‘Y mae afon a’i ffrydiau’n llawenhau dinas Duw’. (Salm 46)
Gydol hanesion a chwedlau’r Hen Destament a’r Testament Newydd mae’r afon, y môr a dŵr yn cyfleu bendith a bywyd creadigaeth Duw.
Yn Salm 46 ceir hanes dinas Jerwsalem dan warchae; ac er nad oes afon fel y cyfryw yn llifo ger y ddinas, mae awdur y Salm yn defnyddio’r ddelwedd o’r afon i gyfleu'r modd y mae Duw’n gallu cynnal ac adfywio ei bobl. Mae’r ddelwedd o’r afon yn cael ei defnyddio yn ffigurol i gyfleu cyfiawnder Duw, i gyfleu ysblander ei greadigaeth ac i gyfleu'r modd y mae’n ddyletswydd arnom i barchu a gwarchod ei greadigaeth anhygoel.
I mi mae mynd am dro ar hyd lan afon yn falm i’r enaid. Mae’n tawelu’r meddwl neu’n cyffroi’r galon. Does dim gwell gen i nag eistedd ar lan afon yn dilyn y llif, rhyfeddu at y bywyd gwyllt di-ri sy’n byw a bod yn ein hafonydd a’u glannau.
Pysgotwr o fri oedd y bardd Cynan ac yn un o’i gerddi mae’n cynnig golygfa hyfryd o’r Afon Teifi:
‘Mae afon sy’n groyw a gloyw a glân
A balm yn addfwynder a cheinder ei chân,
Pob corbwll fel drych i ddawns cangau’r coed cnau
Pob rhyd fel pelydrau mewn gwydrau yn gwau.
A’i thonnau gan lamu yn canu’n un côr
Ym Mae Aberteifi ger miri y môr.’
Gallwch fesur parch gymdeithas at y greadigaeth trwy fwrw golwg ar gyflwr eu hafonydd. Ond bellach mae ein hafonydd yn marw. Y troeon diwethaf bûm yn dilyn Llwybr y Pererinion ar lan afon Nyfer a Llwybr y Potsier ar hyd y Teifi roedd yr olygfa’n bur wahanol. Mae ein hafonydd yn marw.
Yn ei gyfrol The Rivers of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2022) gan Jim Perrin, arbenigwr ar fyd natur Cymru a cholofnydd cyson ym mhapur newydd The Guardian mae’n disgrifio cyflwr yr Afon Teifi mewn geiriau di-flewyn ar dafod:
“View the Teifi as it flows through the gorge at Cilgerran and you could be forgiven for assuming it was not water flowing there but liquid manure (or even toxic sludge). The Teifi no longer scintillates. Rather it swirls brown and uninviting...”
Bellach mae’r Teifi yn marw. Dwi’n dyst i hyn gan fy mod wedi caiaco lawr yr afon droeon. Yn nhawelwch y llif prin yw’r cyffro ar wyneb y dŵr. Does dim pysgod yn neidio, mae’r gwybed yn prinhau, ychydig o adar y glannau a welir.
Pam? Y prif droseddwyr yw’r cwmnïau dŵr a’r diwydiant amaethyddol. Anfoesoldeb y cwmnïau dŵr sy’n pwmpio miliynau o alwyni o garthion heb eu trin i’n hafonydd yn wythnosol. Anfoesoldeb rhai o’n hamaethwyr sy’n gor-ddefnyddio cemegau a gadael i slyri lifo oddi ar y caeau a’r pwll slyri i’n hafonydd a’n nentydd. Anfoesoldeb Llywodraeth Cymru sy’n gwrthod mynd i’r afael a’r fandaliaeth yma drwy gosbi, dirwyo a charcharu'r drwgweithredwyr.
Wrth gerdded Cwm Treweryll a dilyn glannau’r nant bu i’r bardd Idwal Lloyd grynhoi rhyfeddod y greadigaeth mewn cwpled syml: “Ac yno gwelir olion cŷn / A morthwyl Duw heb anrhaith dyn”.
Credaf ei bod hi’n bwysig ein bod fel Cristnogion yn codi ein llais yn erbyn y fandaliaeth yma a sicrhau fel unigolion a chyrff eglwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd. Os na wnawn ni hynny oni fyddwn yn gwawdio Duw a’i greadigaeth?
Comentarios