top of page
Search

Trugarha

  • garethioan1
  • Nov 9
  • 2 min read

Pan ro’n i’n bump oed, y gosb i blant anufudd yn ein dosbarth oedd eistedd ar stôl dan ddesg yr athrawes, lle roedd ei choesau – lle tywyll du oedd yn codi arswyd arnom. Falle ei fod yn well na chansen, fel byddai fy nain wedi ei ddioddef. Rhyw ugain mlynedd wedyn, 'cadair plant drwg' oedd y gosb, sef eistedd yn y gornel a chael eich gwahardd rhag ymuno gyda gweddill y dosbarth.

 

Bellach, nôl a ddeallaf, 'cadair dim hwyl' yw'r term, a dydych chi ddim yn labelu plant fel 'da' a 'drwg'. Dydych chi chwaith ddim yn cael deud eu bod yn 'anghywir' a gweiddi arnynt. Yn hytrach, 'Rhowch gynnig arni eto' yw'r anogaeth, a deud hynny'n glên.

 

Fel un oedd yn cael trafferth efo disgyblaeth pan ro’n i'n gwneud ymarfer dysgu, mi fyddwn yn canfod y tueddiadau modern hyn yn dipyn o her. Beth ar y ddaear fyddai pobl heddiw yn ei wneud o’r ‘Rhodd Mam’? 'Dau fath o blant sydd yna - plant da a phlant drwg.'

 

Rydw i wedi bod yn meddwl am hyn, gan ddyfalu beth fydd pen-draw y rhyddfrydiaeth hon. Onid dysgu y gwahaniaeth rhwng drwg a da yw un o wersi sylfaenol bywyd? Dwi'n credu fod pobl yn cytuno â hynny – y labelu sy'n peri'r trafferth. Unwaith y caiff plentyn y label 'plentyn drwg' mae peryg iddo fo neu hi dderbyn hynny am oes.

 

Dyma ystyried wedyn beth oedd Iesu yn ei ddysgu, a dyma un peth sy'n nodweddu Ei weinidogaeth ar y ddaear. Estyn allan wnaeth o i’r rhai roedd y byd wedi eu labelu fel 'plant drwg'. Mae enghreifftiau fyrdd o hyn – stori Sacheus, y wraig wrth y ffynnon, y lleidr ar y groes... Yr un egwyddor sydd yn y damhegion hefyd – maddeuant sydd yna i'r mab afradlon, daioni sy'n nodweddu'r Samariad. Dydi'r rhai 'drwg' byth y tu hwnt i gymod.

 

Mae ymarfer hyn yn ein bywydau o ddydd i ddydd dipyn yn fwy anodd. Un peth ydi darllen yr Efengylau, peth arall ydy cychwyn sgwrs efo’r gwrthodedig mewn cymdeithas, boed yn gardotyn ar y stryd neu rywun yn ein cymdeithas sydd wedi bod yng ngharchar neu dan warth. Troi ymysg pobl hapus a llwyddiannus ydan ni eisiau ei wneud, a mynd 'y ffordd arall heibio'.

 

Nid dyna ffordd Crist. A rhaid cyfaddef y byddai’r byd yn lle llawer gwell tase ni’n peidio bod mor awyddus i rannu pobl yn ddrwg a da.

 

Geiriau Parry-Williams ddaw i'r cof,

 

            Na alw monom, Grist, yn ddrwg a da,

               Saint a phaganiaid, ffyddiog a di-ffydd,

               Yn dduwiol ac annuwiol, caeth a rhydd,

Yn gyfiawn ac anghyfiawn. – Trugarha...

 

                                                                                    T. H. P-W

 

Angharad Tomos

9 Tachwedd 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page