top of page
Search

Y Dull Di-Drais

  • 3 days ago
  • 2 min read

Codwyd nifer o faterion pwysig gan Angharad Tomos yn ei bwletin yr wythnos ddiwethaf. Cyfeirio roedd hi’n bennaf at weithred Llywodraeth San Steffan yn deddfu bod y mudiad Palestine Action yn fudiad terfysgol ac, felly, bod unrhyw un sy’n mynegi cefnogaeth iddyn nhw mewn peryg o gael eu carcharu. Does dim dwywaith bod rhai o weithredoedd y mudiad hwn wedi bod yn eithafol, ac mewn un achos wedi peri niwed difrifol i berson. Mewn achosion fel hynny does neb yn gwrthwynebu cosbi’r rhai sy’n gyfrifol.

 

Ond mae peryg mawr mewn defnyddio’r gyfraith i bwrpas gwleidyddol fel hyn. Dros y blynyddoedd cefais sawl cyfle i gefnogi achos y Cwrdiaid sydd wedi cael eu cam-drin yn ddychrynllyd, a’u pobol wedi eu gwasgaru dros nifer o wledydd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Ac un arf sydd wedi ei ddefnyddio’n gyson yn eu herbyn yw’r ffaith fod eu mudiad mwyaf ymosodol wedi cael ei nodi’n fudiad ‘terfysgol’. O ganlyniad mae unrhyw un sy’n dangos cefnogaeth agored i hawliau’r Cwrdiaid, ac i’r iaith Gwrdaidd, mewn peryg o gael eu cosbi fel terfysgwyr. Carcharwyd nifer fawr o gynghorwyr a meiri etholedig, ac aelodau seneddol hefyd, trwy gam-ddefnydd o’r ddeddfwriaeth yma.

 

Yn achos Cymdeithas yr Iaith yma yng Nghymru, gwnaed penderfyniad yn gynnar yn ei hanes i fabwysiadu’r egwyddor ddi-drais wrth ymgyrchu. Mae rhai pobol wedi ceisio ail-ddehongli hanes a honni nad dadl rhwng dulliau trais a di-drais oedd hi. Ond dyna’n union oedd hi. Roedd y mwyafrif ohonom yn gweld y perygl o geisio efelychu’r hyn a ddigwyddodd yn Iwerddon (er cymaint ein hedmygedd o arloeswyr gwrthryfel y Pasg) ac yn benderfynol o fabwysiadu dulliau ymgyrchu Gandhi a Martin Luther King. Hynny yw, peidio gwneud unrhyw beth a allai niweidio pobl, a pheidio taro’n ôl os byddai rhywun yn ymosod arnom yn ystod gwrthdystiad. Haws dweud na gwneud! Ond mae record aelodau’r Gymdeithas wedi bod yn rhyfeddol o ddisgybledig ar hyd y blynyddoedd.

 

Weithiau, rhaid imi gyfaddef, roeddwn yn anghytuno â rhai o weithredoedd y Gymdeithas. Mae hynny’n anochel efallai. Ond y ffaith yw fod hanes wedi dangos bod ymgyrchu’r Gymdeithas wedi bod yn effeithiol a hynod o lwyddiannus. Mae llawer o’r clod am hynny yn ddyledus i aelodau oedd yn Gristnogion o argyhoeddiad – pobol fel Ffred Ffransis, Angharad Tomos a’r diweddar Cen Llwyd.

 

Mae Angharad yn tynnu’n sylw at y peryg o lastwreiddio hanes y syffrajetiaid, a’u portreadu fel criw o ferched bach diniwed, ond mae’r gwir hanes yn dangos mor eithafol oedd rhai o’u gweithredoedd, ac mor ffyrnig oedd yr ymateb a’r cosbi creulon a fu arnyn nhw. Am fod pawb rhesymol bellach yn cytuno â’u nod o sicrhau pleidlais i fenywod, ein tuedd yw anghofio mor benderfynol a di-droi’n ôl oedden nhw.

 

Fel dilynwyr Tywysog Tangnefedd, mae peryg gwirioneddol i ninnau droi Iesu Grist yn wlanen o ddyn oedd yn gwenu ar bawb, ac yn troi’r foch arall bob cynnig. Ymgyrchydd radical a di-ofn oedd Iesu, yn benderfynol o greu chwyldro a fyddai’n newid y byd. Doedd e byth yn fyr o droi’r tu min at y Phariseaid a’u bath. Dyw credu yn y dull di-drais ddim yn drwydded i fod yn ddi-asgwrn-cefn.

 

Dafydd Iwan

12 Gorffennaf 2026

 
 
 

Comments


bottom of page