top of page

Y Blwch Tywyllwch

Ychydig wythnosau yn ôl bûm ar encil i ganolfan Cymdeithas yr Iesu, St Beuno, Tremeirchion. Yno yr hyfforddwyd y bardd Gerard Manley Hopkins ar gyfer yr offeiriadaeth. Mae mewn lleoliad godidog ar lethrau dwyreiniol Dyffryn Clwyd a hawdd gweld sut i’r bardd gael ei ddylanwadu gan brydferthwch y cread yn ystod ei amser yno.

 

Ond cerdd gan rhywun arall a wnaeth argraff arnaf yn ystod fy nghyfnod yn St Beuno. Deuthum ar draws cerddi Mary Oliver o’r UDA am y tro cyntaf rhyw ugain mlynedd yn ôl yng nghynhadledd cyfathrebwyr Eglwys Esgobol yr UDA yng Ngogledd Carolina. Roeddwn wedi paratoi ambell fyfyrdod ar farddoniaeth Gymraeg i’w rhoi yn ystod y gynhadledd a bu un o’r mynychwyr yn ddigon caredig i anfon llyfr o farddoniaeth Mary Oliver ataf fel diolch wedi’r achlysur. Fodd bynnag doeddwn i ddim wedi dod ar draws ei cherdd ‘The uses of sorrow’ tan yn ddiweddar.

 

Nawr rwy’n siŵr bod ambell un eisoes yn rowlio llygaid o weld enw’r gerdd, â ninnau bellach ar fin dod i ddiwedd taith y Nadolig a’r Ystwyll. Ond mae’r Nadolig yn brofiad cymysg i nifer fawr o bobl, ac yn enwedig felly’r rheini sy’n teimlo pwysau i ail-greu’r ‘Nadolig Perffaith’ sydd ond yn bodoli mewn difri yn yr hysbysebion ar y teledu. Mae’n fater sy’n sobri rhywun hefyd o gofio mai cyfnod y Nadolig sy’n gweld y lefel uchaf o gam-drin domestig gydol y flwyddyn.

 

Dyma gerdd Mary Oliver i chi:

 

The Uses of Sorrow

(in my sleep I dreamed this poem)

 

Someone I loved once gave me

a box full of darkness.

It took me years to understand

that this, too, was a gift.

 

Digwydd bod, y darlleniad yn y llithiadur ar yr un diwrnod ag y cefais fy nghyflwyno i’r gerdd oedd y darlleniad o seithfed bennod o’r Efengyl yn ôl St Mathew, gyda’r ddameg am y tŷ ar y graig. Rhywsut roedd y ddau yn cyd-blethu. Os mai’r Iesu y buom yn dathlu ei enedigaeth rai wythnosau’n ôl yw’r anrheg gorau a ddaeth i’n rhan, yna gallwn ddibynnu arno i’n cynnal a’n cefnogi waeth pa stormydd a wynebwn yn y flwyddyn i ddod. Holl bwynt Emanuel, Duw gyda ni, yw bod Iesu gyda ni trwy pob storm ac ym mha dywyllwch bynnag sy’n ein wynebu ac wedi profi’r cyfan o’n blaen ni yn ystod ei fywyd daearol rhwng y gri adeg ei enedigaeth ym Methlehem a’i sgrech erchyll o’r groes.  

 

Ac i gloi, tybed nad yw hi hefyd yn werth i ni gofio ar gychwyn blwyddyn newydd, adnod fach arall – ddi-nod – o’r bennod gyntaf o’r Efengyl yn ôl St Marc. “Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddïo.” Yng nghanol cyfeiriadau at oriau o weithgarwch dyma gyfeiriad at y pwys a roddai Iesu ar fyfyrio a gweddi mewn lle unig. Byddai Gerard Manley Hopkins wedi bod yn gyfarwydd iawn â’r cyfarwyddyd, “Dychwel i dy gell, a bydd dy gell yn dysgu’r cyfan i ti.” Gwers bwysig i ninnau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

 

 

Siôn Brynach

 

Comments


bottom of page