Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn
- 4 hours ago
- 3 min read
( Ioan 3.8)
Darllen teyrnged y Dr. Thomas Parry i Ifor Ceredig Jones (1902-1965) â ddeffrodd ynof atgofion am ddyddiau gynt a byd-pell-yn-ôl. Gyda’r blynyddedd,wedi pylu rhywfaint ar y côf am fagwraeth yn Ebeneser, Kingdsland,Caergybi ond erys yr hiraeth am yr hen aelwyd Fethodistaidd ei pherswâd a’m swcrodd ac a fu mor dyner ei gofal ohonof . Clodfori ei gyfaill am ei ymlyniad wrth ddoethineb ei hynafiaid a’r gwerthoedd gwâr a wnaeth yr Athro. Meddai ‘Fe dreuliodd ei lencyndod mewn oes pan oedd gafael ymneilltuaeth yn dynn ar war yr ifanc cyn bod strancio yn gymeradwy ac ymneilltuo o ymneilltuaeth yn ffasiynol. Dyma ŵr a dderbyniodd y grefydd a fynnai ufudd-dod i’w gofynion, a thyfu’n braff a chytbwys.’
Nid wyf am uniaethu fy hun wrth deyrnged mor loyw â hon. Ond gallaf innau a’m cenhedlaeth dystio i’r dylanwadau â roes i ni ymwybod dwfn â’r gwerthoedd gwâr roddodd i ni ffydd i fyw wrthi.. Erbyn heddiw cymdeithas dlawd yn yr ysbryd yw pentre Kingsland ac erys yr hen gapel yn gofadail i orffennol â greodd y Gymdeithas Gymreig.
Daeth Gŵyl Dathlu y Tywalltiadau heibio i ni eto eleni.Euthum innau i gadw’r oed yn un o’r ‘blychau sgwâr’ a fu’n britho tirwedd Môn.Pan ddaeth yr awr,dim ond dau ohonom oedd yn bresennol i gadw gŵyl ac roedd y cyfaill â gefais yn gwmni yn amddifad o ran helaeth o’i glyw A minnau yng nghanol pwl o hunan dosturi, digwyddodd y wyrth. Daeth gŵr ifanc a’i briod i ymuno â ni a daeth y pedwar yn bump ym mhresenoldeb Crist y Pasg. Nid oedd gwynt yr Ysbryd yn rhuo na thân yn llosgi , ond profasom ias y Cwmniwr anweledig. I’r Cristion,Ysbryd Crist yn bennaf oll yw’r Ysbryd Glân. Ni allai’r Apostol Paul feddwl am yr Ysbryd ond fel Ysbryd Crist . ‘Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd’ meddai wrth y Corinthiaid. Cywir felly yw Credo Nicea-Caergystennin wrth ddweud fod yr Ysbryd i’w gyd-addoli gyda’r Tad a’r Mab. ‘Y tri yn un a’r un yn dri/ yw’r Arglwydd a addolwn ni.’
Nid oes amheuaeth nad oes i’r credoau traddodiadol werth amlwg fel mynegiant o’r hyn y dylid ei gredu, ond er hynny mae’n rhaid gochel y perygl o’u hystyried yn fynegiant cyflawn a therfynol. Y mae’r gwirionedd yn rhy fawr, yn rhy ddeinamig i’w gaethio mewn patrwm statig, unwaith-ac-am-byth. Y mae’n ddysgeidiaeth â rydd Iesu i’w ddisgyblion noswyl ei farw gan eu rhybuddio, ‘Y mae gennyf eto lawer i’w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd. Ond pan ddêl ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe’ch arwain yn yr holl wirionrdd.’ Mae mwy a mwy i’w ddweud o hyd.
Athanasiws,un o’r Tadau cynnar, a ddisgrifiodd yr Ysbryd fel ‘Pontiwr’ – yn pontio rhwng Iesu’r stori a Christ y galon grediniol.Iesu hanes a Iesu ffydd.Tasg yr Ysbryd yw diddymu terfynau a ffiniau amser
Sefyll ar ysgwyddau’r cewri y mae pob cenhedlaeth ac ar bwys myfyrdod ac addoli yr eglwys, mynd yn fwy, nid yn llai y mae Iesu. Dod y nes atom,nid pellhau oddi wrthym.Mae’r un â ffarweliodd â’r cwmni ar lethrau’r Olewydd wedi aros yn nerth, llawenydd a thangnefedd ei Ysbryd i gynnig cymod,perthynas a chyfeillgarwch.
Llyn digynnwrf yw’r oedfa Gymraeg yn aml yn ein capeli ond yn Nghpel y Traeth, Cricieth, yn ddiweddar cynhyrfodd yr Ysbryd y dyfroedd llonydd.. Ymunodd ugain o Amercanwyr ifanc.Cenhadon dan hyfforddiant oeddynt ac yn dymuno blasu gwasanaeth Cymraeg. Cafwyd oedfa i’w chofio. Cenhadaeth i’r holl fyd yw cenhadaeth yr Ysbryd oherwydd mae neges Crist ar gyfer y ddynoliaeth gyfan.Roedd enghraifft loyw o hynny o’m blaen : dyma ffrwyth cenhadaeth byd eang Ysbryd yr Arglwydd Iesu Grist. Roedd yn fraint cael bod yn eu cwmni ac yn fwy o fraint cael arwain yr addoli.
Robert Capon.

Comments