‘Wrth eu ffrwythau…’
- 14 hours ago
- 2 min read
Daw hoff adnodau is-lywydd UDA, J. D. Vance, o’r Efengyl yn ôl Mathew, “Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da… Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.”
Dywed hyn chwe gwaith yn ei lyfr cyffesol diweddaraf Communion sy’n olrhain ei daith ysbrydol i galon y Ffydd Babyddol. A bu’n ddigon hyderus yn ddiweddar i rybuddio’r Pab - sy’n anffaeledig, hyd y gwn i, “...it’s very, very important for the Pope to be careful when he talks about matters of theology.” A minnau’n meddwl mai dyna’i waith o!
Pethau fel hyn oedd yn gwibio trwy fy mhen wrth wrando ar y Parchedig Ddoctor Rhys Llwyd yn ddiweddar yn sgwrsio am dwf enfawr Cenedlaetholdeb Cristionogol yn America; carfan o gredinwyr sydd at ei gilydd yn gefnogol iawn i raglen waith Yr Arlywydd Trump, wrth gwrs, a’i ymdrechion diflino i ymgyfoethogi a dod â heddwch i’r byd.
Cyfeiriodd Rhys at y ffaith bod Cenedlaetholdeb Cristnogol wedi gwreiddio yng Nghymru hefyd, o ddyddiau Emrys ap Iwan a Lewis Valentine hyd at Gwynfor Evans. Y person a geisiodd ei ddiffinio a dadlau o’i blaid yn fwyaf huawdl oedd Prifathro Coleg Diwinyddol Bala Bangor, y Parchedig Ddoctor R. Tudur Jones.
Rhag gwneud cam â neb, gwell dyfynnu geiriau Rhys o’i lyfr Tynged Cenedl - Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones. “I Tudur Jones... [roedd] y berthynas rhwng Cristnogaeth a’r genedl erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mor agos fel y gellid yn hawdd disgrifio’r genedl fel cenedl Gristnogol Gymraeg.” Tipyn o ddweud. Rhwng difrif a chwarae awgrymodd mai penllanw’r cerrynt hwn oedd llwyddiant Plaid Cymru yn Etholiad Senedd Cymru yn ddiweddar! Trafodwch.
Prif bwynt Rhys ar y noson, serch hynny, oedd dadlau nad oedd perthynas na thebygrwydd rhwng y fersiwn Gymreig â’r hyn sy’n cael ei arddel gan Gristnogion Cenedlaetholgar ceidwadol America’r dyddiau hyn. Gobeithio’n wir.
Digon teg. Ond mi fyddwn i’n dadlau y dylid cadw pellter bob amser rhwng crefydd gyfundrefnol a gwleidyddiaeth bleidiol neu lywodraeth. Mae’r gymysgfa yn wenwyn pur. Y canlyniad, fel arfer, yw gwneud y grefydd yn llawforwyn i gredo’r gwleidydd, fel sy’n digwydd yn Rwsia heddiw ac fel y digwyddodd yn yr Almaen dan Hitler. Ac mae hi cynddrwg pan gaiff y crefyddwyr y llaw uchaf, fel yn Iran a hyd yn oed, gellid dadlau, yn Iwerddon ar ôl 1921.
‘Power corrupts etc..’ Wrth gwrs mae dyletswydd ar i’r eglwys godi llais pan wel gamwri gan lywodraethau.
‘Y blaid Dorïaidd yn gweddïo ydi Eglwys Loegr’ oedd sylw smala un swffragét. Gellid dadlau mai’r Blaid Ryddfrydol yn gweddïo oedd yr enwadau anghydffurfiol Cymraeg hefyd yn 1890. Dangosodd Tudur Jones sut y tanseiliwyd calon y Ffydd gan enwadaeth ddiarbed yn y degawdau canlynol ac erbyn y Rhyfel Mawr profwyd mai gweision i’r Llywodraeth Ryddfrydol oedd mwyafrif arweinwyr crefyddol y dydd. Ac nid John Williams, Brynsiencyn oedd yr unig ryfelgi. Beth am O. M. Edwards a’i frawd Edward, y telynegwr mwyn Eifion Wyn et al?.
Ar ddiwedd adolygiad deifiol ar gyfrol Vance dywed y sylwebydd craff Fintan O’Toole fel hyn, “...the fruits of his conversion are his gutless adherence to the most corrupt administaration (financially and morally) in US history.” Wrth eu ffrwythau, yn wir.
Alun Ffred
26 Gorffennaf 2026

Comments