top of page

Y FFORDD


 Mae'r penwythnos yma'n cynrychioli cyfnod arwyddocaol yng ngweinidogaeth y Crist ar lawer ystyr. Gellid dehongli yr arwyddocâd hwnnw mewn mwy nag un ffordd ond gadewch inni ei ystyried yn nhermau taith, neu yn hytrach, teithiau.

 

Cychwynnodd Iesu ei weinidogaeth trwy ddewis disgyblion. Os oedd yr alwad i'w ddilyn yn rhyfeddol roedd yr hyn a ddilynodd yn rhyfeddach fyth. Criw o ddeuddeg yn dod o gefndiroedd amrywiol ond yn unedig yn y ffaith nad oeddent wedi eu paratoi ar gyfer yr hyn oedd i ddilyn. Clywsant ddatganiadau a gweld rhyfeddodau nad oeddent yn eu deall gan gynnwys y tyrfaoedd oedd yn ei ddilyn a chael eu gwefreiddio gan yr hyn oedd ganddo i'w ddatgelu. Er i'r dyrfa ei ddilyn ac yna cefnu arno roedd ei genhadaeth yn ymddangos yn llwyddiant a chyrraedd uchafbwynt wrth i'r dyrfa ei groesawu i Jerwsalem fel brenin buddugoliaethus ar gefn ebol asyn. Lledaenwyd palmwydd o'i flaen a'i gyfarch yn Arglwydd.

 

Gellid honni bod y daith wedi dod i ben yn ystod yr wythnos oedd i ddilyn. Trodd y dyrfa yn ei erbyn a'i drosglwyddo i'r awdurdodau i'w groeshoelio. Pwyswyd ar Peilat ac yn hwyrfrydig, wedi i'r dyrfa ddewis Barabbas yn hytrach nag Iesu, dedfrydodd i'w groeshoelio. A'i dyma ddiwedd y daith i'r disgyblion neu'r croeshoeliad neu'r atgyfodiad neu'r esgyniad?


Wrth iddynt ddechrau ar daith newydd roedd Iesu wedi eu rhybuddio na fyddai ef yn gydymaith gyda hwy yn yr ystyr feidrol a daearol. Ond roedd wedi addo y byddai’r Ysbryd Glân yn eu cynnal ac y byddai ef yn parhau yn ysbrydoliaeth iddynt. Yn Jerusalem yr her oedd sefydlu yr Eglwys Fore. Nid adeilad ond cymuned o gredinwyr yn dod at ei gilydd i addoli mewn gwahanol fannau, lle bynnag oedd yn bwrpasol ac ymarferol. Daeth datblygiad newydd gyda dyfodiad annisgwyl yr Apostol Paul. Roedd hynny yn creu rhaniad. Mentrodd allan y tu hwnt i Iddewiaeth ar deithiau cenhadol i ledaenu’r neges Gristnogol. 


O’r sylfaen honno bu’r Eglwys Gristnogol yng Nghymru ar amrywiol deithiau, Mae’n debyg na ellid osgoi y gwrthdrawiadau, dadleuon a rhwygiadau ar y daith ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi profi yn angenrheidiol a hyd yn oed yn adeiladol. Yn sylfaenol un daith sydd i Gristnogaeth ond bod gwyriadau bob yn hyn a hyn.

Y gyfrinach yw gwybod pryd y mae un rhan o’r daith yn dod i ben ac un arall yn dechrau. Onid yw’n deg dadlau, gydag ambell eithriad, mai llusgo yn lluddedig tuag at y llinell derfyn y mae’r anghydffurfiaeth enwadol a etifeddwyd gennym? 


Yma yn Methlehem Newydd rydym wedi mentro trwy gau a gwerthu dau gapel gan uno’r cynulleidfaoedd mewn un adeilad. Manteisiwyd ar gymhorthdal Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr i gyflogi Swyddog Cymunedol. Adnewyddwyd llawr y capel yn ofod aml bwrpas ac adeiladu cegin a rydym bellach yn barod i wahodd y gymuned atom yn ogystal ag estyn allan atynt.


Yr her yw mentro ar y daith newydd, heb anghofio gwaddol y gorffennol, ond y gyfrinach yw gwybod pryd y mae’r daith flaenorol yn dod i ben!

 

Rhodri Glyn-Thomas

 

 

Comentários


bottom of page