Torri ympryd beunyddiol
- cristnogaeth21
- 2 days ago
- 3 min read
Bwyd syml yw fy mrecwast innau – tost gydag amrywiaeth o bethau arno. Rwy’n cael budd o feddwl am gynhwysion y pryd a gyda phwy a pha bethau yr oeddwn yn cydweithio.
Mae angen y Bedair Elfen i wneud y bara ei hun, os ystyriwn fod y blawd yn dod o’r ddaear. Y broses yw arllwys dŵr ar ben blawd, ei adael i godi yn yr awyr a’i bobi trwy ddefnyddio tân. A dyma ni wedi creu bara! Rwy’n gwybod ei fod yn fwy o waith na hynny, ond yn y bôn dyna beth yw bara surdoes. Dyna beth rwy’n ei wneud ac yn ei fwyta bob bore er mwyn torri ympryd dros nos.
Rwy’n mwynhau arbrofi trwy’r amser gyda gwahanol elfennau o’r “ddaear”. Yn fy mara i, mae’n bosibl mewn gwahanol dymhorau iddo gynnwys tato, pwmpen, grawn cyflawn fel barlys neu reis - pob un ohonynt wedi eu coginio’n barod cyn mynd mewn i’r toes – a hadau, perlysiau, gwahanol fathau o flawd. Mae’r posibiliadau a’r cyfuniadau yn ddiddiwedd.
Pan rwy’n myfyrio ar fara, rwy’n gofyn pa fara byddai cynulleidfaoedd Cristnogion cynnar wedi’i fwyta, neu pa fara byddai wedi bod yn oes Iesu? Pa rawn? Pa flawd? Yn sicr nid rhywbeth gyda’r daioni wedi ei dynnu allan ohono fel bara gwyn heddiw! Pa lefain? Nid rhywbeth wedi’i greu er mwyn cynnwys dim ond y burum gorau i fara, siawns. Mwy na thebyg rhywbeth fel y surdoes, cymysgedd o ba bynnag furumau sydd yn yr awyr o’n cwmpas.
Tra’n paratoi’r tost rwy’n canolbwyntio ar deimlo diolchgarwch. Dyma beth rwy’n ei ddweud :
“Diolch.
Diolch i Dduw.
Diolch i’n mam daear.
Diolch i’r haul, y lleuad a dŵr.
Diolch i’r pryfed, planhigion, anifeiliaid a ffwng.
Diolch i’r holl bethau bychain, anweladwy ynof i, yn yr awyr ac yn y pridd.
Diolch i’r bobl o bob cwr o’r byd a thrwy’r oesoedd a helpodd greu hwn.
Diolch o galon.”
Mae’r ddefod hon wedi dod yn fwyfwy pwysig i fi. Tra fy mod i’n dweud diolch – yn uchel ac yn araf – rwy’n ceisio rhyddhau fy nychymyg i gysylltu yr hyn rwy’n ei ddweud gyda beth sydd o’m blaen. Yn aml mae’r hyn sydd ar y tost yn dod o bethau rwyf wedi eu tyfu yn yr ardd, felly mae’r cysylltiad yn un agos. Weithiau mae’r brecwast yn cynnwys pethau sydd wedi tyfu o had yr wyf wedi eu cadw o flwyddyn i flwyddyn, ac rwy’n cofio oddi wrth bwy ges i’r had yn y lle cyntaf. Wedyn, meithrin y llysiau a’r ffrwythau, tocio’r planhigion, rhoi gwrtaith a meddwl am yr holl blanhigion aeth mewn i wneud y compost. A gall fod atgofion o’r problemau a ddigwyddodd – stormydd, glaw, tywydd annhymhorol neu bryfed annisgwyl.
Rwy’n defnyddio darganfyddiadau gwyddonol trwy’r amser. Mae gwyddoniaeth yn fy mywyd bob dydd tra’n edrych ar ôl fy hunan – garddio, coginio, pobi. Ond mae cymaint hefyd sy’n teimlo tu allan, neu tu hwnt, i’r ‘byd gwyddonol’. Rwyf mor ddiolchgar cael cydweithio gyda llysiau trwy eu tyfu, eu coginio a’u bwyta. Cofiaf taw proses o gydweithio yw hi. Allai ddim eu rheoli – er gwaethaf fy ymdrechion i wneud hynny - na chwaith y pryfed sy’n hedfan i mewn i’r ardd, heb sôn am y tywydd!
Mae’r cwbl yn teimlo’n hudol i fi. Ac mae awch a pharchedig-ofn yn gwefru trwof am y cyswllt annisgrifiadwy, yr anweladwy, yr ymwybyddiaeth, y MWY rwy’n byw gydag ef ac ynddo. Wneith y gair DUW y tro am y MWY? Rwy'n gwybod, wrth gwrs, bod y 'MWY' yr wyf yn cael cipolwg arno ond yn rhan fach iawn o fawredd annisgrifiadwy Duw, ond mae'r hyn yr wyf yn ei weld a theimlo yn y cipolwg hwnnw yn rhoi nerth a llawenydd mewnol i mi.
Roni Roberts 25 Ionawr 2026

Comments