top of page
Search

Richard Burton

  • garethioan1
  • 4 hours ago
  • 2 min read

Clywed ar y radio bore ‘ma (10 Tachwedd) y byddai Richard Burton yn gant oed heddiw pe byddai wedi byw, a bod nifer o bethau’n digwydd yma ac acw i’w gofio.

 

Aeth fy meddwl yn ôl i ddechrau’r pumdegau pan ddaeth y ffilm ‘The Robe’ allan gyntaf, a chryn gynnwrf ym Mrynaman ynglŷn â hynny. Roedd Pont-rhyd-y-fen yn ddigon agos i Frynaman, mae’n debyg, i’r actor ifanc gael ei ystyried fel ‘bachan sy’n byw lawr yr hewl’. A chan bod y ffilm ar thema Feiblaidd, barnwyd y byddai’n briodol i weinidog Gibea gael ei weld yn mynd a’i blant i Abertawe i’w gweld.

 

Yr hyn a wnaeth fwyaf o argraff arna i – does gen i ddim llawer o gof am y ffilm – oedd gweld sawl un, yn enwedig y merched, yn cyfarch fy nhad wrth inni fynd heibio i gefn y ciw hir a ddisgwyliai am fynediad i’r sinema. Roedd hi’n amlwg eu bod yn awyddus i’r gweinidog sylwi eu bod yn mynychu ffilm mor grefyddol ei naws.

 

Fel yr awgrymais, does gen i fawr o gof o’r argraff y cafodd y ffilm arna’ i. (Efallai fod fy mhrinder Saesneg yn rhannol gyfrifol am hynny!) Ond mi ges gyfle i’w gweld ar y teledu yn ddiweddar, a’i mwynhau. Wrth gwrs, roedd wedi dyddio’n o sownd ar sawl cyfri, ond mae hi’n nodweddiadol o’r ffilmiau ar themâu Beiblaidd oedd yn eu bri ganol y ganrif ddiwethaf, gyda neges Gristnogol gref. Mae’n anodd dychmygu’r math yma o ffilm yn cael sêl bendith Hollywood yn ein dyddiau ni, ond byddai’n ddiddorol gweld sut y byddai cyfarwyddwyr ffilm heddiw yn delio gyda themâu o’r fath.

 

Does dim dwywaith i’r ffilm helpu i greu delwedd rinweddol gref i’r actor addawol o Gymru, er i hanes ei fuchedd yn ddiweddarach gymylu peth ar y ddelwedd honno. Ond mae’r ffilm yn atgoffa rhywun o bŵer y cyfrwng hwn i gyfleu neges Crist yn ei hanfod syml. Mae stori’r Rhufeiniwr a fu’n gyfrifol am groeshoelio Iesu yn cael y fath dröedigaeth wrth sylweddoli grym neges yr un a groeshoeliwyd yn stori sy’n haeddu cael ei hail-adrodd am byth.

 

Ac yn wyneb rhyfelgarwch cynyddol ein byd heddiw, mae’n werth gwrando ar neges y diweddar Benjamin Zephanaiah mewn fideo a wnaeth i egluro pam y gwisgai babi gwyn yng nghyfnod y Cofio blynyddol:

 

“I mi, nid y gofod rhwng rhyfeloedd yw heddwch, nid absenoldeb rhyfel… nid mater o gofio rhyfeloedd y gorffennol, ond osgoi rhyfeloedd y dyfodol. Un o fy hoff ddywediadau yw nad oes yna ffordd i heddwch, ond heddwch yw'r ffordd... a tan fydd gyda ni arweinwyr yn y byd sy’n deall hynny, dwi am barhau i wisgo fy mhabi gwyn, ac anogaf chwithau i wneud yr un fath”.

 

 

Gyrrwyd y fideo ataf gan fam o Fynwy sydd a’i phlant yn mynd i Ysgol Gymraeg lle’r oedd sylw mawr i hanes y pabi coch. Ei mab oedd yr unig un a wisgai babi gwyn, a hynny’n achosi poen meddwl iddo.

 

Dafydd Iwan

16 Tachwedd 2025

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page