Rydym ni’r Cymry yn hoff o fynegi ein hunain mewn geiriau, weithiau ar draul sylweddoli fod yna ddulliau eraill o gyfathrebu. Bum mewn gwylnos yn galw am heddwch yn y Dwyrain Canol yn ddiweddar ac fe safodd y dorf yn hollol dawel am hanner awr. Roedd y tawelwch yn siarad cyfrolau.
Nid yw yn ein natur i fod yn dawedog. Er ein hoffter o eiriau a’n gallu arbennig i’w trin, maent yn aml iawn yn annigonol i gyfleu holl ddirgelion ein bodolaeth a’n perthynas â Duw a’n dealltwriaeth o bob agwedd o ddyfodiad Crist.
Caf lawer o bleser o ddarllen dadansoddiadau geiriol a thrafodaethau diwinyddol pobl alluog ond rwy’n gyndyn, serch hynny o fynd ati i ddarllen yn helaeth ac i geisio iachawdwriaeth drwy ryw allu cyfyng ymenyddol. Rwy’n siŵr na fwriadwyd i argyhoeddiadau crefyddol fod yn ganlyniad gallu ymenyddol miniog, byddai materion gwahaniaethol a chymhwysol yn codi eu pennau wedyn.
Mae dulliau amgen i’r llafar a’r ysgrifenedig yn werth i’w hystyried, dulliau megis cyfathrebu gweledol sy’n dibynnu ar sylwi. Byddai’r artist haniaethol Glyn Baines yn gyndyn iawn o siarad am ei waith. Mynnai, pe bai’n gorfod defnyddio iaith i egluro ei beintiadau, beth oedd pwynt eu gwneud yn y lle cyntaf.
Soniai'r cerflunydd mynegiannol John Meirion Morris am natur ysbrydol ei waith a oedd uwchlaw eglurhad geiriol.
Mae’r Prifardd Dafydd John Pritchard wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth dan y teitl ‘deud llai’. Barddoniaeth gynnil iawn o ran geiriau sydd ganddo gyda llawer ohonynt yn gynnyrch sylwi craff mewn caffi.
Mewn caffi a thŷ coffi nid anenwog oeddwn i hefyd pan sylwais ar symbol graffeg ar y wal. Yn y canol roedd siâp cwpan goffi. O’i chwmpas nifer fawr o linellau, pob un yn dilyn amlinelliad y llall. Roedd y llinell agosaf i’r gwpan yn ymdebygu i’r gwpan goffi ond roedd y llinell allanol wedi colli pob tebygrwydd i’r gwpan yn y canol.
Yn sydyn gwelais y gwpan yn cynrychioli Crist a’r llinellau oddi amgylch yn cynrychioli cymhlethdodau damcaniaethau, safbwyntiau diwinyddol geiriol a llafar diddiwedd. Tybed a oes perygl i ni golli golwg ar y Crist yn y canol? Dwysaodd y teimlad hwn pan glywais arweinydd Cristnogol blaenllaw yn cael ei holi gan ohebydd. Gofynnwyd iddo a ddylai Cristnogion droi'r foch arall. Ei ateb oedd, “Faswn i ddim yn defnyddio’ geiriau yna fy hun”.
Rhoddodd symbol y gwpan goffi neges weledol gref i mi. Wedi blynyddoedd o geisio cyrraedd at Grist trwy ymbalfalu mewn clyfrwch geiriau, dadleuon a safbwyntiau diwinyddol gwahanol, deuthum i’r casgliad mai dechrau gyda Crist yw’r ateb. Wedi’r cwbl faint o waith deall sydd ar un o negeseuon creiddiol yr Iesu i garu ein gilydd.
Gareth Owen (Aberystwyth )

Comments