top of page

Rhyfel Gaza: ydyn ni ar fai?

Mae’n anodd credu ein bod mor ddiffrwyth yn wyneb trychineb ac anfadwaith Gaza. Medrwn ni ddim esgus nad oes gennym ran yn y gyflafan, oherwydd mae pob un ohonom sy’n talu treth i wladwriaeth Prydain yn cyfrannu at ddarparu cyfran o’r bomiau sy’n disgyn ar drueiniaid Gaza. Mae hynny’n ein gwneud ni’n fwy na rhannol gyfrifol.


Ond wrth gwrs, mae yna filoedd allan ar y strydoedd, yma yng ngwledydd Prydain ac ar draws y byd, yn protestio ac yn galw am gadoediad. Ond ydy hynny’n cael effaith o gwbwl ar arweinwyr y Gorllewin? Fawr ddim! Rydyn ni’n ȏl yn yr un sefyllfa ag yr oedden ni cyn rhyfel Irac – pan ddaeth y miliynau allan ar strydoedd Llundain i ofyn i Blair beidio ymuno yn y rhyfel diangen hwnnw. Ond wnaeth neb wrando. Lladdwyd y miloedd diniwed ac mae Irac heddiw, os rhywbeth, mewn cyflwr gwaeth nag oedd hi cynt.


Ateb y Gorllewin y tro hwn yw arllwys biliynau yn rhagor i bydew y fasnach arfau; ac anfon mwy nag erioed i’r Wcrain, i Israel ac i fannau eraill lle mae ‘democratiaeth’ mewn peryg. Ond does fawr ddim sôn am gael pobol at ei gilydd i chwilio am gytundeb. Does fawr ddim ymdrech i ganfod rhyw ffordd i osgoi mwy fyth o ladd a distryw. Mae gwir angen gofyn pwy sy’n ennill o’r bomio di-dor yn yr Wcrain a Gaza. Oes rhywun wir yn medru ennill? Oes pwrpas i Rwsia chwalu’r union diriogaeth y mae hi’n honni i’w choleddu? Oes unrhyw reswm o gwbwl i Israel ddinistrio Gaza gyfan a chreu miliynau o ffoaduriaid digartref? Does neb yn ennill. A does dim rheswm na rhesymeg i’r hyn sy’n digwydd yn ein henw ni.


Roedd ateb Paul yn ei lythyr at yr Effesiaid yn glir. Mae’n frwydr hir iawn yn erbyn y pwerau sy’n credu mai rhyfel yw’r ateb: ganddyn nhw y mae’r adnoddau, yr arian a’r grym, a wnân nhw ddim ildio ar chwarae bach. Rhyfela yw eu natur. A’i gyngor i’r Effesiaid oedd eu hatgoffa o’r hyn na ŵyr gwleidyddion ein dyddiau ni ei ystyr – sef mai brwydr ysbrydol yw brwydr y Cristion yn erbyn y rhyfelgwn. Dadl ysbrydol yw ein dadl ni Gristnogion ffaeledig yn erbyn diwylliant rhyfel.


“Gan hynny”, meddai Paul, “ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichi fedru sefyll yn y dydd drwg… a gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl Tangnefedd yn esgidiau am eich traed… ymarfogwch â tharian ffydd… derbyniwch iachawdwriaeth yn helmed, a’r Ysbryd, sef gair Duw, yn gleddyf yn eich llaw”.


Wrth i’r ddwy blaid fawr ym Mhrydain gystadlu â’i gilydd i weld pwy all addo gwario fwyaf ar arfau rhyfel, rhaid i ni Gristnogion godi ein llais a dweud yn glir nad dyma’r ffordd i greu byd o heddwch. Nid dyma’r ffordd i ddod a chenhedloedd y ddaear at ei gilydd mewn cytgord. Os ydym yn mynd i barhau ar ras wyllt i weld pwy all greu fwyaf o arfau, byddwn yn cyfrannu at y  momentwm gwallgof nad oes iddo ond un canlyniad – sef rhyfel a all ddinistrio’r ddynoliaeth gyfan.


Ond mae gwerin bobloedd y byd yn dyheu am yr un peth – sef yr hawl i fyw mewn rhyddid a heddwch a diogelwch. Ein dyletswydd ni fel dilynwyr Iesu yw dweud mai hon yw’r frwydr ysbrydol a moesol y mae’n rhaid i ni ei hymladd. Cyn iddi fynd yn rhy hwyr.


Roedd Waldo Williams, y Cristion o Grynwr, a’r Cenedlaetholwr o Heddychwr, yn credu yn “rhwydwaith dirgel Duw, sy’n clymu pob dyn byw”. Roedd Victor Jara, y cyfansoddwr a’r comiwnydd o Chile a laddwyd gan Pinochet hanner can mlynedd yn ôl i’r llynedd, yntau yn credu yn y ‘gadwyn’ sy’n clymu’r ddynoliaeth ynghyd, ac fel y dywed yn ei gerdd El derecho de vivir en paz:


“Hon yw cân y byd yn grwn – y gadwyn sy’n ennill y dydd, a’r hawl i bobol fyw mewn heddwch”.


Dafydd Iwan

5 Mai 2024

bottom of page