Y Cread Rhyfeddol
Mae ’na rhyw flinder wedi dod drosta’i yn ddiweddar. Mae’r tymhorau’n troi, ond mae eu rhythm yn fwyfwy anodd ei adnabod. Cawsom haf hydrefol, a’r dail yn crino ac yn cwympo cyn eu pryd; bellach, wrth adael yr haf, mae’r tyfiant yn ymddangos yn wanwynol. Eto i gyd, mae dieithrwch y tymhorau’n mynd ymhellach na’r tywydd. Wrth i fwy o boblogaeth y byd symud o’r wlad i drefi a dinasoedd, i ba raddau mae’r tywydd, y tymhorau neu’r hinsawdd yn ein cyffwrdd mewn gwirionedd?
Am filenia, ein perthynas â natur oedd craidd ein bodolaeth. Fel cyw anifail mewn praidd, roedd popeth o’n cwmpas yn deulu ac yn fygythiad, yn gysur ac yn ddirgelwch. Yn fychan yng nghanol y greadigaeth, daethom i ddeall dydd a nos, haul a lleuad, newid ac ailadrodd y tymhorau, a dawns araf y sêr. Tan yn lled ddiweddar, roedd y tywydd yn rheoli pob agwedd ar fywyd: bwyta neu lwgu, symud neu aros, cysgodi, hela neu bwytho dillad.
Wrth geisio deall ein lle rhwng bod yn frenin yr anifeiliaid ac yn llychyn dinod, fe ddechreuon ni chwilio am y dwyfol. Yn ein diniweidrwydd, fe ddefnyddion ni natur i egluro’r greadigaeth, heb ddychmygu bod y coed, y cen, y ffwng a’r anifeiliaid yn meddwl: ‘pwy ydy’r creaduriaid rhyfedd a symudodd i mewn drws nesa?’
Un o’r delweddau mwyaf trawiadol yn y mythau hyn yw crwban y môr, sydd mewn sawl traddodiad yn cynnal y ddaear ar ei gragen. Prin y gallai’r cyfarwyddiaid cynharaf wybod bod crwbanod wedi teithio’r cefnforoedd ers 120 miliwn o flynyddoedd, ymhell cyn ffurfio’r Himalea, nac y byddai eiliadau byr ein bodolaeth ni’n newid eu byd mor ddidrugaredd.
Mae ein llongau anferth yn eu rhwydo ac yn chwalu eu cregyn fel melons. Mae cynhesu’r moroedd hefyd yn tarfu ar eu bywyd: mae rhyw y crwbanod bach yn dibynnu ar dymheredd y dŵr wrth ddeor— o dan 31.5°C, gwrywod; uwch na hynny, benywod. Wrth i’r môr gynhesu, mae poblogaeth sydd eisoes yn prinhau’n troi’n fwyfwy benywaidd.
Yn fwy symbolaidd fyth, mae greddf miliynau o flynyddoedd yn peri i’r rhai bach droi at olau’r lleuad i ganfod y môr. Ond erbyn hyn, golau stryd yw’r goleuni cyntaf a welant, gan eu harwain at eu tranc ac y tarmac yn hytrach nag i ddiogelwch y tonnau. Ar ôl 120 miliwn o flynyddoedd, mae crwban y môr dan fygythiad. Mae’r creadur a fu’n cynnal y byd mewn myth wedi troi’n ddameg am y byd go iawn.
Rydyn ni wedi ymbellhau oddi wrth natur. Rydyn ni’n goleuo pob tywyllwch, yn cynhesu pob oerfel, yn oeri pob gwres ac yn cysgodi rhag pob awel. Gyrrwn drwy’r glaw, a bwytawn gnydau o bedwar ban byd ar unrhyw adeg. Gall unrhyw ddiwrnod deimlo fel unrhyw dymor, ac unrhyw awr fel unrhyw ran o’r dydd.
Wrth feistroli grymoedd natur i fwydo ein cyfleustra a’n hunanoldeb, fe gollon ni olwg ar ryfeddod y byd a’n gallu i ryfeddu at ei fawredd anesboniadwy. Nid yw’r byd ei hun yn dod i ben; ein lle ni ynddo fo sydd mewn perygl. Ella mai un ffordd o droi’r llanw ydy i ail-ddarganfod ein perthynas ni â’r greadigaeth— ei gerwinder a’i haelioni, ei rhythmau a’i dirgelwch—a rhyfeddu unwaith eto at y Grym cariadus a’i creodd.
‘Rocet’ Arwel Jones
20 Medi 2026

Comments