Wrth roi pin ar bapur, rwyn edrych ymlaen at gael dathlu dyfodiad Iesu Grist i’r byd unwaith eto eleni. Fel anghydffurfiwr tan yn gymharol ddiweddar, ni fyddwn yn cadw at y calendr eglwysig yn ei holl fanylder, ond ar ôl symud yn ôl i’r Eglwys fe ddaethum yn ymwybodol o’r drefn y mae’n rhaid cadw ati. Un o amcanion y calendr yw tywys yr addolwr drwy’r gwyliau Cristionogol mawr, a’i gynorthwyo i baratoi’n feddylgar ac yn ddefosiynol ar eu cyfer, a’u dathlu’n ystyrlawn. Ac i’r Cristion nid pethau ffufiol, allanol, yw’r gwyliau hyn ond dathliadau sy’n troi yn rhan annatod o’i brofiad gan ei fod yn ewyllysio cael ei ail-eni gyda Christ (Y Nadolig); marw gyda Christ (Y Groglith); atgyfodi gyda Christ i fywyd newydd a gogoneddus (Y Pasg); a chael ei lenwi ag Ysbryd Crist (Y Sulgwyn). Er mwyn ceisio deall y gwahaniaeth a wnaeth dyfodiad Crist i’n byd a’n bywyd rhaid ceisio dychmygu sut y byddai arnom pe bai Crist heb ddod yn y cnawd. Dyma un o ddibenion pwysig yr Adfent (gair a darddodd yn wreiddiol o’r Lladin adventus, sy’n golygu ‘dyfodiad’), sef achosi inni ofyn beth fyddai’n cyflwr a’n sefyllfa pe bai Crist heb ei eni? Er mwyn gwerthfawrogi disgleirdeb y goleuni a lewyrchodd ar ein daear yn, a thrwy, ddyfodiad Crist rhaid cyferbynnu rhwng y goleuni hwnnw a’r tywyllwch a oedd yn bodoli cyn ei ddod.
Yr hyn a wna’r Adfent yw ein tywys yn ôl, i ddechrau, i’r cyfnos, i’r gwyll, cyn ein harwain, yn raddol, at ysblander goleuni’r Ymgnawdoliad. Mae côf gyda fi’n weinidog ifanc o gael bod mewn oedfa adfent gyda goleuadau’r adeilad wedi eu diffodd ar y dechrau. Yna, fel y byddai’r oedfa yn mynd yn ei blaen cynyddwyd y golau hyd nes cyrraedd yr uchafbwynt a chyhoeddi genedigaeth y Meseia, a’r capel erbyn hynny, yn ffrwd o oleuni . Y mae’r Adfent yn dymor o baratoi myfyrgar, tawel, a’r Cristion, fel yr hynafgwr Simeon yn Nheml Caersalem, yn ‘disgwyl am ddiddanwch Israel (Luc 2:25). Ac mae’r disgwyl yn troi yn ddyheu. Ar adeg dywylla’r flwyddyn, hiraethwn am addewid y gwanwyn ac am hirddydd haf.
Yn yr un modd y mae’r Cristion yn hiraethu am ddyfodiad Crist.
Gwych yn wir yw cyfieithiad J. Vernon Lewis o’r emyn Lladin, Adfent, a’r ‘O!’ gychwynnol ym mhob pennill yn mynegi’n berffaith ddwyster ein dyhead: O! tyred Di, Emanwel…… Yr Adfent hwn, gweddiwn ar i Grist ddod i breswylio yng nghalonnau pobl ym mhob man, er dileu trais a dialedd a sefydlu cyfiawnder yn ein byd terfysglyd; ac edrychwn ymlaen at y dydd pan fydd y baban a anwyd yn llety’r anifail yn frenin yr hollfyd.
Nicholas Bee
Comments