top of page

Y Daith Araf i Gyfiawnder


Weithiau mae hi’n hawdd colli persbectif ar bethau a gadael i’r newyddion ein heffeithio cymaint nes inni gael ein parlysu. Mae’n amser gofidus ac anesmwyth yma yn yr UDA lle rydym ar groesffordd; ac yn aml mae fel petai’r wlad am syrthio oddi ar y map.

 

Roedd gweld y drafodaeth rhwng y ddau sy’n cystadlu am un o swyddi pwysicaf y byd yn ysgytfa i ni i gyd. Roedd un yn dweud celwyddau diben-draw a’r llall yn ffwndrus. Roedd y cyfan yn drist, yn siom, ac yn arswydus i gannoedd o filoedd ohonom.

 

Yn ychwanegol at hyn fe gytunodd y mwyafrif yng Ngoruchaf Lys yr UDA fod gan Arlywydd y wlad freinryddid (immunity) wrth wneud penderfyniadau – penderfyniadau a allai gael dylanwad difrifol ar y wlad ac ar y byd. Mae perygl y gall hyn arwain at wlad unbenaethol.

 

Rydych yn clywed hyn i gyd ar y newyddion rwy’n siŵr a does dim arbennig y gallaf ychwanegu. Ond fe hoffwn eich sicrhau bod miliynau o bobl yn yr UDA yn ymladd dros gyfiawnder. Yn ystod y deng niwrnod diwethaf, o fewn milltir i’m cartref yn Washington DC, roedd pob math o wahanol ffyrdd o brotestio, o addysgu, ac o ganfasio yn digwydd.

 

Roedd dathliad blynyddol New American Leaders (NAL.org) yn Washington wythnos yn ôl. Mudiad yw hwnnw sy’n hyfforddi mewnfudwyr i ymgeisio mewn etholiadau ar unrhyw lefel. Dyma noson oedd yn paratoi unigolion ar gyfer y dyfodol. Talwyd teyrnged arbennig i un o gynrychiolwyr Texas, sydd yn wreiddiol o Mexico, ac i wraig o Samoa America, sydd yn swyddog addysg lleol. Mae dyfodol y wlad yma yn dibynnu ar sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed gan yr arweinwyr.

 

Yr un wythnos ar y Mall yn Washington (safle y mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â hi bob wythnos yn yr haf) cynhaliwyd Gŵyl Werin y Smithsonian, Y thema eleni oedd ‘Diwylliant Brodorol America’. Roedd yn gyfle gwych i agor llygaid a chalonnau miloedd o bobl. Ac er bod y penderfyniad yma yn rhy hwyr, mae Eglwys Bresbyteraidd yr UDA wedi penderfynu tynnu yn ôl unrhyw arian sydd wedi ei fuddsoddi yn Israel. (Wele’r ddolen isod).

 

A ddydd Sadwrn Mehefin 30ain roedd y Poor People’s Campaign yn pregethu ei neges bwysig i’r ddinas a’r wlad mai ein dyletswydd ni fel pobl o ffydd yw cydweithio i sicrhau hawliau a chyfiawnder i bawb. (Wele’r ddolen isod).

 

Mae’r daith yn hir, ac yn araf ac o gam i gam yn unig yr awn ymlaen. Ond mae’n daith sy’n llawn gobaith mewn cyfnod sy’n llawn ofnau.


 


 

Ann Griffith

7 Gorffennaf 2024


 

Comments


bottom of page