Y Grawys a Gŵyl Ddewi
- 16 hours ago
- 2 min read
Ugain mlynedd yn ôl dywedwyd wrthyf—mewn tôn ychydig yn nawddoglyd—fod fy mhwnc ymchwil yn “amherthnasol”. Ond, dyma ni ar drothwy etholiad, gyda’r un iaith, yr un symbolau, a’r un rhethreg am Gristnogaeth a Chenedlaetholdeb yn cael eu hailgylchu—ond y tro hwn mewn ffurf sy’n peri pryder dwfn i ni a’m magwyd yn sŵn Cenedlaetholdeb Valentine a Gwynfor. Nid adfer y traddodiad Cymreig rydym ni’n gweld, ond mewnforio rhywbeth cwbwl wahanol: “Christian Nationalism”.
A gadewch i ni fod yn glir o’r cychwyn: nid yr un peth yw’r ddau.
Roedd Cenedlaetholdeb Gristnogol Cymreig—ar ei orau—yn herio grym, yn dosturiol tuag at y gwan, ac yn ymwybodol fod cariad at genedl byth yn absoliwt. Roedd yn gynnyrch anghydffurfiaeth: capeli oedd yn dysgu pobl i ddarllen, i feddwl, i gwestiynu awdurdod, ac i gredu nad yw Duw Croehoeliedig ar ochr yr ymerodraeth ond ar ochr y gorthrymedig.
Mae’r “Christian Nationalism” cyfoes yn gwneud y gwrthwyneb. Mae’n defnyddio iaith Crist i sancteiddio ofn. Mae’n gosod ffiniau, ac yn cynnig hunaniaeth or-syml mewn byd cymhleth: ni yn erbyn nhw.
Nid damwain yw hyn. Pan fo cymdeithas yn newid yn gynt nag y gall hunaniaeth addasu, mae pobl yn chwilio am sicrwydd. Wrth i gymdeithas seciwlareiddio mae rhai Cristnogion yn dehongli colli breintiau fel erledigaeth. Pan fo ansicrwydd economaidd yn parhau, mae addewidion syml yn swnio’n ddeniadol.
Ond dyma’r broblem fwyaf: mae’n cam-ddefnyddio ffydd. Pan fo ymgyrchwyr gwleidyddol yn honni mai nhw sy’n cynrychioli “gwir Gristnogaeth”, ac yn galw’r eglwys yn “woke” am wrthwynebu hiliaeth, poblyddiaeth neu gelwyddau, rydym mewn tiriogaeth beryglus.
Gallwn ddysgu gwersi o’n hanes. Roedd ein traddodiad anghydffurfiol ar ei gorau pan oedd yn barod i herio pob grym—hyd yn oed grym oedd yn rhannu ei hiaith ac yn hawlio ymlyniad i’r un grefydd. Ar ei gorau dysgodd y gallai cariad at Gymru ac ymrwymiad i hanfod yr efengyl eistedd gyda’i gilydd heb i’n gwlatgarwch droi’n eilunaddoliaeth.
Eto, rhaid gwarchod ein hunain yn barhaus rhag gadael i’n cenedlaetholdeb droi’n eilyn. Problem cenedlaetholdeb yw ei fod yn ideoleg wag. Mae’n cymryd siâp yr hyn a dywalltir iddi. Heb sail foesol glir, gall yr “achos” droi’n ddiben ynddo’i hun. A phan fydd hynny’n digwydd, mae’r faner yn disodli’r groes. Dyna pam fod cenedlaetholdeb wedi ei asio ag ideoleg y dde-eithafol ac yn defnyddio rhethreg Gristnogol mor beryglus.
Ac felly, yn wyneb “Christian Nationalism”, ein galwad ni fel Cristnogion yng Nghymru nid yw i encilio o’r sgwrs gyhoeddus nac i weiddi’n uwch na’r lleill. Ein galwad yw bod yn bobl sy’n caru’r gwirionedd mwy na sentimentalwch, sy’n gwrthsefyll ofn, ac sy’n cofio mai nid gwladwriaeth, plaid na diwylliant yw canol ein ffydd—ond y Crist croeshoeliedig.
Oherwydd pan fo ffydd yn colli ei gallu i feirniadu grym, mae’n colli ei henaid. Ac nid dyna’r etifeddiaeth a roddwyd i ni.
Rhys Llwyd.
Gyda’n dymunidau gorau tros dymor y Grawys ac ymlaen i’r Pasg.

Comments