Tafod Arian
- garethioan1
- Mar 30
- 3 min read
Difyr oedd darllen cyfraniad Dafydd Iwan ym mwletin C21 ar Chwefror 16eg. Roedd yn sôn am boblogrwydd diweddar y gwasanaethau plygain, a’r modd y mae’r gair ‘perfformio’ yn anaddas yng nghyd-destun canu plygain oherwydd mai nid perfformio mae pobl mewn gwasanaeth.
Roeddwn ym Mizoram yn yr India pan ddarllenais ei bwt ac roedd ei eiriau wir yn taro deuddeg yno. Cefais wahoddiad i fynd i Mizoram gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd yr India. Mi wyddwn bod cerddoriaeth yn ran o’r fargen ond doeddwn i ddim yn gwybod sut. Yn syth ar ôl cyrraedd, daeth yn amlwg bod gan gerddoriaeth swyddogaeth tra gwahanol yno. Mae’n fwy na sioe a diddanwch.
Yn ogystal â chanu emynau ar lwyfannau ac o'r sêt fawr, roedd pobl Mizoram yn awyddus imi ganu mewn ysbytai a chanolfannau adfer i bobl oedd yn dioddef ag AIDS. Roeddent yn awyddus i mi ganu mewn lloches i ffoaduriaid o Manipur; i addicts, i bobl hŷn; i blant bach – i bawb yn unrhyw le ac unrhyw bryd a sawl gwaith y dydd! Ceisio peidio perfformio yw’r nod wrth ganu emynau, efallai, ac yn hytrach na defnyddio egni i berfformio, roeddwn yn canolbwyntio ar fod yn agored er mwyn rhoi cyfle i’r emynau wneud eu gwaith trwydda’ i.
Yn Amgueddfa Sain Ffagan ceir gannoedd o dapiau o’r werin Gymraeg yn canu. Mae rhai o’r tapiau yn cynnwys recordiadau o ganu emynau – pobl oedd yn eu henoed yn y 50au a’r 60au – nifer ohonynt yn blant y Diwygiad. Mae yna angerdd gwahanol yn eu canu sy’n anghyfarwydd i'n clustiau ni heddiw gan ein bod wedi ein cyflyru (trwy eisteddfodau, corau a rhaglenni teledu) i gredu mai perfformio yw prif nod canu, a bod modd mesur gwerth offeryn y llais trwy gywirdeb a/neu giamocs lleisiol. Mae yna rywbeth yng nghanu hen blant y Diwygiad sydd uwchlaw proffesiynoldeb a pherfformans. Canu er mwyn mynegi eu ffydd oedd rhain, nid canu er mwyn dangos eu lleisiau i eraill. Dydi canu ag arddeliad ffydd ddim yn rhywbeth fedr rywun ei ddysgu er mwyn ei berfformio.
Mae yna bŵer gwirioneddol yn rhai o’r hen emynau Cymraeg sydd (yn fy marn i) yn ymwneud â tharddiad awen yr emynwyr. Rwy’n eu canu yn gyson yma’n Llydaw mewn canolfannau, eglwysi, theatrau ac ambell i gapel Protestannaidd. Does neb yn deall y geiriau nac yn gwybod am Anghydffurfiaeth, ond eto mae yma gynulleidfa i’r hen emynau Cymraeg. Nid oherwydd fy llais, fy enw neu fy mherfformiad nag affliw o ddim byd arall amdanaf fi. Maen nhw’n dod oherwydd y cysylltiad gyda’r emynau sy’n dod yn naturiol wrth imi beidio perfformio. Dw i’n gadael i’r emynau wneud eu gwaith trwydda’ i.
Yn ei ddarlith am emynyddiaeth, dywedodd y diweddar David Griffiths bod sawl emynydd yn fardd ond “nid yw pob bardd yn medru bod yn emynydd”. Mae hyn yn egluro pam nad ydw i’n medru cysylltu yn yr un modd gyda fy nghaneuon fy hun nac ychwaith gydag emynau ‘modern’. Yn fy mhrofiad i, mae nifer o’r emynau modern yn cyfeirio at rhyw Dylwythen Deg o Dduw yn gwneud gwyrthiau fath â magic i helpu'r unigolyn. Mae’r hen emynau yn gwbl wahanol – yn ‘hen ond heb heneiddio’ – ac o'r herwydd yn swnio'n llawer llai hen ffasiwn nag emynau modern. Yr Iawn yw testun yr hen emynau a’r cysyniad o’r Iawn fel adferiad. Mae nhw’n dod o awen bur ac unigryw sy’n cael ei danio eto, rhyw fymryn, wrth inni ganu'r emynau â gwir arddeliad.
Mae’n dibynnu sut mae rhywun yn diffinio’r gair ‘perfformio’ mae’n debyg, ond os mai pwrpas emyn yw cysylltu â’r Bod Mawr a chyrraedd yr hyn oedd yn awen i’r emynwyr, mae ‘perfformio’ emyn yn colli’r pwrpas yn llwyr.
Yn eironig felly, rydw i am gloi trwy gymryd y cyfle i hyrwyddo’r daith ddiweddaraf o gigs emynau - Tafod Arian - gyda'r emynau. Dewch draw i wrando ar y band a minnau yn peidio perfformio emynau! Bydd yna ganeuon a cherddoriaeth newydd yn ogystal ag emynau ac electro-bregethau ‘emynau coll y werin’ llynedd. Bydd ffilm yn ran o'r cyflwyniad, yn cynnwys delweddau a roddwyd i mi yn ystod ac ar ôl y daith capeli llynedd.
Lleuwen Steffan
30 Mawrth 2025
Comentarios