top of page

Sglein ar hen geiniog


Mae pobl ifanc y capel ’cw wedi bod yn casglu newid mân ar gyfer achos da. Ond nid yn unig maen nhw wedi bod yn casglu’r arian ond maen nhw wedi bod yn glynu a gosod y darnau arian ar fyrddau pren mawr a chreu darnau gweledol prydferth a thrawiadol ohonyn nhw.


Mae hyn wedi fy atgoffa i o stori gan Nick Hornby a wnaeth argraff fawr arna’i flynyddoedd maith yn ôl. ‘Nipple Jesus’ yw enw’r stori ac mae’n ymddangos mewn casgliad o straeon byrion gan nifer o awduron ac wedi ei olygu gan Hornby ei hun yn dwyn y teitl Speaking with the Angel (Riverhead, 2000), tt 98-125.


Yn syml mae’r stori am Dave, swyddog diogelwch mewn oriel gelf. Mae’n ymddangos mai ei unig rinwedd yw bod yn fawr. Mae’r stori yn ymdrin â’i berthynas gyda phortread o Grist sydd wedi ei greu allan o filoedd o ddarnau mân o bapur wedi eu torri allan o gylchgronau pornograffig. Drwy Dave mae Hornby yn edrych ar themâu crefydd, cymdeithas, celfyddyd a rhyw a pherthynas yr unigolyn â’r pethau hyn. Dyw Dave ddim yn grefyddol ond mae ei berthynas gyda’r portread rhyfeddaf hwn o Grist yn gymhleth a chyfoethog a chofiadwy.


Beth bynnag, yr hyn sy’n rhyfedd yn y stori, fel yng nghelfyddyd pobl ifanc y capel ydy sut y gall tynnu’r pethau mwyaf diwerth at ei gilydd gyda gofal a bwriad greu rhywbeth dyrchafedig.


Ystyriwch y gelfyddyd. Darnau o arian mân. Dim gwerth ariannol y tu hwnt i’r hyn a argreffir ar eu hwynebau, a’u cyffredinedd yn golygu nad oes dim gwerth diwylliannol o fath yn y byd iddyn nhw nes y bydd y mwyafrif helaeth wedi eu toddi neu eu colli a bod y gweddill prin yn cynyddu yn eu gwerth ym mhob ystyr i’r gair.


Darnau o arian mân. Pob un â’i hanes. Rhai’n sgleinio. Rhai’n fudur. Rhai’n gam. Rhai’n berffaith grwn. Rhai wedi eu defnyddio i brynu bwyd, eraill i brynu cyffuriau, eraill i brynu dillad, eraill wedi pigo oddi ar lawr, rhai wedi bod trwy beiriannau coffi, eraill trwy beiriannau hap chwarae. Rhai wedi eu gwasgu i gledr llaw fach chwyslyd ddisgwylgar, eraill wedi eu taflu i law ymbilgar neu i gwpan cardod.


Y cyfan wedi eu cyflwyno at achos da. Pob un â photensial sglein a pholish. Ond yn eu hamrywiaeth mae eu gogoniant, yn y cyferbyniad rhwng y polish a’r budreddi. Fel gyda ffotograffiaeth ddu a gwyn, yn y cysgodion mae’r darluniau’n dod yn fyw.


O’u casglu ynghyd a’u corlannu’n galonnau maen nhw’n cynyddu yn eu gwerth. Mae’r cyfanswm yn fwy ond, o’u tynnu at ei gilydd gyda gofal a bwriad mae’r cyfan yn creu rhywbeth llawer mwy dyrchafedig, y cyd-ddyheu, y bwriad a’r nod, yw’r polish.


A dyna’r ddameg yn y stori a’r gelfyddyd – os down ni at ein gilydd, beth bynnag ein cyflwr, lle bynnag dan ni wedi bod; yn fach, yn ddiwerth, yn flêr a budur, gallwn greu rhywbeth sy’n adlewyrchiad o Grist, all greu argraff. Hyd yn oed ar Dave.


bottom of page