“Wythnos undod arall? I beth?”. Dyna oedd un sylw sinigaidd am Wythnos Weddi am Undod Cristnogol 18-25 Ionawr 2024 a glywyd yr wythnos hon.
Ai methiant Cyngor Eglwysi’r Byd a Chytûn yw hynny? Yn Amsterdam yn 1948 y cynhaliwyd y gyntaf o Gymanfaoedd y Cyngor, a gynhelir pob pedair blynedd. Fel y Cenhedloedd Unedig, mae Cyngor Eglwysi’r Byd yn rhan o’r ymgais i wella clwyfau yn sgìl yr Ail Ryfel Byd. Mae 350 o eglwysi mewn 120 o wledydd yn aelodau o’r Cyngor, eglwysi sy’n cynrychioli 580 miliwn o Gristnogion.
Eglwysi Burkino Faso yng nghorllewin Affrica oedd wedi paratoi’r deunydd addoli eleni, ynghyd â’r mudiad Catholig, Chemin Neuf, sef nifer o deuluoedd sydd wedi ymrwymo i’w gilydd er mwyn hyrwyddo cariad a chymod yn eu cymunedau. Mae Burkina Faso wedi ei rhwygo gan wrthdaro llwythol ac mae gwrthdaro treisgar rhwng y Mwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd. Mae eglwysi a mosgiau yno wedi eu llosgi ac addolwyr wedi eu lladd.
Mae’r deunydd yn wahoddiad i ni rannu yr un weddi a’r un weledigaeth fel eglwysi’r byd. Ond tybed faint o’n heglwysi yng Nghymru wnaeth hynny? Mae’r ateb yn dibynnu, wrth gwrs, ar arweinwyr eglwysig ac amgylchiadau lleol.
Mae’n anodd meddwl am neb fyddai yn erbyn cynnal yr wythnos gyda deunydd mor gyfoes a Beiblaidd. Ond tybed? Ym mhob ardal mae eglwysi sy’n dewis galw eu hunain yn ‘Eglwysi Efengylaidd’.
Flynyddoedd yn ôl daeth gweinidog eglwys felly i gymdeithas gweinidogion lleol. Ei ymateb i’r croeso a gafodd oedd, “Cofiwch, dim ond yma fel sylwebydd wyf i”. Ni ddaeth wedyn. Presenoldeb yr Eglwys Gatholig oedd y broblem iddo yn y cyfnod hwnnw. Go brin y byddai neb yn arddel agwedd o’r fath heddiw. Ac mewn dyddiau pan mae sôn am ‘blannu eglwysi efengylaidd’, gobeithio bod agwedd o’r fath wedi hen ddiflannu.*
Nid gweddïo am ‘uno’r enwadau’ mae’r ‘Wythnos Weddi am undod Cristnogol’. Fe fyddai hynny yn gwneud cam mawr â gweddi Iesu ar i’w ddisgyblion ‘fod yn un’ mewn byd llawn rhaniadau. Ystyr y gair ‘ecwmene’ yw‘r ‘byd crwn cyfan’ yn 2024. Efengyl yw hon i ‘fyd crwn cyfan’. Gwaredwr yw Iesu i fyd crwn cyfan. Diolch mae Iesu fod y disgyblion yn un ynddo ef. Galwad i fyw a bod yr hyn ydynt yw’r geiriau.
Mae hanes y mudiad ecwmenaidd yn llawn adroddiadau, pwyllgorau, trafodaethau, papurau ac yn y blaen. Mae Keith Clements, sydd wedi cofnodi’r hanes, yn cydnabod ei fod yn hanes digon diflas. Mae’n cyfeirio at ymdrech i ddweud yr hanes trwy lun afon. Ar lan yr afon honno mae dyddiadau a mannau pwysig ar daith Cyngor Eglwysi’r Byd ers 1948. Ond llif yr afon ei hun yw eciwmeniaeth, meddai Clements – Ysbryd Duw yn symud a chario ei bobl. Oherwydd mae Duw ar waith yn ei eglwys – hyd yn oed, ar adegau, mewn pwyllgor a chynhadledd! Mae hanes yr eglwys fyd-eang yn yr 20fed ganrif wedi bod yn wyrth, o gofio methiannau’r gorffennol.
Teitl cyfrol Keith Clements yw ‘ecumenical dynamic’. Gair y Testament Newydd am yr Ysbryd yw dunamis. Mae’r ansoddair ‘eciwmenaidd’ felly yn sôn am genhadaeth fyd-eang yr eglwys a’n rhan ni ynddi. Mae’n sôn am gred a diwinyddiaeth a ŵyr nad gennym ni yn unig - boed yn y Gorllewin, boed mewn unrhyw draddodiad arall - mae’r Efengyl hon. Heb wybod hyn, cyfyngedig ac annigonol iawn fydd ein ‘ecwmene’ yng Nghymru. Ond o wybod hynny fe all newid perthynas Cristnogion a’u heglwysi a’i gilydd - ‘er mwyn i’r byd gredu’, chwedl Iesu.
Pryderi Llwyd Jones
Grŵp Undod Cristnogol
Cristnogaeth 21
Ôl-nodyn:
* Y mudiad Cymrugyfan/Cant i Gymru sydd tu ôl i’r ymgyrch i ‘blannu 100 o eglwysi iach yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf.’ (Ffynhonnell: gwefan Cymrugyfan). Plannu eglwysi efengylaidd yw’r weledigaeth ynghyd â phlannu eglwysi mewn ardaloedd lle mae tystiolaeth yr eglwysi Cymraeg yn wan.
Fe fydd yr eglwysi lleol yn siŵr o fod yn barod iawn i gefnogi ac i weddïo dros unrhyw ymdrech genhadol leol ac i gydweithio, os daw cyfle. Wrth werthfawrogi’r ymdrech a’r sêl efengylaidd yma, tybed a fydd hynny’n ysgogiad i’r eglwysi/enwadau Cymraeg gynnwys yn eu cynlluniau cenhadol fwriad i fynd ati i blannu eglwysi newydd gyda’i gilydd? Mae’n hen bryd ac mae’r adnoddau ar gael.
Comments