top of page
Search

Sul y Blodau

  • cristnogaeth21
  • Apr 13
  • 2 min read

Updated: Apr 29

Sul y Blodau : uchafbwynt y gwrthdaro.

Mae gweddill yr wythnos yn dangos y canlyniad.

 

Dyma ddyddiau’r llygredd y gormes a’r ecsploetio. Roedd Iesu wedi treulio’i oes yng Ngalilea. Fe wyddai yn iawn sut yr oedd pethau a’r ffordd yr oedd y tlawd a’r gwan yn byw. Jerwsalem oedd yn rheoli bywyd pobl, yn hawlio eu harian, fel nad oedd dim ar ôl ond eu darn o dir - a hyn drwy rym y fyddin gryfaf yn y byd.


Roedd y Drefn yn meddiannu’r tir a deuai’r bobl, nifer yn weddwon ac amddifad, yn gaethweision. Roedd y weddw yn talu'r hyn oedd ganddi - ei dwy hatling - ond doedd bywyd y cyfoethog yn newid dim (Marc 12:44 ).


Nid yn unig yr oedd Galilea yn cael ei hecsploetio, roedd yn cael ei thrin fel pyped hefyd. Bywyd tawel oedd dymuniad llawer o’r bobl, ond roedd rhai yn barod i gydweithio â’r awdurdodau ac roedd protestwyr yn cael eu cosbi. Roedd eraill yn diflannu. Roedd angen deffro’r bobl oherwydd nid Galilea yn unig oedd yn dioddef gormes. Roedd angen chwyldro i droi y byd a’i ben i lawr.


Fe gymerodd amser i Iesu weld beth oedd yr angen. Gwnaeth ei hun yn agored i ddoethineb merched (Marc 7:24 ), i bresenoldeb dieithriaid (Mathew 25:35), ac i ystyr yr afiechydon o’i gwmpas. Yna, daw wyneb yn wyneb â’r gyfundrefn lwgr hon sy’n cydweithio â’r grym militaraidd.


Caiff gyhoeddusrwydd wrth ddod i mewn i’r ddinas, ond nid oes unrhyw fygythiad yn ei ddyfodiad. Mae’n dangos ar ochr pwy y mae, ond ni  fyddai hynny yn dychryn y grymoedd sydd mewn awdurdod (Marc 11:7). Ond mae’n mynd yn rhy bell wrth fynd i galon y ddinas.  Mae’n chwilio am y rhai sydd ynghlwm â’r gyfundrefn ac yn  elwa arni a daw â’r peiriant gwleidyddol i stop – y peiriant sy’n llawn trachwant ac yn defnyddio crefydd fel twyll ysbrydol yn y Deml. Mae’n gyfundrefn sy’n allanol  ddeniadol, barchus,  ond yn llygredig oddi fewn (Marc 11:16 ).

 

Mae gan Iesu weledigaeth ddwyfol sy’n ymwrthod yn llwyr â byd sy’n llygru, yn dinistrio’n araf yr harddwch, y galon, y prydferthwch anghymharol, y tynerwch a’r hyfrydwch sydd yn ein cread. Mae ganddo weledigaeth o gytcord, cydweithio a chyd-ddeall yn hytrach na chystadleuaeth, rhaniadau, ymwrthod a gwrthdaro. Mae’n weledigaeth lle mae briwiau y gyfundrefn hon yn cael eu hiachau; difrod a dryswch salwch meddwl yn cael ei wella trwy ofal a chefnogaeth a chyfeillgarwch; cyfartaledd a thegwch rhwng merched a dynion; y rhai o hil a chefndir gwahanol – i gyd yn rhan o fyd newydd gwahanol.

 

Nid yw’r byd heddiw yn wahanol. ’Ewch i Galilea’, meddai’r negesydd,’ yno fe gewch ei weld, nid yma yn y bedd’.

 

John P. Butler

Sul y Blodau, 13 Ebrill 2025

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page