Tydi a roddaist
- garethioan1
- Oct 12
- 3 min read
Ym mis Mai aeth Fiona a finnau gyda Chôr Polyffonig Caerdydd i Bourg-en-Bresse yn ne Ffrainc. Cynhaliwyd dwy gyngerdd, y naill yn y Gadeirlan a’r llall mewn canolfan gelfyddydol y tu allan i’r ddinas. Ar y ddau achlysur, y darn a ddenodd y bonllefau mwyaf oedd cân olaf y gyngerdd, sef Tydi a Roddaist – anodd curo’r Amen terfynol mewn unrhyw iaith!
Cefais fwy nag un cais i esbonio’r geiriau, ac wrth orfod gwneud hynny fe ddes i’w gwerthfawrogi cymaint â’r Amen. Mae pob pennill yn cychwyn gyda chlod i Dduw – am greu’r byd, am greu byd natur, ac am Iesu yn y trydydd. Mae pob pennill yn gorffen gyda deisyfiad, neu rhybudd – ‘O cadw ni...’
Mae rhybudd y pennill cyntaf yn atseinio’n uchel yn ein byd :
O cadw ni rhag colli’r hud
sydd heddiw’n crwydro drwy’r holl fyd.
Mae gweithgarwch y ddynoliaeth yn pylu’r hud; fe ddaeth y cread yn rhywbeth, nid i ryfeddu ato, ond i ymelwa arno. Roedd T. Rowland Hughes o flaen ei amser yn gweld y peryglon.
A rhybudd yr ail bennill:
O cadw ni rhag dyfod dydd
na yrr ein calon gân yn rhydd.
Nid rhybuddio rhag colli’r cread na cholli byd natur yn unig y mae Hughes, ond rhag colli’r hud a cholli’r gân. Nid methiant o ran gwyddoniaeth na gwleidyddiaeth yn unig yw hyn, ond methiant o ran dychymyg ac ysbryd. Yr awgrym cynnil, felly, yw mai nid newid gwyddonol na gwleidyddol yn unig sydd ei angen, ond newid moesol ac ysbrydol.
A dyna’r trydydd pennill. Mae Hughes yn diolch am Iesu – ond nid am ei fywyd na’i ddysgeidiaeth, ond am y ffordd i Galfaria a’r “dafnau gwaed”, ac yn diweddu:
O cadw ni rhag dyfod oes
heb goron ddrain na chur na chroes.
Arferwn gredu mai ple oedd hyn yn erbyn colli adnabod ar gynnwys y Testament Newydd, ond yn ôl Cydymaith Caneuon Ffydd, fe ddywed Arwel Hughes fod yr emyn yn “delyneg wedi ei gwreiddio yng ngofidiau’r glowyr [yn y 1930au], ac efallai, ym mhoenau’r bardd ei hunan”. Ac eto, nid dweud ‘O cadw ni rhag colli llawenydd a gobaith’ y mae Hughes, ond ‘cadw ni rhag dyfod oes heb goron ddrain na chur na chroes’. Oni wyddai’r glowyr hen ddigon am gur a chroes? Pam pledio na ddylent eu colli?
Onid yw’n arwyddocaol fod Hughes yn credu fod angen i ni ddal gafael ar y goron ddrain, y cur a’r groes yn fwy na dim arall? Nid dioddefaint yw’r bwgan, ond esmwythyd. Yr esmwythyd a gawn trwy reibio’r ddaear ac amgylchynu’n hunain â’n hysbail, efallai? Esmwythyd sydd yn gwbl anabl i gwrdd â’n hanghenion moesol ac ysbrydol. Esmwythyd a fydd, yn y pen draw, yn lladd yr hil ddynol.
A dyna wrando ar drafodaethau Tŷ’r Arglwyddi am y Bil Cymorth i Farw. Mae lladmeryddion y ddeddfwriaeth yn pledio achos y dioddefaint ingol all ddod ar ddiwedd oes. Mae unrhyw un sydd wedi eistedd wrth erchwyn gwely rhywun sy’n marw mewn poen yn deall pam y byddai rhai am gyflymu’r daith a lleddfu’r broses. Ac eto, yn fy mhrofiad i fel gweinidog, gwaeth eto yw eistedd wrth erchwyn gwely un sy’n marw mewn gwewyr nid corfforol ond ysbrydol a moesol, yn edifarhau am gamweddau’r gorffennol, am droi’r cloc yn ôl ac yn sylweddoli na all yr esmwythyd ei achub wedi’r cyfan.
Deallaf yn llwyr yr awydd i dynnu’r goron ddrain a’r cur a’r groes o’r sawl sy’n dioddef yn ystod neu ar ddiwedd bywyd. Ond mae’r peryglon y camddefnyddir y gallu hwnnw – fel yr ydym wedi camddefnyddio ein holl alluoedd eraill wrth ymdrin â’r ddaear a byd natur – yn golygu y gallai trychineb waeth eto ein haros pe camwn lawr y llwybr hwnnw, a bod terfynu bywyd unigolion yn dod mor rhwydd i ni ag y daeth difwyno byd natur. Y Crëwr yn unig all greu go iawn, a’r Prynwr yn unig all ein hachub.
Ac felly mae’r llithriad traed ar ffordd Calfaria, sy’n achub pob cam, yn arwain i mi ymbil ar aelodau Tŷ’r Arglwyddi i beidio â chael eu twyllo gan ein hawydd am esmwythyd rhwydd:
O cadw ni rhag dyfod oes
heb goron ddrain na chur na chroes.
Amen ac Amen.
Gethin Rhys
12 Hydref 2025

Comments