Wythnos i’w Chofio
- 17 hours ago
- 2 min read
Wythnos yn ôl ar y teledu yma yn Washington DC buom yn gwylio tair dynes ifanc yn y Senedd yn adrodd eu storïau personol am beth ddigwyddodd iddyn nhw yn Minneapolis wythnos ynghynt, pan wnaeth ICE eu hwynebu ar wahanol adegau.
Tynnwyd un, o’r enw Aliya, allan o’i char ganddynt, er ei bod yn dweud – na, yn gweiddi – ei bod yn Americanes, a bod ganddi anabledd ayyb. Doedd hi ddim wedi torri’r gyfraith mewn unrhyw ffordd
‘Roedd yn anodd gwylio a gwrando arni. A rhaid oedd edmygu ei dewrder i ail-fyw'r hunllef. Fe gafodd ei thrin fel petai’n anifail gwyllt, ac fe’i cadwyd mewn cell dros nos. Ac eto, wrth siarad o flaen aelodau’r Senedd fe lwyddodd i gyfleu ei dewrder aruthrol a’i chred ym mhwysigrwydd parchu pob unigolyn.
Y bore canlynol cawsom neges oddi wrth un o’n plant ni yn gofyn a oeddem yn cofio Aliya, chwaer fawr un o’u ffrindiau yn Dhaka, Bangladesh, lle buom yn byw am dair blynedd yn y 90au. Trwy rwydwaith ffrindiau cysylltais â mam Aliya, ac fe ysgrifennodd ataf i rannu, er gwaethaf y camdriniaeth gafodd ei merch, ei bod yn cyfri ei bendithion a’i bod yn ddiolchgar fod ei merch yn fyw. Rhyddhawyd Aliya.
Ychydig ddyddiau wedyn, ar yr 11eg o’r mis yma, aeth nifer o’n capel ni i ymuno â’r pererinion Bwdïaidd sydd wedi cerdded dros 2,000 o filltiroedd o Texas i Washington DC. Buon nhw’n pererindota drwy eira a rhew, a gwneud hynny mewn tawelwch llwyr am y rhan fwyaf o’u pererindod. Mae miloedd ar filoedd wedi eu croesawu ac wedi cyd gerdded gyda nhw y rhan o’r ffordd. Roedd eu neges yn syml, ac yn bwysig tu hwnt – pwysigrwydd caredigrwydd, cydymdeimlad, cariad, cyd-weithio a gobaith.
Aethom i sefyll ar y Mall yn Washington DC i’w gwylio yn cerdded yn droednoeth heibio i ni. Roedd golygfa dda o ble oeddem ni’n sefyll – nes i’r heddlu, ar eu beiciau, sefyll rhyngom, fel mai prin y gallem weld y pererinion. Ar ôl iddynt gerdded heibio fe wnaethom ymuno â’r miloedd eraill i gerdded yn ôl traed y pererinion, mewn tawelwch.
Mae eu tawelwch, eu symlrwydd, eu geiriau prin, a’u doethineb wedi ysbrydoli miloedd ar filoedd dros y tri mis diwethaf.
Bu’n wythnos ryfeddol a’m cyffyrddodd yn ddwfn.
Ann Griffith
15 Chwefror 2026

Comments