top of page
Search

Y Lloer, Unrhyw Un?

  • Apr 19
  • 3 min read

 “Eheda fi i’r lloer;

Gad imi chwarae ’mlith y sêr.”

 

Dyma’r gân gyntaf glywyd ar y lloer pan laniodd Buzz Aldrin yno, dros hanner can mlynedd yn ôl – cân a ganwyd gan Count Basie a Frank Sinatra. Dyma’r geiriau ddaeth i’m meddwl pan glywais fod Artemis II – yr ymdrech gyntaf i gyrraedd y lloer (ond heb lanio arni) ers dros hanner canrif – wedi lansio’n llwyddiannus a diogel ar Ddydd Ffŵl Ebrill (noder!).

 

Teithiodd y criw bellter o tua 250,000 milltir oddi wrth y ddaear (y pellaf aeth neb erioed), gan deithio cyfanswm o tua 620,000 milltir. Gwelsant yr ochr arall i’r lleuad, na welodd neb erioed. Tarodd y capsiwl awyrgylch y ddaear wrth ddychwelyd adref ar gyflymder o tua 25,000 milltir yr awr (cyflymder allai fynd â ni o Gaerdydd i Efrog Newydd mewn 6 munud – pe byddem yn dymuno!), cyn syrthio’n berffaith ddiogel i mewn i’r Môr Tawel yn fuan wedi 3.00 o’r gloch fore Sadwrn, Ebrill 11eg, ar gyflymder o 19 milltir yr awr yn unig, gyda’r criw mewn cyflwr rhagorol!

 

Ac fe gostiodd y daith o leiaf $4 biliwn. Meddyliwch! O ddifri! Cymaint y gellid fod wedi ei gyflawni gyda’r fath symiau, o gofio’r miliynau sy’n ffoaduriaid digartref a diymgeledd yn ein byd rhyfelgar. Onid gwastraff anfoesol oedd hyn?

 

Ond yna darllenais ambell ysgrif oedd yn gofyn cwestiynau gwahanol ac yn cynnig gweledigaeth amgen. Roedd un ysgrif yn The Guardian yn pwysleisio’r bartneriaeth agos rhwng 12 gwlad oedd y tu cefn i’r fenter hon. Partneriaeth mewn byd lle mae’r fath gydweithio yn aml yn brin – ac yn prinhau. Fe’n hatgoffwyd gan yr un ysgrif fod y fenter i’r lleuad hanner canrif yn ôl, wedi sbarduno unigolion a gwledydd i ystyried dyfodol ein planed a’i hamgylchedd yn ddwysach. A all yr un ysgogiad ddigwydd eto? Mae gwir angen amdano.

 

Onid oes perygl i ni ganoli’n sylw gymaint ar y tir o dan ein traed a’i heriau poenus, nes i ni golli golwg ar fawredd a rhyfeddod y cosmos? A’n bod yn colli golwg fel Cristnogion ac fel teulu’r gwledydd, ar y weledigaeth o gynghanedd a harmoni, o bartneriaeth a chyd-ofalu y cawn ein galw i’w chofleidio yn y dyddiau heriol hyn?

Yn ôl un o arweinwyr NASA, “Rydym yn gwneud hyn dros y ddynolryw gyfan!” Tybed! Ond os yw partneriaeth o gwmpas Artemis II yn bosibl, mae’n siŵr y gallai partneriaeth yn enw cyfiawnder, heddwch a chymod fod yr un mor bosibl hefyd yn enw’r blaned fregus hon a’i phobl.   

 

Rwy’n cofio mai’r geiriau a’m trawodd i’n rymus hanner can mlynedd yn ôl, pan oedd yr ymgyrch wreiddiol am y gofod yn ei hanterth, oedd Salm 139:

 

‘I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ble y ffoaf o'th bresenoldeb? Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno… Os cymeraf adenydd y wawr a thrigo ym mhellafoedd y môr, yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.’

 

Dyma herio ein gweledigaeth o Dduw. Bryd hynny, un o’r rhybuddion poblogaidd oedd, ‘Mae’ch Duw chi’n rhy fach!’ Mae’n fy nharo i nad oes llawer wedi newid. Onid yw’n Duw ni (neu o leiaf ein gweledigaeth ni o Dduw) yn dal i fod ‘yn rhy fach’? Onid yw’n Duw ni ‘yn llond pob lle, presennol ym mhob man’? Mae'n ‘Llond y nefoedd, llond y byd' ac yn 'Llond y gwagle yn ddigoll', yn ôl Edward Jones, Maes-y-plwm (1761-1836).  Cofiwn y “carodd Duw y cosmos gymaint nes danfon ei unig Fab…” – ni allwn deithio i unman sydd y tu hwnt i gyrraedd cariad cosmig Duw. Hyd yn oed i’r lleuad!

 

Ond rwy’n dal i gwestiynu moesoldeb y fath fenter, er mor gyffrous yw’r cyfan.

 

Noel Davies

19 Ebrill 2026

 

 
 
 

Comments


bottom of page