top of page

Y Goron


Anodd osgoi ambell destun, a hwn yw testun y dydd i mi heddiw: Y Goron.


Symbol awdurdod yw coron. Ond a oes gan Frenin Llundain awdurdod mewn gwirionedd? Mae’n wir y bydd, o’i orsedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn amlinellu rhaglen ei Lywodraeth ar ddechrau pob tymor, ond gweinidogion San Steffan biau’r awdurdod i lunio’r rhaglen honno. Mae’r un peth yn wir am fân weithgareddau’r teulu brenhinol. Felly ai symbol gwag yw’r goron? Gellid dadlau mai gwerth seremonïol yn bennaf sydd i’r frenhiniaeth heddiw.


Mwy perthnasol fyth i’r drafodaeth yw’r cwestiwn a oes angen awdurdod newn gwladwriaeth, a pha drefn y dylid ei mabwysiadu i greu’r awdurdod hwnnw? Bydd rhai yn dadlau’n gryf o blaid dewis arweinwyr drwy ddemocratiaeth. Ond buan iawn y gwelir gwendidau amlwg yn sylfeini’r drefn honno. Does dim rhaid inni edrych ymhellach nag arweinwyr 'democrataidd' y ganrif hon megis Boris Johnson a Donald Trump er mwyn canfod gwendidau democratiaeth. Un o’r gwendidau amlwg hynny yw’r ffordd y bydd pleidleisio yn cael ei reoli gan arian a chyllid y pleidiau. Gwendid arall yw ein tuedd i gael ein hudo gan boblogeiddiaeth (populism). A bellach yn oes y cyfryngau torfol a datblygiadau bygythiol y deall digidol (AI), y mae’r perylgon i degwch etholiadol yn cynyddu.


Peryglon pellach


Ond a bwrw y gellid llunio trefn etholiadol a fyddai’n gadarn a theg, ac yn mynegi’n gywir ddymuniadau’r etholwyr, sut y gellid sicrhau y gweithredid y dymuniadau hynny. A ellid ymddiried i arweinydd etholedig gadw at ei raglen dda a’i addewidion gorau? Fel y gwelodd Rhufain gynt ambell Ymerawdwr addawol o ddaionus yn dirywio i fod yn unben creulon, fe welsom ninnau arweinwyr yn ein dyddiau ni yn cefnu ar eu hegwyddorion.


Ond yn waeth fyth, gwelwyd niferoedd o bobl yn gibddall o barod i gydweithio ag arweinwyr creulon a diegwyddor ein byd heddiw. Fel y sylwodd Stanley Milgram o Brifysgol Iâl yn ei gyfrol, Obedience to Authority, anodd deall parodrwydd pobl i ufuddhau a gwneud y pethau mwyaf ysgeler o greulon i ’w gilydd pan gânt orchymyn oddi uchod. Yr ufudd-dod digwestiwn hwnnw sy’n anhepgor mewn rhyfel. I'r athronydd gwleidyddol, Hannah Arendt, dyna welwyd yn ymddygiad Adolf Eichmann yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ymddangosai hwnnw iddi hi adeg ei brawf fel dyn rhesymol, er gwaethaf erchyllterau ei weithredoedd. Ymddangosai, meddai, yn arswydus o normal. A dyna arswyd eithaf biwrocratiaeth ac awdurdod dyn.


Awdurdod y Brenin


Mae llawer o ddiffygion anfoesol mwyaf drwgenwog y ganrif hon i’w priodoli i unigolion a oedd yn fodlon dilyn gorchmynion awdurdodol yn hytrach na chwestiynu eu moesoldeb personol eu hunain. Felly, yn wyneb amherffeithrwydd amlwg awdurdod dyn, mae’r Brenin diawdurdod sy’n Llundain yn ymddangos yn hyfryd o ddiniwed. Ond am weddill y byd, a ddylem ystyried dulliau eraill i arwain dynoliaeth? Mae’r ateb gyda Waldo:


Beth yw trefnu teyrnas? Crefft

Sydd eto’n cropian

A’i harfogi? Rhoi’r cyllyll

Yn llaw’r baban.


Ac yn ei gerdd ddilynol mae’n rhoi’r ateb: y bychan aneirif. Ar daith yr ydym at y ddynoliaeth wâr sy’n seiliedig ar frawdoliaeth Plentyn y Ddaear:


O ogofâu’r nos y cerddasom

I’r gwynt, am a gerddai ein gwaed;

Tosturi,O! sȇr, uwch ein pennau,

Amynedd, O! Bridd, dan ein traed.


bottom of page