Taliban Iesu Grist
- garethioan1
- Mar 23
- 3 min read
Bu ffwndamentaliaeth Islamaidd yn destun embaras i fy holl ffrindiau Mwslimaidd ers blynyddoedd lawer. Roedd yr awyrennau yn hedfan i mewn i’r tyrrau yn Efrog Newydd yn teimlo mor groes i’w hymlyniad hwythau i ddisgyblaeth grefyddol dawel, hael a heddychlon. Ac wedyn roedd bygythiadau i lofruddio Salman Rushdie, llofruddiaethau lluosog o blant yn Nigeria, y Taliban creulon yn Affganistan a llawer arall. Ar yr un pryd, byddai’n gyffredin i glywed Cristnogion yn dweud mai ‘dyna yw Islam’. ‘Os ddarllenwch chi’r Qur’an, fe welwch chi ei fod yn llawn trais’, meddai nifer o Gristnogion.
Dyddiau cyntaf Trump
Mae hi nawr yn Fawrth 2025 ac mae Cristnogion America wedi pleidleisio yn glir dros ddyn a phlaid sy’n gweithredu cyfres o bolisïau newydd ar frys. Wedi llabyddio’n gyhoeddus yr Esgob dewr wnaeth bwysleisio ffordd Iesu Grist adeg sefydlu Trump, daeth cyfres o bolisïau newydd i wahardd ffoaduriaid rhag hedfan i mewn i America (hyd yn oed rhai oedd wedi cael eu ceisiadau wedi eu cymeradwyo eisoes). Casglwyd ynghyd tramorwyr i’w taflu allan o’r wlad, canslwyd cymorth ariannol i wledydd tlotaf y byd, rhoddwyd y sac i’r bobl oedd mewn swyddi oedd yn bodoli i fonitro gonestrwydd mewn bywyd cyhoeddus, rhoddwyd stop ar y polisi o sicrhau cydraddoldeb hiliol mewn swyddi cyhoeddus ac fe ataliwyd llwyth o wariant ar ymchwil meddygol, fel ymchwil cancr.
Project 25 yw enw’r agenda sy’n rhedeg fel llinyn trwy’r polisïau hyn, ac mae’n debyg mai dyma’r agosaf y buom yn y gorllewin at weld gwleidyddiaeth Talibanaidd ar waith. Fel gyda’r Taliban, mae’r rheiny sy’n gweithredu’r polisïau yn defnyddio eu crefydd fel sail ‘deallusol’ i’w gwaith. Yn yr achos hwn, maen nhw’n defnyddio eu dealltwriaeth o Gristnogaeth fel sail i bolisïau creulon fydd yn lleihau hawliau’r tlodion ac yn cynyddu maint cyfrifon banc y cyfoethogion.
Nid dros nos y daeth yr agenda hwn i fodolaeth, ac mae’r athrawiaethau wedi lledu i nifer o eglwysi yn Ewrop erbyn hyn. I’r mwyafrif llethol o Gristnogion yng Nghymru, bydd egwyddorion Project 25 yn anathema llwyr, ond yn barod fe welwn ni ar-lein Gristnogion yng Nghymru yn cefnogi’r project. Tybiaf mai ein goddefgarwch ni yw rhan o’r broblem. Ry’n ni wedi bod yn barod i gydnabod dros y degawdau fel brawd neu chwaer unrhyw un sy’n galw ei hun yn Gristion. Ond y cwestiwn mawr erbyn hyn yw: pa mor bell mae’n rhaid i rhywun fynd i lawr llwybr Trump cyn i ni ddweud eu bod yn anghristnogol.”
Mab Billy Graham
Un o strategwyr mawr agenda Trump yw Franklin Graham, mab yr anfarwol Billy Graham. Mae Franklin wedi llwyddo i ennyn cefnogaeth Cristnogion wrth fyw ar enw ei dad. Fodd bynnag, os edrychwn ni ar waith Billy Graham doedd yno ddim o ysbryd creulon Franklin. Gwnaeth ef safiad cadarn o blaid cydraddoldeb rhwng y du a’r gwyn a hynny mewn cyfnod pan oedd hiliaeth wedi ei sefydlu yng nghyfansoddiad nifer o’r taleithiau. Mae Franklin yn hoff iawn o ddefnyddio ei Feibl i gyfiawnhau ei agweddau cyntefig.
Rwy’n tybio y daeth yn amser i ni orfod gwahaniaethu rhwng y rhai sy’n addoli rhannau o’u Beibl, a’r rhai sydd am ddilyn Iesu Grist. Mae Netanyahu a phobl Project 25 yn gallu byw gyda’r gorchymyn Beiblaidd yn llyfr cyntaf Samuel: “Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.” Gallan nhw fyw gyda chreulondeb Hen Destament tra’n mynd yn gwbl boncyrs fod Esgob Washington wedi ymbil arnyn nhw i weithredu egwyddorion y Gwynfydau.
Ydyn, ry’n ni wedi gweld genedigaeth Taliban Cristnogol, sydd yn anffodus yn defnyddio’r label ‘efengylaidd’ i ddisgrifio’u stabl. Mae’r Taliban newydd hwn eisoes wrthi’n creu problem i bawb arall sydd am ddiffinio eu hunain fel Cristnogion neu fel efengylwyr. Mae’r ddau label wedi eu pardduo’n ddifrifol yn llygaid y cyhoedd ac rwy’n tybio bod angen i ni ymateb i’r her mae hyn yn ei osod.
Geraint Rees
23 Mawrth 2025
ความคิดเห็น