn ddim ond imperialaeth ysbrydol fel ag a fu?
O’r gwendid yna yr ymddengys Yr Atgyfodiad. Y mae’r Groes a’r Atgyfodiad yn annatod. Ni ellir Atgyfodiad heb Y Groes.
Etifeddion i groesau ydym, er dymuno’n daer yn wahanol, a chreu o’n bywydau amddiffynfeydd i geisio osgoi hynny. A dwyn ‘crefydd’ i mewn i’r broses osgoi i’n swcro. Gwadu ein creadurusrwydd yw hyn. Mae dwy heresi fawr gyfoes - er wedi bod yna erioed - yn y gwadu hwn. Hedonistiaeth, ar y naill law - yfed, bwyta, a byddwch lawen canys yfory y byddwn farw. A nihiliaeth ar y llaw arall: nid oes diben na phwrpas i ddim.
Y safbwynt Cristionogol - a’r anoddaf un - yw byw Yr Atgyfodiad. Ymddiried Gras yw hynny. Yn aml mae ffeithiau ein byw i’w gweld yn tanseilio’n gyfan-gwbl yr ymddiriedaeth hwnnw. Anghyfiawnderau lu a thrais di-ddiwedd yn meddiannu’r byd. Y ‘cyfoethog’ yn pesgi, a’r tlodion yn dihoeni. Anffyddiaeth yn well ‘esboniad’ ar bethau na ‘theistiaeth’.
Ond ynom y rhai sydd wedi profi Gras mae rhywbeth sy’n fychan, wydn, tebyg i lais sydd yn y dyfnder yn dweud fy enw. ‘Arogleuon’ megis barbeciw o bysgod. ‘Synnau’ megis crystyn torth yn torri. ‘Gwahoddiad’ i edrych ar y briwiau.
Nid gwasgu dannedd a sugno aer gan obeithio am y gorau mo hyn. Rhyw optimistiaeth ddi-sail. Y mae ynom resymau dilys. Sef yr hyn a ‘wyddom’ am Dduw yn ei Drindod drwy graffu ar Iesu, darllen y Beibl yn ei grynswth blêr, ein profiadau ein hunain, ysgrifeniadau holl ddiwinyddion yr oesau ac nid y rhai hynny sydd at ein dant ni’n unig. Nid ‘unigolyddiaeth’ a’r ‘hyn yr wyf fi’n ei gredu’, ond Cymundeb y Saint. Nes dyfod i’r fan honno ynom y disgrifiodd George Herbert fel ‘something understood.’
A bod Atgyfodiad yn ddigwyddiad ac yn broses, nid yn esboniad ond yn berthynas, yn ddyfnder yn hytrach na pharhad, yn agos atom a thu hwnt i ni, yma ac nid yma ychwaith, yn fynegadwy a’r holl eiriau’n wag, yn y tawelwch ir rhwng ‘Mair’ a ‘Raboni’, yn llawn trugaredd ond nid fel ein trugaredd ni, yn gariadus ond nid fel ein cariad ni, yn drybola o gyfiawnder ond nid fel y dirnadwn ni gyfiawnder, yn ddwfn o heddwch sydd y tu draw i’n hamgyffrediad ni o heddwch.
Dymunaf ddyfnder Y Pasg i chi i gyd.
Aled Jones Williams
Sul y Pasg, 20 Ebrill 2025
Comments