top of page
Search

Y Beibl heb atalnod llawn

  • cristnogaeth21
  • May 4
  • 3 min read

Nôl yn 2019 comisiynwyd ymchwil gan Sky Arts ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Cheltenham ar arferion darllen pobl. Un o’r canfyddiadau oedd fod 56% o’r rhai a holwyd yn yr arolwg yn dweud anwiredd am y llyfrau y maent wedi eu darllen. A fyddai yn eich synnu taw y Beibl yw’r llyfr y mae pobl yn fwyaf tebygol o ddweud anwiredd amdano? Mae yna nifer o resymau am hyn, ond y prif reswm yw eu bod yn moen ymuno â sgwrs am y llyfr.

Gan fod yna gonsesws cyffredinol nad llyfr i’w ddarllen o’r dechrau i’r diwedd yw’r Beibl, sut mae mynd ati, felly? Gwn fod rhai yn defnyddio apiau adnod y dydd neu’n darllen llyfryn Gair y Dydd. Caiff rhannau o’r Beibl eu darllen i ni, wrth gwrs, mewn oedfaon neu ddosbarthiadau Beiblaidd. Mae’r awdur Americanaidd Frederick Buechner yn awgrymu ffyrdd deniadol iawn o fynd ati. Awgryma ein bod yn dechrau gyda’r uchafbwyntiau: storïau Joseph yn Genesis, llyfr Job, y Bregeth ar y Mynydd, ac ati. Awgrym arall yw ein bod yn defnyddio llyfr o esboniadau i gyfoethogi ein dealltwriaeth - i weld ochr ddigri llyfr Jona, er enghraifft, a’i neges am gariad Duw i’r ddynolryw. Syniad arall ganddo yw ein bod yn darllen fersiwn dieithr i ni, neu hyd yn oed mewn iaith arall, fel ein bod yn gweld testunau cyfarwydd mewn ffordd newydd. Un cyfieithiad yn Ffrangeg o “Gwyn eu byd y rhai addfwyn” yw “Heureux sont les débonnaires” - a glywch y clychau’n canu?


Ond mae mwy i ddarllen y Beibl na dod o hyd i’r ffordd orau o balu ein ffordd trwyddo. Mae’n gwestiwn o ymagwedd hefyd. Mae’r farn bod y Beibl yn affaeledig, er enghraifft, yn cau’r drws ar unrhyw drafodaeth. Yng ngeiriau Buechner, “If you look AT a window, you see flyspecks, dust and cracks. If you look THROUGH a window, you see the world beyond.” Mae darllen y Beibl gyda dychymyg a chreadigrwydd yn agor drysau i ddehongliadau newydd a chyfoes. At y diben hwn, trefnwyd Seiat yn ddiweddar gan Gristnogaeth 21, a dyma rai meddyliau a delweddau a rannwyd ynddo i’n hysbrydoli: 


“Y Beibl yw Gair Duw mewn llyfr. Yn Iesu mae Gair Duw mewn person.” (Marcus Borg)

 

Y cwestiwn yw, nid ‘A ydy e’n ffeithiol wir?’ ond ‘Pam mae e yno a beth allwn ddysgu ohono?’


“Nid Gair Duw yw’r Beibl. Fe all gynnwys Gair Duw, yn yr un modd ag y mae’r groth yn gallu cynnwys babi. Ond nid y groth yw’r babi.” (Michael Riddel)

 

Fel mae’r seibiau rhwng y nodau yn ein helpu i ddeall y gerddoriaeth, mae darllen rhwng llinellau y Beibl yn ein helpu i ddeall neges Duw i ni.

 

“Wrth wrando ar record, gallwn glywed llais y canwr trwy grafiadau y nodwydd. Yn yr un modd yn y Beibl, trwy lais dynion megis Paul, Pedr, Eseia a Moses, gallwn glywed Gair Duw”. (Emil Brunner)


Dywed yr awdur Elif Shafak, sy’n Sufi, “We don’t like answers in our religion, because every answer has a full stop.” Fe welwch nad atebion cadarn i gwestiynau dyrys a gawsom yn ein Seiat, ond cyfle i ni gyd – ble bynnag yr ydym arni o ran ein gwybodaeth am y Beibl a’n dealltwriaeth ohono - i archwilio posibiliadau newydd ynddo.  Amcan y pethau nad ydym yn eu deall yn y Beibl yn ôl Awstin Sant, wedi’r cyfan, oedd cadw’n meddwl yn effro a’n hysbryd yn ostyngedig.


Cred Jennifer Maidrand, sy’n dysgu cyrsiau ar Astudiaethau Beiblaidd ar hyn o bryd yn yr Athrofa Diwinyddol Unedig yn Minnesota, bod ein meddwl, ein darllen a’n haddoli yn fwy ystyrlon pan ydym yn ymateb i gwestiynau  gyda mwy o gwestiynau, yr hyn y mae’n ei alw’n “a faithful curiosity.” Fel nad oedd y Rabiniaid byth yn blino ar ddehongli Gair Duw, felly edrychwn ymlaen at barhau gyda’n trafodaethau ni am y Beibl gyda chwilfrydedd ffyddlon yng nghymuned Cristnogaeth 21.  


Anna Vivian Jones


Yn 2014  cyhoeddodd C21 Byw’r Cwestiynau, llyfryn  i ysgogi trafodaethau am faterion crefyddol. I ddarllen y bennod ar y Beibl - ei hanes, ei gynnwys, ei addewid , sut i’w ddarllen a chwestiynau i’w hystyried, cliciwch yma  Adnoddau | Cristnogaeth21

 
 
 

Comments


bottom of page