Straeon y Nadolig
- Dec 28, 2025
- 3 min read
Heddiw yw pedwerydd diwrnod y Nadolig – Gŵyl y Gwirioniaid, sy’n coffau’r plant diniwed a laddwyd, yn ôl y stori, dan law milwyr Herod.
Er hynny, i nifer helaeth o bobl mae’r Nadolig eisoes wedi dod a mynd ers tridiau. Dydy’r ‘Gwyliau’ traddodiadol sy’n ymestyn o Ddydd Nadolig tan Nos Ystwyll ar y 5ed o Ionawr ddim yn golygu llawer i bobl heddiw. Diwrnod y sêls fu Gŵyl San Steffan i lawer ers rhai degawdau bellach.
Mae’n fy nharo i’n gynyddol bod cyfnod yr Adfent wedi dod yn dipyn mwy o gyfnod dathlu na’r Nadolig erbyn hyn. Yn draddodiadol, i’r Cristion crefyddol, bu’n gyfnod o ddisgwyl gweddigar a myfyriol. Ond i’r mwyafrif seciwlar bu hefyd yn gyfnod llawn cyffro disgwylgar, cyfnod o baratoi at ‘Y Diwrnod Mawr’. Mae’n adeg sy'n llawn o wasanaethau carolau, cyngherddau ysgol a Dramâu’r Geni.
Roeddwn yn falch o weld ein hysgol gynradd leol ni yn cyflwyno fersiwn o Stori’r Geni eleni – hyd yn oed os oedd hi wedi ei haddasu i fformat cystadleuaeth ganu ‘brwydr y bandiau’! O leiaf roedd y plant yn cael clywed sôn am Ddoethion, Bugeiliaid ac Angylion, am Fair a Joseff a’r baban yn y preseb. (Nhw enillodd, gyda llaw). Sawl neuadd ysgol, capel, eglwys a festri welodd ail greu’r golygfeydd tymhorol a anfarwolwyd gan Gwyn Thomas yn ei gerdd ‘Drama’r Nadolig’ eleni, sgwn i? Cannoedd os nad miloedd mae’n siŵr.
Wrth ffoli ar weld yr wyres fach yn ei dillad angylaidd ar lwyfan yr ysgol daeth cwestiwn i’m meddwl. Faint o’r rhieni a pherthnasau eraill y sêr bychain ar y llwyfan sydd wedi troi cefn ar eu capeli a’u heglwysi am nad ydyn nhw’n credu ‘Stori Geni’? Rwy’n synhwyro bod amheuon llawer ynghylch gwirionedd llythrennol y straeon a geir yn Efengylau Mathew a Luc ynglŷn â genedigaeth Iesu, yn aml, wedi dechrau hau amheuon iddyn nhw am werth yr Efengyl yn ei chrynswth.
Bydd dilynwyr C21 yn siŵr o sylweddoli nad newyddiaduraeth na chofnod hanesyddol a gawn ni yn y ddwy efengyl hynny. Yn hytrach, mae’r awduron wedi mynd ati i ddefnyddio motiffau a symbolau arwyddocaol eu cyfnod, ynghyd â’r chwedlau a’r traddodiadau a dyfodd o amgylch Iesu yn yr Eglwys Fore, i gyhoeddi gwirioneddau diwinyddol, athrawiaethol a phroffwydol ynghylch pwy oedd Iesu.
Straeon ydyn nhw – straeon bychain symbolaidd sy’n gwneud pwyntiau mawr. Yng ngeiriau’r ysgolhaig Beiblaidd, John Dominic Crossan:
“My point, once again, is not that those ancient people told literal stories and we are now smart enough to take them symbolically, but that they told them symbolically and we are now dumb enough to take them literally” .
(‘Who is Jesus?’, Harper, 1999.)
Ydy hi’n rhy hwyr i ni geisio perswadio pobl i edrych y tu hwnt i’r perfformiadau Adfentaidd ciwt at y testunau gwreiddiol a’u gwerthfawrogi am yr hyn ydynt? Sef, dau ddarn o lenyddiaeth ysbrydoledig sy’n cyhoeddi (a) mai Iesu a’i Efengyl o gariad, cymod a chyfiawnder, nid unrhyw Gesar na Herod, yw achubiaeth y ddynoliaeth; a (b) ei fod wedi dod i sefyll gyda’r gwan a’r diniwed yn erbyn pob gorthrymder. Daeth i “ddyrchafu’r distadl”, ys dywed Luc yn y gerdd y mae’n ei dadogi i Fair. Yn fyr, daeth Iesu i droi gwerthoedd hunanol y byd ar eu pen a gorseddu’r gwerthoedd dwyfol.
Mae gyda ni wyth niwrnod arall o’r Nadolig i fyfyrio ymhellach ar y weledigaeth honno a’i goblygiadau – a hynny er mwyn holl bobl ddiniwed y byd.
Nadolig Llawen!
Gareth Ioan
28 Rhagfyr 2025

Comments