top of page

Solidariaeth

Anodd yw cyfieithu rhai geiriau gydag un gair perffaith ac mae solidarity yn un o’r rheiny. Os ewch chi i’r Geiriadur Mawr fe welwch - ‘cydlyniad, cyd-dynnu, cydymddibyniaeth, bod yn gytûn’. O fynd at Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones (Geiriadur yr Academi) cewch ddewisiadau ychwanegol fel ‘undod, undeb, cefnogaeth, cydsafiad’. Yna yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru awgrymir y canlynol fel diffiniad - ‘undod neu gytundeb, teimlad neu weithred, rhwng unigolion a chanddynt fuddiannau’n gyffredin.’

 

Hyd yn oed yn ein hoes seciwlar ni, fe welwn arwyddion o bobl yn teimlo’r angen i gydio’n dynn mewn rhywbeth cadarn. Taith droellog yw hon i lawer ar y ddaear ac mae pobl yn parhau i arddel arferion sy’n cysuro ac yn bathu rhai newydd yn ogystal. Does ond rhaid cofio pobl yn gosod pentyrrau o flodau a theganau meddal tu fas i balas Buckingham adeg marwolaeth Diana. Daeth yn amlwg, er bod cymdeithas yn ymddieithrio oddi wrth y defodau crefyddol, bod pobl angen rhywbeth i lynu wrtho o hyd.

 

Bydd rhai ohonom yn dewis glynu wrth fynychu oedfaon eglwys, eraill yn diolch eu bod yn gallu dewis picio mewn fel rhyw fath o pay-as-you-go, a rhai yn gwerthfawrogi bod gweinidog yn dewis y geiriau i’w dweud ar adegau tyngedfennol. Da o beth, wrth gwrs, yw bod drws pob eglwys ar agor i bawb yn ddiwahân, a bod eglwys sy’n rhan o’i chymuned yn gallu gwneud gwahaniaeth a gafael llaw pan fo angen.

 

Ond beth yw gwir ystyr solidariaeth Cristnogol? Wrth ystyried holais rhai o’m cyfeillion a’m cyd-weithwyr (ymholiad agos-i’r-asgwrn ar hyn o bryd ym myd y celfyddydau â’r toriadau fel cymylau du’n bygwth). Dywedodd un ei fod yn cofio streic y glowyr; soniodd un arall am yr undeb llafur yng ngwlad Pwyl (o’r enw Solidarity) a dyfodd mor gyflym fel y bu i lywodraeth y wlad ei gwneud hi’n anghyfreithlon i fod yn aelod ohono. Soniwyd hefyd gan nifer fel y bu iddynt osod llun o fflag yr Wcrain tu ôl i’w llun personol ar y gwefannau cymdeithasol. Aeth un o fy nghyfoedion mor fanwl â sôn am Santes Maria Skobtsova a weithiodd yn ddiflino ym Mharis i edrych ar ôl yr anghenus ac a achubodd fywydau nifer fawr o blant Iddewig. Fe brofodd hi fel y gall y penderfyniad i gyd-sefyll ag eraill fod yn weithred fentrus a pheryglus a hithau’n cael ei dedfrydu i farwolaeth.

 

Pab John Paul II ddywedodd bod ‘mwy i solidariaeth na dim ond cydymdeimlad amwys’; mae angen ymdeimlad o gymuno penodol. Yn ein hanian, yr ydym wedi ein clymu ynghyd fel pobl. Allwn ni ddim cynnal ein hunain heb gydnabod ein gilydd, gwerthfawrogi’n gilydd, a galluogi ein gilydd i fod yn agored i roi a derbyn.

 

Dywedodd Ken Leech yn ei lyfr ‘The Sky is Red’ nad yw ‘solidariaeth yr un peth ag empathi a bod peryg inni gwympo i’r fagl o feddwl ein bod yn hollwybodus am eraill’. Dylem, meddai Leech, geisio ‘cynnwys y lleisiau hynny sydd heb eu clywed yn y sgwrs a dylem wrando heb ddweud - dwi’n gwybod sut ti’n teimlo’. Mae angen inni weld nad ein poen ni yw poen pobl eraill, ond eto gweld y poen hwnnw fel rhywbeth y mae’n rhaid inni weithredu arno a hynny’n union fel pe bae yn boen i ni.

 

Er nad yr un yw ein hanghenion, yr ydym mewn perthynas â’n gilydd yn yr angen ac oherwydd yr angen. Mae bod yn gynghreiriaid hefyd yn golygu bod yn agored i her a newid. Dietrich Bonhoeffoer ddywedodd bod ‘Cristnogion wedi’u galw i fod yn gyfryngwyr ac yn gynrychiolwyr i sefyll dros y rhai bregus yn ein byd’.

 

Nid hawdd bob amser yw arddel y ffaith fod Iesu wedi dewis sefyll gyda’r rhai ar y cyrion, yn y corneli a’r cysgodion. Nid ceisio eu newid wnaeth e, na chynnig ateb na datrysiad chwaith, ond gweld eu hangen a’u caru. Roedd yn wylaidd, yn amyneddgar ac yn greadigol yn ei gymuno â phawb. Mae’n galw arnom ni i ‘newynu a sychedu am gyfiawnder’ (Matthew 5: 6) ac i fod yn ddewr wrth geisio ein gorau i ‘chwalu’r wal o gasineb [sydd] yn ein gwahanu ni’ (Effesiaid 2:14).

 

Efallai eich bod yn meddwl - ie, ie, ond sut mae bod yn wirioneddol weithredol dros gyfiawnder mewn byd o ormes a thrais, lle mae plant bach yn llwgu, lle mae 90% o’r cyfoeth gan 10% o’r boblogaeth, a lle mae arweinyddion yn dewis gwario ar arfau niwclear a gwleidyddion yn gwneud dim ond canmol eu hunain a beirniadu eraill? Wel, mentraf ddweud nad apathy yw empathy. A dyma ddod at fyrdwn fy nghân - ar Orffennaf y pedwerydd eleni, pleidleisiwch dros yr anghenus, dros y rhai llai ffodus na nyni, dros yr arall a’r eraill - yn agos ac ymhell - sy’n ymbilio arnom i’w hystyried, eu gweld a’u clywed. Ac, os gwelwch yn dda, pleidleisiwch mewn solidariaeth â’r Crist fydd yn sefyll yn gadarn wrth eich ochr wrth ichi ysgrifio’r groes yn y blwch.

 

Siân Meinir

Comments


bottom of page