Fis Tachwedd aeth Deio ac Elin, ffrindiau imi, i gerdded i Base Camp Sagarmãthã neu Everest fel y mae mynydd ucha’r byd yn cael ei adnabod fynychaf. Wrth sgwrsio efo’r ddau cyn iddyn nhw hel eu pac am yr Himalaya, mi ges bwl o hiraeth. Yn ôl ym Mawrth 2018, ro’n i, fel Deio ac Elin, ar ddechrau'r un daith. Taith sydd â’i hôl arna i hyd heddiw.
Oedd, roedd yn brofiad corfforol - yn 14 diwrnod di-dor o gerdded drwy ddyffryn Dudh Koshi. Prin y galla i gofio’r chwysu a’r camau byr eu gwynt heddiw. Ond mi alla i gofio siglad y pontydd crog dan fy nhraed, y fflagiau gweddi wedi’u cordeddu o’u cwmpas, y dod i stop ger y cerrig mani, fy mysedd yn llithro ar yr olwynion gweddi, y sgyrsiau oedd yn treiddio’n ddyfnach efo pob cam, y rhyfeddod o sylwi ar anferthedd y cread a’m bychanrwydd innau wrth ddilyn amlinelliad y mynyddoedd â’m mys bach.
Wrth gwrs, does dim rhaid mynd i addoldy i gael profiad ysbrydol a theimlo y pethau cysegredig. Yn yr Himalaya, ymdeimlais â grym oedd yn fwy na fi fy hun. Ces lonyddwch meddwl. Ces ymddihatru o hualau amser a ffôn a rhyngrwyd wrth fynd un cam ar y tro. Ces diwnio i dreigl y dydd. Ces gip cyfrin ar eneidiau’r mynyddoedd a theimlo cymundeb â'm cyd-gerddwyr.
Ro’n i’n gwybod fod ’na bobl o bob cwr o’r byd wedi cerdded o ’mlaen i - yn bererinion o bob cefndir yn dilyn yr un daith, yn anelu at yr un nod - yn lliaws o grefyddau a chredoau a straeon yn cyd-gerdded.
Adra mae rhes o fflagiau gweddi yn hongian ar ddistyn yn y gegin. Ac ar wal y stafell fyw, mae llun gan Hafwen Dorkins, mam Siôn oedd yn un o’r criw ar y daith. Mi beintiodd Hafwen un o’r lluniau dynnodd Siôn ar ei ffôn a rhoi cerddi sgwennais i yn y llun.
Eleni eto, pan aiff pethau’n drech, mi deimla i ymylon y fflagiau gweddi, mi syllai’n hir ar olion brwsh Hafwen. O ymdawelu, mi glywai gynffonau ein sgyrsiau ac yn llygad fy meddwl, mi ddyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd o hyd.
Cadwyn
(I Gwenan, Einir, Anna, Dafydd, Gareth, John, Gwyn, Nedw, Deio, Ifan, Siôn Ifan, Siôn Dorkins a Sion Llewelyn).
Rhoddwyd y fleece ddu i dannu ar y lein,
diflannodd cusanau’r haul o ledr yr esgidiau cerdded
a dadbaciwyd tair wythnos yn daclus i ddroriau.
Ond â chwsg ar gyfeiliorn,
daw eich lleisiau i’r gwyll
fel sŵn fflagiau gweddi’n chwipio ar y gwynt
a gwelaf freichled y copaon eto;
lle mae Duw wedi crafu’i rasal ar y llethrau,
lle mae’r meirw’n byw dan gynfasau’r eira
a thros erchwyn y pontydd crog
mae darn bach o enaid pawb
yn gwlychu traed yn Dudh Khosi
ac yn rhannu cyfrinachau â Sagarmãthã.
Drwy’r bore bach
dilynaf amlinelliad eich cefnau
ac ôl eich gwadnau yn y llwch
a daw mân afalansiau i’r galon.
Comments