Sefydliad v. Proffwydi

Ceir dau draddodiad ‘crefyddol’ yn cyd-redeg ac yn gwrthdaro â’i gilydd yn gyson yn yr Hen Destament. Y traddodiad sefydliadol a’r traddodiad proffwydol. Mae’r gwahanol feddylfryd a byd-olwg sy’n perthyn i’r traddodiadau yma’n dal i fodoli ac yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ystyried ‘crefydd’ ac yn dehongli ei bwrpas hyd heddiw. Mae enwadau ac eglwysi yn ogystal ag unigolion yn arddel y safbwyntiau hyn heddiw, ac y maent yn effeithio’n uniongyrchol ar eu hagweddau a’u gweithredoedd.


Ceidwadol yw’r traddodiad sefydliadol, ac fe gred ei arddelwyr bod cyfrifoldeb arnynt i gynnal y gyfundrefn wladol yn ogystal a chrefyddol, sy’n bodoli er mwyn cynnal y ‘drefn’. Yn yr Hen Destament rhain oedd swyddogion y deml a’r proffwydi a gefnogai’r brenin a’i lys ac a lefarai ar ran y sefydliad gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol. Rhain a reolai y deml ac a gefnogai’r holl ganoli oedd wedi digwydd dan arweiniad Dafydd a Solomon yn Jerwsalem. Roeddent yn debyg i sefydliadau crefyddol y gwladwriaethau oedd o’u hamgylch yn y Dwyrain Canol – yr Aifft, Asyria, Babilon, Persia ac yn y blaen. Yr oedd un gwahaniaeth pwysig, i’r gwladwriaethau eraill yr oedd y brenin yn ddwyfol, ond i’r Israeliaid a’r Iddewon cynrychiolydd i Dduw oedd y brenin.


Cadw pethau i fynd gyda’r un gwerthoedd sylfaenol yn rheoli hyd yn ‘oes oesoedd’ yw pwyslais y drefn honno. Gwarchod a bendithio’r gyfundrefn oedd (ac sydd) yn bodoli yw ei phwrpas. Yn gyffredinol dyma yw safbwynt ac agwedd y llyfrau hanes, gydag eithriadau fel 1 Samuel 8, a’r llyfrau doethineb. Rhain yw’r adrannau a fawrygir gan yr eglwysi (ac unigolion) sefydliadol heddiw. Yn anffodus, dyma’r adrannau a ddefnyddir yn y beiblau darluniadol i blant ac ieuenctid oherwydd eu bod yn llawer mwy ‘cyffrous’ gyda’r holl ladd a rhyfela sy’n digwydd ynddynt.


Cynnal y drefn, ac annog pobol i dderbyn y drefn ac ar yr un pryd estyn ychydig gysur a chymorth arwynebol i’r rhai sy’n dioddef dan y drefn yw rôl yr eglwysi sydd yn y traddodiad hwn heddiw.


Ar y llaw arall mae’r traddodiad proffwydol yn gyson herio’r bobol grymus a chyfoethog, y brenhinoedd a’r archoffeiriadon a’u llysoedd. Pleidiant achos y tlodion, gweddwon ac estron, hynny yw pobol y cyrion, yn ddi-baid. Cyflwynant Duw fel y Creawdwr sy’n gweithredu er mwyn dwyn ‘creadigaeth newydd’ i fodolaeth sy’n seiliedig ar gyfiawnder, trugaredd a barn. Nid estyn cysur arwynebol yw eu bwriad ond gobaith gwirioneddol am waredigaeth o afael grymoedd drygioni.


Un a berthynai i’r traddodiad proffwydol oedd Iesu o Nasareth. Yn ôl yr efengylau y mae’n gosod ei hunan yng ngwersyll y proffwydi (Mathew 13:57; 21:11), mae’n canmol y proffwydi ac yn annog ei ddisgyblion i fod yn debyg iddynt (Mathew 5:12). Sonia yn ddilornus am y brenhinoedd fel Dafydd a Solomon (Marc 12:35 a Mathew 6:29), arwyr mawr y genedl – ac arwyr y meddylfryd sefydliadol, a’r beiblau lliw, hyd heddiw. Yn ôl y farn boblogaidd, a sefydliadol, un tebyg i Dafydd oedd y Meseia i fod. Mae Iesu’n cyflwyno ei hun fel y Meseia sydd i’r gwrthwyneb â’r portread o Dafydd a gawn yn yr Hen Destament.


Mae’r Meseia Iesu yn hyrwyddo ffordd cyfiawnder ac yn dilyn ffordd tangnefedd – ffordd y proffwydi, ac mae ei agwedd at Pilat, Herod a’r deml yn Jerwsalem yn cadarnhau ei agwedd at y ffyrdd hynny.